Home » Ceisio barn ar gyfer strategaeth newydd yr iaith Gymraeg
Cymraeg Pembrokeshire

Ceisio barn ar gyfer strategaeth newydd yr iaith Gymraeg

People with flag of wales isolated on white. 3D illustration

MAE Cyngor Sir Penfro yn ceisio adborth o bob rhan o’r sir i helpu i lunio ei Strategaeth Iaith Gymraeg nesaf.

Mae Safonau’r Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor lunio strategaeth 5 mlynedd, sy’n nodi cynigion ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yn ehangach yn Sir Benfro.

Yn dilyn adolygiad o strategaeth 2016-2021, a sefydlodd nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir, nodwyd nifer o themâu dros dro ar gyfer y strategaeth newydd:

  • Parhau i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar
  • Parhau i ddatblygu ac ehangu Addysg Gynradd ac Uwchradd Cyfrwng Cymraeg o fewn y Sir
  • Gwella cyfleoedd i bobl ifanc 16+ mlwydd oed ddefnyddio’r Gymraeg
  • Parhau i ddarparu cyfleoedd dysgu cymunedol Cymraeg i oedolion
  • Cefnogi gwelliannau mewn cysylltedd digidol a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar-lein
  • Mae ein gweithgareddau cynllunio, tai ac adfywio yn helpu i ddiogelu a gwella cyfleoedd i siarad Cymraeg yn ein cymunedau
  • Gwella’r canfyddiadau o rôl pwysigrwydd y Gymraeg wrth ddarparu arweinyddiaeth gymunedol, drwy alluogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y cyngor a chyfarfodydd Pwyllgor eraill
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o Safonau’r Gymraeg a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn Cyngor Sir Penfro
Cymraeg – Welsh – Wales language sign

Mae’r Cyngor yn awyddus i glywed sylwadau ac awgrymiadau pobl ar y themâu dros dro, a fydd yn helpu i lunio Strategaeth ddrafft y Gymraeg ar gyfer 2021-2026.

Bydd y Cabinet yn ystyried y strategaeth ddrafft ym mis Mehefin, gyda chyfle pellach i roi adborth ar y strategaeth ddrafft fel rhan o ymgynghoriad ffurfiol yn ddiweddarach eleni.

I rannu eich barn, ewch i https://dweudeichdweud.sir-benfro.gov.uk/

online casinos UK

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 28 Ebrill

Author