Home » Cadeirydd Newydd HCC yn Nodi Blaenoriaethau
Cymraeg

Cadeirydd Newydd HCC yn Nodi Blaenoriaethau

Yn ei chyfarfod Bwrdd cyntaf fel cadeirydd newydd Hybu Cig Cymru (HCC), mae Catherine Smith wedi nodi blaenoriaethau’r bwrdd ardoll ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.

Yn y cyfarfod – a gynhaliwyd yn rhithiol oherwydd cyfyngiadau COVID – croesawyd dau aelod newydd, sef Jack Evershed ac Emlyn Roberts. Cafwyd ddadansoddiad o ofynion y  defnyddwyr wrth i Brydain ddod allan o’r cyfnod clo, a chadarnhawyd blaenoriaethau’r sefydliad ar gyfer y flwyddyn i ddod.  Hwn oedd cyfarfod cyntaf y Bwrdd ers diwygio’r Ardoll Cig Coch ym mis Ebrill er mwyn rhoi gwell chwarae teg i Gymru.

Mae diwygio’r ardoll, a gyflawnwyd yn sgil y Bil Amaeth yn San Steffan a thrafodaethau rhwng y tair llywodraeth, yn golygu y caiff yr ardoll i gynhyrchwyr ar anifeiliaid sy’n cael eu magu yng Nghymru ond sy’n cael eu lladd dros y ffin ei throsglwyddo i HCC ac na fydd Cymru’n ei cholli.

Dywedodd Catherine Smith: “Roedd diwygio’r Ardoll yn hir ddisgwyliedig, a bydd yn rhoi mwy o dryloywder a thegwch i ffermwyr yma yng Nghymru.

“Mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer y flwyddyn sy’n dod, pan fyddwn yn adeiladu ar y gwaith cadarnhaol iawn a wnaed gan HCC wrth ymateb yn effeithiol i heriau COVID a Brexit.

“Yn ganolog i’n cynlluniau, mae datblygu’r ymgysylltiad llwyddiannus â’r defnyddwyr a’r gwaith o adeiladu brand sydd wedi gweld cynnydd yng ngwerthiant cig coch dros y flwyddyn ddiwethaf, a Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cael eu gwerthu gan fwy o fân-werthwyr mawr.

online casinos UK

“Rydym hefyd yn bwriadu gweithio’n agos â llywodraethau a’r cyrff sy’n bartneriaid i ni yn Lloegr a’r Alban i sicrhau mynediad i farchnadoedd newydd ar gyfer ein cynhyrchion ac i ddatblygu masnach.

“Yn ogystal, bydd HCC yn rhoi blaenoriaeth uchel iawn i hyrwyddo’r modd rydym yn arwain y byd o ran cynhyrchu cig oen a chig eidion yma yng Nghymru, gan adeiladu ar ein gweledigaeth, ‘Y Ffordd Gymreig’. Ar ben hyn, byddwn yn gwneud gwaith hanfodol, ochr yn ochr â phartneriaid mewn rhannau eraill o Brydain, i amddiffyn a gwella enw da ein diwydiant. Bydd yna gerrig milltir allweddol eleni – fel uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow. Mae’n hanfodol bod y cyhoedd yn deall nad yw pob dull o ffermio ledled y byd yr un fath, a bod gennym gyfraniad cadarnhaol i’w wneud tuag at gynaliadwyedd a diogelwch bwyd yn fyd-eang.”

Author