Home » Cyhoeddi enw’r Comisiynydd Plant Cymru nesaf
Cymraeg

Cyhoeddi enw’r Comisiynydd Plant Cymru nesaf

MAE’R Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cyhoeddi mai Rocio Cifuentes fydd Comisiynydd Plant newydd Cymru.

Bydd Ms Cifuentes yn cychwyn yn y swydd ym mis Ebrill 2022 pan fydd cyfnod Sally Holland yn dod i ben.

Mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am hyrwyddo a diogelu hawliau plant, a sicrhau bod polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru o fudd i blant a phobl ifanc.

Rocio Cifuentes yw prif weithredwr Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST), sef y prif sefydliad sy’n rhoi cymorth i gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Mae rôl Comisiynydd Plant Cymru yn un hynod bwysig – mae’r pandemig wedi amharu’n ddifrifol ar fywydau plant. Bydd y rôl yn helpu i lunio’r dyfodol i genhedlaeth o blant y mae’r coronafeirws wedi bod yn rhan enfawr o’u bywydau. Dyma pam ei bod mor bwysig parhau i gael llais cryf, fel bod rhywun yn eiriol dros blant ac yn cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.

online casinos UK

“Hoffwn dalu teyrnged i Sally Holland am ei holl waith fel Comisiynydd Plant. Mae Sally wedi bod yn eiriolwr cryf dros blant a phobl ifanc yng Nghymru – o wreiddio hawliau’r plentyn mewn darnau allweddol o ddeddfwriaeth i roi cipolwg i ni ar brofiadau plant yn ystod y pandemig, drwy’r arolygon eang ‘Coronafeirws a fi’ sydd wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol. Mae Sally Holland wedi gwneud cyfraniad aruthrol i genhedlaeth o blant yng Nghymru, a fydd yn parhau am gyfnod hir iawn.

“Nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae’n rhaid i’n penderfyniadau ni, fel Llywodraeth Cymru, adlewyrchu lleisiau plant a phobl ifanc. Rwy’n falch mai Rocio Cifuentes, ein Comisiynydd newydd, fydd yn gwneud y rôl bwysig hon.”

Derbyniodd y Prif Weinidog argymhelliad gan banel trawsbleidiol o Aelodau’r Senedd i benodi Ms Cifuentes yn Gomisiynydd Plant nesaf Cymru.

Ganwyd Ms Cifuentes yn Chile, a daeth i Gymru yn flwydd oed gyda’i rhieni fel ffoaduriaid gwleidyddol. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn astudio Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol cyn ymgymryd â Gradd Meistr mewn Ymchwil Gymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.

Bu’n arwain EYST ers y cychwyn cyntaf yn 2005. Cyn hynny, bu’n gweithio i Gyngor Cyrff Gwirfoddol Ethnig Leiafrifol Cymru, Prosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe, Coleg Gwŷr a Phrifysgol Abertawe.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt sef cadeirydd y panel dewis trawsbleidiol:

“Mae’n hanfodol bod gan ein Comisiynydd Plant nesaf wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad bywyd i sicrhau bod amrywiol safbwyntiau a gwerthoedd yn cael eu hystyried wrth lunio’r dyfodol mwy disglair y mae ein plant yn ei angen yn ddirfawr.

“Rwy wrth fy modd bod Rocio Cifuentes wedi cael ei phenodi yn Gomisiynydd Plant Cymru. Mae ganddi arbenigedd a dealltwriaeth ddi-guro a fydd yn ddefnyddiol iawn yn y rôl ac rwy’n edrych ymlaen at gael cydweithio â hi dros y blynyddoedd nesaf.”

 Dywedodd Rocio Cifuentes:

“Mae cael fy mhenodi’n Gomisiynydd Plant Cymru yn fraint ac anrhydedd o’r mwyaf. Fel ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mae rôl y Comisiynydd nawr cyn bwysiced ag y bu erioed, wrth i ni gyflawni ar gyfer y genhedlaeth o blant sydd wedi byw dan gysgod Covid-19. 

“Rwy’n ymrwymo heddiw i sicrhau bod llais, safbwynt a dyfodol holl blant a phobl ifanc Cymru wrth galon popeth yr ydym yn ei wneud.”

Author