Home » £1.7m ar gyfer prosiectau cymunedol lleol
Community Cymraeg National News

£1.7m ar gyfer prosiectau cymunedol lleol

John Summers Clock Tower- Deeside

MAE 24 o brosiectau cymunedol ledled Cymru wedi derbyn cyfran o dros £1.78m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ariannu amwynderau a ddefnyddir yn helaeth i wella eu cynaliadwyedd. Mae’r amwynderau hynny’n darparu cyfleoedd i bobl leol eu defnyddio fel rhan o’u bywydau bob dydd.

Mae’r grantiau diweddaraf (hyd at £250,000) wedi’u dyfarnu i’r canlynol:

  • Canolfan Glanhwfa Cyf, Ynys Môn – £250,000 i adnewyddu’r Capel a chreu canolfan gymunedol.
  • Cyngor Plwyf Eglwysig Llandyfodwg a Chwm Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr – £153,000 i ddarparu canolfan gymunedol sy’n cynnwys cyfleusterau modern.
  • Sefydliad Enbarr, Sir y Fflint – £237,000 i atgyfodi Adeilad John Summers (safle hen waith dur Shotton) at ddibenion busnes i alluogi’r gymuned leol i fanteisio ar gyfleoedd i gael gwaith.
  • Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan, Castell-nedd Port Talbot – £163,000 i adnewyddu’r llyfrgell gymunedol, sy’n cynnwys man penodol i blant.
  • Ymddiriedolaeth Eglwys Gymunedol Bethel, Casnewydd – £249,000 i ehangu capasiti’r adeilad i ddarparu ar gyfer mwy o brosiectau cymunedol. Cafodd yr adeilad ei losgi’n ulw yn y gorffennol.
  • YMCA Pontypridd, Rhondda Cynon Taf – £250,000 i ailddatblygu’r YMCA. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio’n benodol ar gyfer y feithrinfa a’r ardaloedd cymunedol.
  • RSPCA Llys Nini, Abertawe – £195,000 i adeiladu ‘Yr Ysgubor’, sy’n cynnwys caffi â man chwarae i blant, ystafell gyfarfod/ystafell ddosbarth, siop elusen a man penodol ar gyfer rhoddion.

Mae’r grantiau diweddaraf llai (hyd at £25,000) wedi’u dyfarnu i’r canlynol:

  • Theatr Beaufort, Blaenau Gwent – £7,000 ar gyfer system goleuadau fodern sy’n arbed ynni.
  • Clwb Chwaraeon Cymunedol Blaina, Blaenau Gwent – £20,000 i gwblhau cam cyntaf gwaith adnewyddu’r adeilad.
  • Friends of Six Bells Park, Blaenau Gwent – £10,000 i roi wyneb newydd ar eu cyrtiau tenis.
  • Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Treowen Stars, Caerffili – £25,000 i adnewyddu tŷ’r clwb i’w ddefnyddio fel canolfan gymunedol.
  • Cyfeillion Parc Eco, Caerffili – £10,000 i brynu cynhwysydd (amlwyth) mawr metel wedi’i addasu i’w ddefnyddio fel swyddfa / ystafell ysgol / ffreutur.
  • Neuadd Bentref Newydd Llanarthne, Sir Gaerfyrddin – £25,000 i gwblhau toiledau i’r anabl, cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau cawod.
  • Cyngor Eglwys Capel Dewi, Ceredigion – £6,500 i wella’r system wresogi ac adnewyddu’r toiled mewn adeilad alanol.
  • Sied Dynion Prestatyn, Sir Ddinbych – £10,000 i brynu Canolfan John Moore sydd ar brydles ar hyn o bryd.
  • Basecamp Cooperative Cas-gwent, Sir Fynwy – £9,600 i ddarparu lle diogel i bobl ifanc yn y gymuned gasglu a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
  • Grŵp Gweithredu Cymunedol Parc Gelligaled, Rhondda Cynon Taf – £25,000 i adeiladu man chwarae amlddefnydd.
  • Cymdeithas Lles Garnswllt, Abertawe – £22,500 i adnewyddu eu neuadd, gan gynnwys ystafelloedd ymolchi a chyfleusterau newid babanod.
  • Eglwys Sain Ffagan Aberdâr, Rhondda Cynon Taf – £20,000 i atgyweirio eu hadeilad oherwydd difrod dŵr.
  • Clwb Hwylio Merthyr Tudful, Merthyr Tudful – £25,000 i wella eu cyfleusterau er mwyn cynnwys ystafell hyfforddi, cegin a mannau newid.
  • Canolfan Felin Fach, Gwynedd – £12,000 i adnewyddu a disodli eu cegin.
  • Grŵp Gweithredu Maes y Pant, Wrecsam – £10,000 i greu man chwarae newydd i blant yn y coetir cymunedol.
  • Llyfrgell Gymunedol Gresffordd, Wrecsam – £24,740 i osod offer gwresogi ac inswleiddio newydd i wneud y safle’n fwy effeithlon o ran ynni.
  • Darlledu Cymunedol Wrecsam, Wrecsam – £25,000 i greu dau le stiwdio ar gyfer sioeau radio sy’n cael eu darlledu’n fyw a rhai a gaiff eu recordio ymlaen llaw.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Mae’n wych gweld yr amrywiaeth eang o brosiectau a sefydliadau o bob cwr o Gymru sydd o fudd mawr i’w cymunedau lleol diolch i’r cyllid hwn.

online casinos UK

“Nawr yn fwy nag erioed, ar ôl yr 20 mis diwethaf, mae ein cymunedau a’r cyfleusterau gwych ynddynt yn ganolfannau ar gyfer dwyn pobl ynghyd er mwyn ailgodi Cymru sy’n gryfach ac yn decach i bawb.”

