MAE’n wir i ddweud fod sawl anghydfod cymdeithasol wedi dod i’r wyneb mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru yn ddiweddar. Mae diweithdra’n cynyddu, a phrisiau tai a’r nifer o ymwelwyr ac ail gartrefi wedi codi.


Ond heibio’r golygfeydd godidog a’r traethau delfrydol, nid pob ymwelydd sy’n ymwybodol o’r trafferthion sy’n wynebu pobl leol a chymunedau Cymru.
Mae sawl enghraifft led led Cymru.


Er enghraifft yn Ynys Môn, £260,000 ar gyfartaledd yw pris tŷ.
Ond gyda chyflog blynyddol ychydig dros £27,000 ar gyfartaledd ar yr ynys, does dim llawer o obaith i’r bobl leol i brynu tai, sy’n golygu eu bod yn gadael a’r cymunedau yn dirywio.
Mae mwy a mwy o bobl di-Gymraeg yn symud i’r ardaloedd hyn ac mae’r cymunedau yn wynebu dau ddewis – eu hanwybyddu nhw neu eu croesawu a’u addysgu nhw am eu cymuned newydd.


Mewn cyfres newydd ar S4C, cawn ddilyn cyplau sydd yn ystyried Symud i Gymru – a hynny’n barhaol. Bydd pob cwpwl yn cael profiad unigryw o gael eu trochi mewn diwylliant a dwyieithrwydd, yn ogystal â gweld rhai o’r tai sydd ar werth yn yr ardaloedd cyn gwneud y penderfyniad mawr ar ddiwedd y rhaglen – a fyddant yn Symud i Gymru?


Ac ym mhob rhaglen, mi fydd pobl leol yn tywys y cyplau drwy bob cam o’r broses.
Y tywyswyr yn Ynys Môn ydi Dan a Bethan Jones, sy’n rhedeg busnes Bragdy Cybi.
Maen nhw’n gwneud ymdrech i gael eu cwsmeriaid i roi cynnig ar y Gymraeg ac yn gwneud popeth yn ddwyieithog.


Yn eu tyb nhw, mae’n rhaid i Gymry Cymraeg annog y bobl sy’n symud i fewn i’r cymunedau ac nid eu dychryn nhw a’u “dysgu mewn ffordd dydyn nhw ddim yn sylwi bo nhw’n cael gwers.”


Er hyn, mi roedd gan Bethan rai pryderon am yr ymateb o gymryd rhan mewn rhaglen fel hon: “Ar y dechrau mi oedden ni yn poeni bysa pobl yn meddwl ein bod ni’n ddauwynebog.
“Ac yn mynd i gael ein gweld yn hypocrtical bo ni’n deud ‘dewch i Gymru’…Ond maen nhw am ddod fewn, fedrwn ni ddim stopio pobl…Ond be ydyn ni’n ddweud rili ydi dewch i Gymru os ydych chi am ddod, ond cofiwch barchu ni pan ‘da chi yma a sylweddoli bo gennym ni ffordd o fyw, ein bod ni’n siarad Cymraeg a gwneud bob dim o ddydd i ddydd trwy gyfrwng y Gymraeg.”


“Os ydyn ni’n gelyniaethu nhw, mae nhw jest am droi eu cefnau a dydyn nhw ddim am drafferthu.”


A’r cwpwl sy’n ystyried Symud i Gymru ar ôl cwympo mewn cariad â Ynys Môn yw Phil ac Anne Marie Mason o Newcastle-under-Lyme, sy’n cyfaddef eu bod nhw wedi clywed mwy o bobl yn siarad Cymraeg yn y pedwar diwrnod o ffilmio o gymharu â’r 4 mlynedd o ymweld â’r ynys.


“The Welsh language is spoken more than what I thought it was, and I thought it was dying to be honest,” meddai Phil, “But from my experience with the people I’ve met while I’ve been here, it isn’t.


“It’s strong and it’s thriving, and I thought that was amazing. And that’s what makes me more determined to get it into my head.”


Mae’r agwedd yma’n galonogol i Bethan: “Be ‘da ni eisiau ydi i fwy o bobl sy’n symud yma i fod efo’r agwedd yna. I fod yn barod i ffitio fewn a dod yn rhan o’r gymuned, ac mae gennym ni gyfrifoldeb fel Cymry i annog nhw yn hytrach na’u dychryn nhw.”


Felly, a fydd y cyplau yn y gyfres hon yn penderfynu cofleidio iaith a diwylliant Cymru? Bydd y gyfres yn dilyn cyplau mewn lleoliadau megis Ynys Môn, Aberystwyth a Gwynedd i’w helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch Symud i Gymru.


Gwyliwch Symud i Gymru ar S4C ar Nos Fercher 14 Medi, am 9.00. Ac yn dilyn y rhaglen gyntaf, mi fydd pennod arbennig o Pawb a’i Farn yn fyw o Ben Llŷn ar nos Iau 15 Medi yn trafod y pwnc yma.