Home » Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2022
Cymraeg

Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2022

WRTH i Cân i Gymru 2022 agosáu, mae’n amser cyhoeddi’r caneuon sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth fwyaf ddisgwyliedig Cymru. 

Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i gyflwyno’r gystadleuaeth fawreddog a fydd yn cael ei darlledu yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar nos Wener, y 4ydd o Fawrth. 

Y panel o arbenigwyr sydd wedi dewis yr wyth can sydd ar y rhestr fer yw Dafydd Iwan, Betsan Haf Evans, Lily Beau ac Elidyr Glyn. 

“Difyr iawn oedd cael bod ar y panel eleni, a hynny flynyddoedd lawer ers i mi gael y fraint o’r blaen. Yr argraff  ges i oedd bod y safon wedi codi gryn dipyn, a’r amrywiaeth yn rhyfeddol,” meddai Dafydd Iwan, y cerddor eiconig sydd ar fin dathlu 60 mlynedd yn y diwydiant.

“O ystyried mai cynnyrch amser hamdden yw’r caneuon hyn, a bod yna lawer o gyfansoddwyr na fyddai byth am gystadlu, mae gennym le i ymfalchïo fel Cymry yn ein creadigrwydd, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at glywed y rownd derfynol.”

Mae Elidyr Glyn, enillydd Cân i Gymru 2019, hefyd yn gyffrous: “Mae hi’n fraint cael gwahoddiad i gymryd rhan fel beirniad, a ‘dw i’n falch iawn o dderbyn y cyfle hwn i gyfrannu. Ar ôl cael cymryd rhan yn y broses o ddewis caneuon ar gyfer rhan ola’r gystadleuaeth, rwy’n awyddus iawn i glywed barn y cyhoedd wrth iddynt bleidleisio am yr enillydd. 

online casinos UK

“Mae amrywiaeth eang wedi cyrraedd yr wyth olaf eleni – a dweud y gwir roedd llawer mwy o ganeuon a fuasai hefyd wedi gallu cael lle haeddiannol ar y rhaglen. ‘Dw i’n amau y tro hyn y bydd hi’n rhaglen ble bydd gan lawer o bobl fwy nag un ffefryn, ac felly o bosib bydd hi’n gystadleuaeth agos.

“Dw i’n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o’r noson unwaith eto, ac yn dymuno pob lwc i bob un o’r cyfansoddwyr a’r perfformwyr.”

Yr wyth cân sydd wedi cael eu dewis i gystadlu am y siawns i ennill £5,000 a theitl Cân i Gymru 2022, yw: 

  • Rhyfedd o Fyd gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen. Geiriau gan Emlyn Gomer Roberts. Elain Llwyd yn perfformio.
  • Cana dy Gân gan Geth Tomos, geiriau gan Geth Robyns. Rhys Owain Edwards yn perfformio.
  • Paid Newid dy Liw gan Mali Hâf a Trystan Hughes. Mali Hâf yn perfformio.
  • Ymhlith y Cewri gan Darren Bolger.
  • Diolch am y Tân gan Carys Eleri a Branwen Munn. FFLOW yn perfformio.
  • Pan Ddaw’r Byd i Ben gan Steve Williams.
  • Mae yna Le gan Rhydian Meilir. Ryland Teifi yn perfformio.
  • Rhiannon gan Siôn Rickard.

Y gwylwyr sy’n gyfrifol am ddewis yr enillydd drwy fwrw’u pleidlais dros y ffôn. Mae manylion pleidleisio a thaflen sgôr ar gael ar wefan S4C yn https://www.s4c.cymru/cy/adloniant/cn-i-gymru/ .

Mae S4C hefyd yn paratoi rhestr chwarae o gyn-enillwyr, fydd ar gael i’w wylio ar sianel YouTube S4C o ddydd Sul 27 Chwefror.

Author