Mae darparwyr prentisiaethau ledled Cymru wedi llunio cynllun pum mlynedd sy’n canolbwyntio ar ddarparu Rhaglen Brentisiaethau gynhwysol a fydd yn cynnig cyfle cyfartal i grwpiau o bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd.

Nod y Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Prentisiaethau yw creu amgylchedd dysgu a fydd yn rhoi cyfle i bawb, beth bynnag yw eu cefndir, wireddu eu potensial, trwy eu doniau a gwaith caled.

Erbyn mis Gorffennaf 2026, nod y strategaeth yw sicrhau bod mwy o brentisiaid duon ac Asiaidd a rhai o leiafrifoedd ethnig (BAME), mwy o brentisiaid anabl, mwy o ferched yn brentisiaid yn y byd adeiladu a mwy o ddynion yn gwneud prentisiaethau mewn gofal iechyd ac yn y sector cyhoeddus.

Bydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cadw llygad barcud ar y cynnydd a wneir er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y targedau.

Gwahoddwyd y rhwydwaith darparu prentisiaethau yn ei gyfanrwydd i gyfrannu at y strategaeth, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a’i hysgrifennu gan Humie Webbe,  Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ar gyfer NTfW.

“Datblygwyd y strategaeth gan y darparwyr prentisiaethau sydd dan gontract i Lywodraeth Cymru a’i nod yw sicrhau Rhaglen Brentisiaethau gynhwysol lle caiff grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gyfle cyfartal i elwa,” meddai Humie.

“Ein gweledigaeth yw creu amgylchedd dysgu sy’n rhoi cyfle i bawb, beth bynnag yw eu cefndir, i wireddu eu potensial, trwy eu doniau a gwaith caled. Rydym yn awyddus i sicrhau bod pobl yn sylweddoli bod prentisiaethau’n agored i bawb a bod y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan ynddynt yn cael eu chwalu.

“Mae modd gwireddu hynny wrth i Lywodraeth Cymru, cyflogwyr a darparwyr prentisiaethau gydweithio i wneud prentisiaethau’n hygyrch, yn deg ac yn gynhwysol.”

Mae disgwyl i brentisiaethau chwarae rhan bwysig yng nghynllun Llywodraeth Cymru  i adfer yr economi ar ôl Covid-19. Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi pobl i gychwyn mewn dros 100,000 o brentisiaethau – merched oedd 60% o’r prentisiaid ac roedd 57% o’r prentisiaid yn 25 oed neu’n hŷn.

Y gobaith yw y bydd hyd yn oed ragor o bobl ifanc yn dewis prentisiaeth yn y dyfodol pan fydd Cwricwlwm i Gymru 2022 yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion hyrwyddo prentisiaethau a chynnig rhagor o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar yrfa fel rhan o raglen ddysgu hyblyg.

Dymuniad NTfW yw i bawb edrych ar brentisiaethau fel dewis gwerthfawr i anelu ato ac nid fel dewis eilradd sy’n tanlinellu stereoteipiau.

Nod y strategaeth EDI yw sicrhau mwy o gydbwysedd rhwng merched a dynion ym mhob rhan o’r rhaglen brentisiaethau a sicrhau bod y rhwystrau sy’n atal dysgwyr anabl a rhai o gefndiroedd BAME rhag mynd yn brentisiaid yn cael eu cydnabod a’u chwalu.

Bydd darparwyr prentisiaethau’n datblygu arferion i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn hybu ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol er mwyn helpu dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol yn ymwneud â’u diwylliant, eu hamgylchiadau cymdeithasol, eu hanabledd neu gyflwr eu hiechyd.

Byddant hefyd yn codi ymwybyddiaeth o brentisiaethau mewn Canolfannau Anghenion Dysgu Ychwanegol ac yn cynyddu eu sgiliau er mwyn cefnogi dysgwyr sy’n ei chael yn anodd dysgu trwy ddulliau ar-lein yn unig. 

Dywed y strategaeth bod angen herio agweddau ac ymddygiad mewn gweithleoedd er mwyn hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a’u hannog i recriwtio prentisiaid mwy amrywiol. Un o’r prif nodau yw gwneud cyflogwyr yn fwy ymwybodol o’r ffaith na ddylai anableddau, rhyw nac ethnigrwydd fod yn rhwystr yn y gweithle.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyrraedd ei nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon. Mae hyn wedi sicrhau cyfleoedd pwysig i brentisiaid o bob oed ennill cyflog wrth ddysgu sgiliau a galluoedd newydd.

“Bydd y strategaeth hon yn hollbwysig er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a helpu i gynyddu cynhwysiant eto er mwyn cefnogi pobl mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru a chywiro’r diffyg cydbwysedd rhwng merched a dynion.

“Rwy’n falch iawn o weld y datblygiad hwn a allai fod o fudd i unigolion a chwmnïau ar hyd a lled Cymru.”