Home » Cyhoeddi enillydd Tlws Prif Artist Eisteddfod T
Cymraeg

Cyhoeddi enillydd Tlws Prif Artist Eisteddfod T

Prif Artist Eisteddfod T eleni yw Rhiannon Gwyn o Sling, ger Bethesda.

Yn ôl beirniad y gystadleuaeth, Lisa Eurgain Taylor, bu i 25 o artistiaid ifanc gystadlu eleni ac roedd hi “wedi dychryn” gyda safon uchel y gwaith.

“Cefais bleser llwyr yn mynd trwy’r ceisiadau,” meddai’r beirniad Lisa Eurgain Taylor. “Dw i wrth fy modd efo gwaith Rhiannon a’r syniadau tu ôl i’w gwaith cerameg… Dw i wir yn gallu teimlo ei chariad hi tuag at Ogledd Cymru ac mae’n cyfleu Eryri yn berffaith drwy ei gwaith.”

Graddiodd Rhiannon gyda gradd dosbarth cyntaf Artist Dylunydd: Gwneuthurwr o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2019, ac ar ôl preswyliad blwyddyn ar raglen ‘Inc Space’ i Raddedigion Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, mae hi bellach wedi dychwelyd adref i ogledd Cymru. Yn ôl Rhiannon, mae cael ei magu yn ardal chwarelyddol y Sling ger Bethesda wedi ac yn parhau i ddylanwadu’n gryf ar ei gwaith creadigol.

“Mae fy ngwaith yn archwilio ymdeimlad o le a’r syniad o fod â chysylltiad dwfn â’r dirwedd,” meddai Rhiannon. “Rwy’n gweithio’n bennaf gyda llechi i greu naratif sy’n adlewyrchu fy ymdeimlad o hunaniaeth trwy archwilio’r cysylltiadau rhwng tirwedd fy nghartref yng Ngogledd Cymru a mi fy hun. Mae hyn yn cynnwys archwilio potensial llawn llechi drwy eu cynnwys gyda phrosesau cerameg i greu gwrthrychau sy’n portreadu ffurfiau o’r tir.”

Fel Prif Artist Eisteddfod T mae Rhiannon yn derbyn tlws arbennig wedi ei greu gan y cerflunydd Ann Catrin Evans. Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Alys Gwynedd sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd ac yn drydydd oedd Kelsey Brooks sy’n astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

online casinos UK

Gellir dod o hyd i holl ganlyniadau Eisteddfod T hyd yma drwy ymweld â gwefan s4c.cymru/urdd

Bydd Eisteddfod T yn cael ei chynnal gydol yr wythnos hon, 31 Mai – 4 Mehefin. Mae 12,000 o gystadleuwyr wedi cystadlu mewn dros 120 o gystadlaethau. Mae modd ymuno yn yr hwyl, ar deledu, radio ac ar-lein a bydd canlyniadau a gwybodaeth ar wefan s4c.cymru/urdd ac ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd gyda’r hashnod #EisteddfodT.

Author