Home » Raffl Comins Coch NHS yn gorffen yn fuan
Cymraeg

Raffl Comins Coch NHS yn gorffen yn fuan









Mae dal amser i gymryd rhan mewn raffl wych a drefnwyd gan Gareth Whalley o Comins Coch,
Aberystwyth, i gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda.
Mae’r digwyddiad https://raffall.com/179793/enter-raffle-to-win-hywel-dda-raffle-extravaganza-
hosted-by-gareth-whalley yn dod i ben yr wythnos hon ac mae eisoes wedi codi dros £1,320.

Mae
Gareth hefyd yn bwriadu cymryd rhan mewn naid am nawdd yn ddiweddarach eleni, fydd yn dod â
cyfanswm ei ymgyrch i dros £1,760.


Dywedodd Gareth: “Gyda Rhian (fy chwaer) wedi geni Efan, bachgen bach hyfryd yn Glangwili a’r
gofal eithriadol y mae wedi’i gael yno rwy’n fwy penderfynol nag erioed i gadw’r momentwm i fynd
nes bydd y raffl yn gorffen ddydd Llun.”


Meddyg GIG yw cariad Gareth. Ychwanegodd: “Gan wybod pa mor brysur yw hi ar hyn o bryd, nid
wyf wedi ei gweld ers mis Rhagfyr oherwydd y cyfyngiadau ac rydw i wir eisiau codi cymaint ag y
gallaf gan fy mod i’n falch ohoni a’r hyn mae hi’n ei wneud.

Gareth Whalley


“Rwy’n gobeithio y cawn ni newyddion cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru ar leddfu cyfyngiadau yn
yr adolygiad nesaf a bydd yn rhoi rhywbeth i’r enillwyr lwcus edrych ymlaen ato wedi Gaeaf anodd
iawn.”


Mae Heather, mam Gareth yn nyrs yn Hywel Dda ac mae wedi gweithio yn y GIG ers dros 40
mlynedd. Meddai, “Mae’r GIG wedi golygu llawer iawn i ni fel teulu. Rydym yn falch iawn o Gareth ar
gwaith y mae’n ei wneud i godi arian i’r GIG. Mae wedi gwneud rhywbeth nad yw’n gyfforddus yn ei
wneud trwy wneud naid am nawdd a nawr mae wedi penderfynu codi arian pellach trwy gynnal raffl
gyda gwobrau gwych sydd wedi’u rhoi gan gwmnïau lleol o Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. ”
Meddai Gareth, “Rwy’n gwneud hyn i ddweud diolch enfawr i staff y GIG, sydd wedi bod trwy
gymaint. Rwyf hefyd eisiau gwneud rhywbeth i godi ysbryd y cyhoedd a hefyd i roi’r cyfle i ennill
gwobrau gwych.
“Mae’r raffl yn cymryd mwy o drefnu na’r naid am nawdd, ond rydw i wedi mwynhau trefnu
gwobrau gwych. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r holl fusnesau lleol am y rhoddion anhygoel o garedig,
hebddyn nhw ni fyddai wedi bod yn bosibl, ”meddai.
Meddai Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, “Rydyn ni’n
ddiolchgar iawn i Gareth am wynebu ei ofnau a gwneud naid am nawdd i ni yn ddiweddarach eleni,
ac mae’n wych ei fod wedi dod o hyd i ffordd wych arall o godi arian a fydd yn darparu eitemau
ychwanegol i gleifion a staff y tu hwnt i wariant craidd y GIG. ”
Yn y llun gwelir mam Gareth a’i chydweithwyr GIG yng Nghanolfan Thomas Parry yn Aberystwyth a
Gareth a rhai o’r gwobrau a roddwyd gan fusnesau lleol.

online casinos UK

Author