UN o ferched mwyaf dylanwadol yn hanes datganoli Cymru fydd gwestai Elin Fflur ym mhennod nesaf Sgwrs Dan y Lloer nos Lun 15 Mawrth.

Wrth i’r haul fachlud ar arfordir Ceredigion, Llywydd y Senedd, Elin Jones bydd yn croesawu Elin i’w gardd yn Aberaeron. O flaen tanllwyth o dân, cawn glywed am ei phlentyndod yn ardal Llanwnen, ger Llanbed, ei dyddiau yn cyd-ganu yn rhan o grŵp Cwlwm, a’r hyn sy’n tanio ei gwleidyddiaeth.

Bu’r tân yn ei bol am gyfiawnder yno ers yn ifanc, er nad oedd gwleidyddiaeth yn beth amlwg ar yr aelwyd adref:

“Ges i ddim fy magu ar aelwyd wleidyddol lle’r oedden ni’n trafod gwleidyddiaeth. Bydden i ddim yn gwybod sut o’dd fy rhieni i’n pleidleisio pan o’n i’n ifanc. Ond dwi’n gwybod am stori o’dd un o’n athrawon i’n dweud. Yn yr Ysgol Gynradd, fi o’dd yr un disgybl bach hynny oedd yn cwyno wrth yr athrawon bod nhw’n cael peaches and cream i bwdin amser cinio, a bod y plant yn cael semolina…a bod hynny ddim yn deg.

“Ac felly mae’r athrawes hynny wedi dweud wrtha i sawl tro ers hynny bod rhywbeth yndda i hyd yn oed bryd hynny oedd yn gweld annhegwch ac yn gwrthod cymryd hynny!”

A buan y tyfodd yr awydd i wneud gwahaniaeth. Daeth y blas cyntaf o wleidyddiaeth ynghlwm â phlaid ddigon annisgwyl:

“Un o’r etholiadau cynta’ nes i sefyll oedd yn Ysgol Uwchradd Llanbed yn 1982 – un o’r etholiadau ffug ‘na, a dwi’n cael lot o dynnu coes am hyn – ond fi oedd yr ymgeisydd Torïaidd. 15 oed o’n i; o’n i ddim wedi ffurfio ‘ngwleidyddiaeth yn llawn yn fy meddwl! Ac yn rhyfedd iawn nes i ennill yr etholiad ‘na. Ond dwi wastad yn dweud mai teamwork oedd e, achos Shân Cothi oedd fy asiant! Dyna’r tro diwetha’ i mi sefyll i’r Torïaid…nes i ddysgu o hynna ‘mlân.”

Bu Elin ar Gyngor Tref Aberystwyth o 1992 tan 1999, a hi oedd Maer ieuengaf y dref yn nhymor 1997-98. Ond daeth holl ffurfioldeb y rôl yn dipyn o sioc iddi:

“Do’n i ddim wedi dishgwyl yr holl rigmarôl o’dd yn dod gyda bod yn Faer. Ac wrth gwrs gwisgo’r tsiaen; mae tsiaen Maer wedi cael ei wneud ar gyfer ysgwyddau llydan dyn o’r ddeunawfed ganrif fwy neu lai, felly pan mae menyw ifanc, eiddil yn dod i geisio’i gwisgo, dyw e ddim yn ffito; mae’n slipo, ac felly dyw gwisgo’r tsiaen ddim yn un o’r pethau mwya’ cyfforddus yn gorfforol na sut o’dd o’n cael ei weld.

“Dwi’n meddwl bod angen i bobl – bobl ifanc a menywod yn enwedig i gymryd cyfrifoldebau gwahanol a rhoi eu henwau mlân, achos mae ‘na ormod o ddynion mewn gwleidyddiaeth wedi bod ar hyd y ganrif ddiwetha’.

“I fi, o’dd cerdded mewn i stafelloedd cyfarfodydd yn y 90au pu’n o’dd hwnna gyda ‘ngwaith i gyda’r Bwrdd Datblygu bryd hynny neu yn fy ngwleidyddiaeth i o fewn Plaid Cymru, yn y Cyngor Tref yn Aber, roedd yn ddynion mewn siwts llwyd i gyd, ac felly o’dd menyw’n cerdded mewn cot binc tamed bach yn wahanol, ac mae’n bwysig dod a ‘bach o liw i wleidyddiaeth.

“Pobl wahanol o gefndiroedd gwahanol, ac fe ddylai pob agwedd o fywyd fod yn hanner menywod, hanner dynion, achos dyna beth yw bywyd, ac felly mae’n bwysig fod menywod yn cymryd y cyfrifoldebau yna.”