MAE PRIF GWNSTABL Richard Lewis wedi tanlinellu dyletswydd moesol gwasanaethau cyhoeddus i hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg yn ei flog wythnosol ar gyfer Ddydd Gŵyl Dewi.

Fe ymunodd Mr. Lewis Heddlu Cleveland o Heddlu Dyfed-Powys in 2019 a fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf mae’n ysgrifennu ar ei berspectif newydd wedi iddo fyw a gweithio yn Lloegr am ddwy flynedd bellach.

Mae’n galw am fwy o waith i hyrwyddo’r iaith ac nid i ddibynnu ar y hanfodaeth stadudol. Yn wir, mae’n awgrymu taw nid rhywbeth ychwanegol yw cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg; dylai fod yn rhan anatod yn hyrtach na rhywbeth ychwanegol y dylai siaradwyr Cymreag fod yn ddiolchgar amdano.

Mae Mr. Lewis yn dweud: “Gan fy mod wedi gweithio y tu hwnt i Glawdd Offa ers dwy flynedd bellach, rwyf wedi dod i asesu dyletswyddau gwasanaethau cyhoeddus ynghylch yr iaith Gymraeg trwy berspectif newydd. Mae’r pellter llythrennol a throsiadol o Gymru wedi helpu i mi weld y cyd-destun ehangach; sef bod angen gwneud llawer mwy i hybu defnydd o’r iaith gan ein gwasanaethau cyhoeddus”

“Mae’r angen statudol i gynnig gwasanaeth dwyieithog yn holl bwysig – ond yn fy marn i, mae’r angen moesol gwaelodol/sylfaenol hyd yn oed yn bwysicach. Mater cymharol hawdd yw mesur yr amser i ateb galwad trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mater mwy o lawer yw bod teulu yn cael derbyn newyddion drwg er enghraifft, trwy gyfrwng eu mamiaith. Neu bod gan unigolyn yr hawl i fynegu safbwynt neu gŵyn mewn datganiad yn Gymraeg.”

“Nod Llywodraeth Cymru yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r polisi yn un teilwng ond rhaid sylweddoli nad ar waith papur y cyflawnir y bwriad hwnnw. Rhaid i sefydliadau dderbyn yr her i hyrwyddo’r iaith – nid oherwydd bod deddfwriaeth yn eu gorfodi – ond oherwydd bod dyletswydd foesol arnom i wneud mwy.”

Er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth Cymraeg mae’n rhaid sicrhau bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn cael eu cyflogi yn y lle cyntaf, bod gwersi Cymraeg ar gael yn hawdd i ddysgwyr mewnol, bod gwersi gloywi iaith ar gael, ac yn holl bwysig, dealltwriaeth ymhlith staff o anghenion ieithyddol y gymuned, a’r effaith bositif a ddaw o siarad yn Gymraeg gyda’r sawl sy’n dymuno gwneud hynny.