Dyfarnwyd £237,000 i Sefydliad Enbarr i adnewyddu Tŵr Cloc eiconig John Summers yng Nglannau Dyfrdwy, er mwyn datblygu man cymunedol i bawb.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Vicki Roskams:

“Er gwaethaf yr heriau eithriadol y mae Enbarr a’r gymuned wedi’u hwynebu yn ystod y 18 mis diwethaf, ysbryd cymunedol a gwydnwch pobl Cymru sydd wedi dod i’r amlwg.

“Gyda’r cyllid hanfodol hwn rydyn ni’n gobeithio adnewyddu llawr isaf Tŵr Cloc eiconig Gradd II John Summers i greu canolfan sgiliau cymunedol a threftadaeth i gefnogi twf, sgiliau ac entrepreneuriaeth leol, yn ogystal â datblygu canolfan iechyd a lles.

“Heb y grant hwn y mae mawr ei angen arnom gan Lywodraeth Cymru, byddai ein blynyddoedd o waith cynllunio wedi cael ei ohirio am gyfnod hirach.”

Mae Llyfrgell Gymunedol Gresffordd, sy’n gwasanaethu grŵp o bentrefi ger Wrecsam, wedi derbyn bron £25,000 i wneud ei safle’n fwy effeithlon o ran ynni.

Dywedodd Jan Jones, y Cyfarwyddwr a’r Ymddiriedolwr:

“Mae Llyfrgell Gymunedol Gresffordd yn elusen fach sy’n cael ei rheoli’n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Rydyn ni’n darparu’r holl wasanaethau llyfrgellol nodweddiadol ac, os yw pobl eisiau rhywbeth nad oes gennym, gallwn ni ofyn am lyfrau ac ati o bob rhan o’r rhanbarth. Mae’r bobl leol yn dweud ein bod ni – drwy ein llyfrau a’n jig-sos – wedi eu helpu i ddal i fynd a goddef cyfyngiadau COVID.

“Rydyn ni wrth ein boddau ac yn ddiolchgar iawn i Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru am y gefnogaeth hon. Gallwn ni gael gwared ar ein boeler nwy hynafol nawr, a newid i rywbeth sy’n wyrddach ac yn fwy effeithlon. Am y tro cyntaf gallwn ni edrych ymlaen at aeaf cynhesach, heb orfod poeni am filiau nwy na allwn ni eu fforddio ac allyriadau carbon uchel!”

Mae YMCA Pontypridd, yn Rhondda Cynon Taf, wedi derbyn £250,000 tuag at ailddatblygu’r YMCA.

Meddai Jên Angharad, Prif Swyddog Gweithredol Cymuned Artis:

“Mae adeilad YMCA Pontypridd wedi bod yn gwasanaethu pobl Pontypridd ers 111 o flynyddoedd. Mae wedi bod yn lle sy’n dod â’r gymuned at ei gilydd erioed. Ac yn sgil y cyfle hwn i adfer yr adeilad, rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn gallu adfywio’r adeilad unwaith eto fel canolfan ar gyfer diwylliant, creadigrwydd a’r celfyddydau ar Stryd Fawr Pontypridd.

Bydd cyllid y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ein galluogi i gwblhau’r gwaith o ailddatblygu’r adeilad a gwireddu gweledigaeth YMCA Pontypridd, Cymuned Artis a’r nifer fawr o bobl sydd wedi bod yn ymwneud â rhannu syniadau ar gyfer ailwampio’r adeilad, yn ogystal â’n prif bartneriaid a chyllidwyr; sef Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Moondance a Sefydliad Garfield Weston.

Ar ôl ei gwblhau, bydd yr adeilad yn gartref i Neuadd Shelley a fydd yn gallu darparu ar gyfer 150 o bobl, ac yn cynnwys llawr dawnsio sbring, theatr stiwdio, ystafell gelf, caffi, lle manwerthu ac ystafelloedd i’w llogi ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau, cyflwyniadau, partïon ac ati – ac fe fydd yn cael ei rheoli gan Gymuned Artis.”

Mae Cyngor Plwyf Eglwysig Llandyfodwg a Chwm Ogwr, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi derbyn dros £150,000 i greu cyfleuster cymunedol ar ôl i’r pentrefwyr golli eu hysgol gynradd, tafarn a siop leol yn ddiweddar.

Dywedodd Gill Morgan, Cydlynydd Cyllid Cyngor yr Eglwys:

“Ers blynyddoedd lawer rydyn ni wedi trefnu digwyddiadau cymunedol i godi arian at elusennau, ond roedd y diffyg cyfleustodau angenrheidiol yn golygu nad oedden ni wedi gallu defnyddio’r adeilad at ddibenion ehangach y gymuned. Diolch i’r cyllid hwn, gallwn ni ailddiffinio ac ailddychmygu ein rôl yn y gymuned leol drwy ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol, a thrwy fod yn bwynt cyswllt sy’n rhoi’r eglwys yng nghanol bywyd lleol unwaith eto.

“Mae’r Eglwys yn adeilad hanesyddol o ddiddordeb pensaernïol sydd â chysylltiadau treftadaeth cryf. Bydd cyllid y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn diogelu dyfodol yr adeilad – a fydd yn ganolbwynt ar gyfer balchder y pentrefwyr am orffennol hanesyddol yr adeilad, yn ogystal â bod yn ganolfan ar gyfer adfywio’r gymuned.”

Mae modd gwneud cais am gyllid y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol drwy gydol y flwyddyn. Gall sefydliadau gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen drwy chwilio am y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol drwy llyw.cymru.

Author