Home » Deiseb Y Wyddfa / Eryri Yn Cyrraedd 1,000 o Lofnodion Mewn Llai Na 24 Awr
Cymraeg

Deiseb Y Wyddfa / Eryri Yn Cyrraedd 1,000 o Lofnodion Mewn Llai Na 24 Awr

Mae deiseb i sicrhau bod Parc Cenedlaethol Eryri yn defnyddio’r enw ‘Y Wyddfa’ ac mae ‘Eryri’ yn lle Y Wyddfa / Snowdon ac Eryri / Snowdonia wedi llwyddo i gael  mwy na 1,000 o lofnodion yn ystod y 24 awr ddiwethaf.

Cyflwynodd y Cynghorydd John Roberts Pughe gynnig yng nghyfarfod blaenorol cynghorwyr gyda’r parc, ond gwrthodwyd y cynnig, oherwydd yn ôl y Cyng Elwyn Edwards, sy’n eistedd ar y bwrdd, mae ‘cyfarfod wedi’i drefnu eisoes i drafod y mater hwn’. Crewyd y ddeiseb er mwyn sicrhau fod y cynghorwyr yn deall faint mor gryf yw’r mater yma ym marn y bobl.

Mae’r cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer mis Mehefin i drafod dinistrio enwau lleoedd Cymreig yn y parc, bydd y drafodaeth hon hefyd yn cynnwys defnydd o enw Y Wyddfa ac Eryri i’r mynydd a’r ardal.

Gellir gweld dolen i’r ddeiseb yma: http://chng.it/PnR5Dwttqz

Bu dadl tanllyd yn y blynyddoedd blaenorol ynglŷn â newid enwau lleoedd Cymraeg i’r Saesneg; rhywbeth y mae ymgyrchwyr wedi’i ddweud sy’n ‘ gwaredu’r iaith o’r map’.

Mae ymgyrchwyr wedi dweud y byddai defnyddio’r enw Y Wyddfa ac Eryri, yn hytrach nag Y Wyddfa / Snowdon ac Eryri / Snowdonia, yn cryfhau’r iaith ac yn anfon neges glir bod yr iaith yn fyw i dwristiaid a phobl leol sy’n byw yn yr ardal.

online casinos UK

Author