Home » Cronfa Bensiwn Gwynedd: Dadfuddsoddi o Danwydd Ffosil
Cymraeg Gwynedd North Wales

Cronfa Bensiwn Gwynedd: Dadfuddsoddi o Danwydd Ffosil

Datganiad Cronfa Bensiwn Gwynedd

RYDYM wedi derbyn nifer o geisiadau yn ddiweddar ynglŷn a gosod amserlen uchelgeisiol tuag at ddad-fuddsoddi yn gyfan gwbl o danwyddau ffosil, ond fel ymddiriedolwyr cronfeydd pensiwn mae’n fwy cyfrifol i ni gynllunio’n briodol, cymryd camau go wir, a dylanwadu lle’n bosib er lles ein amgylchedd.

Mae gan Gronfa Bensiwn Gwynedd ddyletswydd ymddiriedol i holl gyflogwyr y cynllun, eu staff a’u pensiynwyr. Y ‘fiduciary duty’ yma, yn bennaf, sy’n llywio penderfyniadau’r Pwyllgor Pensiynau. Nid yw’r Gronfa yn dad fuddsoddi am resymau anariannol yn unig, yn anad dim oherwydd gallai hyn arwain at her gyfreithiol.

Buddsoddir asedau’r Gronfa Bensiwn er mwyn darparu enillion ariannol i sicrhau diogelwch ariannol staff a phensiynwyr. Mae dychweliadau hefyd yn lleihau cost i’r cyflogwyr, sydd wedyn yn lleihau’r gost i dalwyr Treth Cyngor, neu yn osgoi torri gwasanaethau lleol. Mae hwn yn gyfrifoldeb cymdeithasol pwysig y mae’r Pwyllgor Pensiynau yn ymwybodol iawn ohono.

Fodd bynnag, mae rheolwyr a’r Pwyllgor Pensiynau wedi bod yn gweithio ers peth amser i sicrhau fod Cronfa Bensiwn Gwynedd, ein hymgynghorwyr a’n rheolwyr asedau yn edrych i fuddsoddi mewn asedau cynaliadwy. Rydym wedi gofyn i’n rheolwyr asedau ni ymgysylltu gyda chwmnïau o ran eu cynlluniau ar gyfer dyfodol carbon isel. Drwy hyn, mae’r Gronfa Bensiwn wedi rhoi pwysau ar gwmnïau i gynyddu ymdrechion yn y maes pwysig hwn.

Mae’r Pwyllgor Pensiynau, mewn amryw seminarau a chyfarfodydd, wedi trafod materion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (‘ESG’) yn rheolaidd. Yng nghyfarfod Tachwedd 2018, penderfynodd y Pwyllgor Pensiynau ddiwygio Datganiad Strategaeth Buddsoddi’r Gronfa i nodi ein egwyddorion buddsoddi cyfrifol.

Mae’r Polisi Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu yma’n amlinellu’r – “angen i ystyried y risgiau penodol sy’n codi o newid yn yr hinsawdd wrth ystyried buddsoddiadau.”

Mae buddsoddi cyfrifol yn fater sy’n cael sylw ym mhob cyfarfod o’n panel buddsoddi, lle rydym yn trafod gyda chwmnïau sy’n buddsoddi ar ein rhan ni. Mae cynlluniau parhaus ar y gweill gan y cwmniau buddsoddi yma i wella ei ôl troed carbon ac rydym yn cyd-weithio gyda nhw a’r Pwyllgor Pensiynau er mwyn gweithredu’r cynlluniau yma. Enghreifftiau sydd ar y gweill ar y funud:

online casinos UK
  • Black Rock (12% o Gronfa Gwynedd)- Mae cronfa carbon isel pellach wedi ei ddatblygu sydd yn sgrinio tanwydd ffosil cyn yr optimeiddio carbon isel, ac felly yn lleihau carbon o 44% ychwanegol. (penderfyniad Pwyllgor Pensiynau, 14 Hydref 2020)
  • Bailie Gifford (6% o Gronfa Gwynedd) – Rhan o ein buddsoddiad gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru sydd wedi datblygu cronfa sydd yn dad- fuddsoddi o gwmnïau echdynwyr tanwydd ffosil a darparwyr gwasanaeth tanwydd ffosil (penderfyniad Pwyllgor Pensiynau, 21 Ionawr 2021)
  • Cronfa Global Opportunities (16% o gronfa Gwynedd) – Partneriaeth Pensiwn
    Cymru yn comisiynu ‘decarbonisation overlay’ gan Russell Investments sy’n lleihau’r ôl-troed carbon o 25%. Hefyd, bydd posib gweithredu’r un ‘overlay’ ar ein trosglwyddiad nesaf i gronfa marchnadoedd datblygol PPC (3% o gronfa Gwynedd) yn hydref 2021.
  • UBS Triton – mae gan ein Cronfa ddyraniad 10% i fuddsoddiadau mewn eiddo. Mae un o’n rheolwyr eiddo, UBS, wedi cadw safle rhif 1 yn ei grŵp o gyfoedion ar gyfer eu sgôr ‘ESG GRESB’ yn 2020 (meincnod byd eang ar gyfer ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol o fewn y maes eiddo).

Yn ogystal â gweithredu’r cynlluniau penodol yma, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn gyfrifol drwy ymgysylltu gyda chwmnïau ac ein rheolwyr asedau. Mae buddsoddi cyfrifol yn bwysig i bob cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ac rydym yn gallu cydweithio drwy’r Local Authority Pension Fund Forum (LAPFF). Nod y LAPFF yw hyrwyddo’r safonau uchaf o lywodraethu corfforaethol i amddiffyn gwerth tymor hir cronfeydd pensiwn awdurdodau lleol. Mae’r Fforwm yn ymgysylltu’n uniongyrchol â channoedd o gwmnïau, a’u cadeiryddion. Gwneir hyn trwy adeiladu ymddiriedaeth a chael deialog dwy ffordd ynghylch cyfrifoldeb corfforaethol yn y meysydd o stiwardiaeth, risg hinsawdd, risg cymdeithasol a risg llywodraethu. Mewn undeb mae nerth a gan fod y LAPFF yn cydnabod bod ‘newid yn yr hinsawdd yn risg buddsoddi sylweddol a brys’ mae’n fforwm ddefnyddiol i sicrhau dylanwad positif.

Gobeithio bydd hyn yn eich argyhoeddi fod Cronfa Bensiwn Gwynedd ddim yn llaesu dwylo ynglŷn a’r agenda newid hinsawdd, ond fod yr ateb yn gorfod bod yn fwy soffistigedig na dad-fuddsoddi yn gyfan gwbl o danwyddau ffosil.

Author