ROEDD LLEUCU EDWARDS yn benderfynol o sicrhau ei bod yn dilyn ei thaith ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Lleucu, 28, yn byw yng Nghaerfyrddin lle mae’n arwain Cylch Meithrin Eco Tywi, ar gyfer plant rhwng dwy a phedair oed.

Ar ôl bod mewn ysgol Gymraeg, aeth ymlaen i wneud gradd BA mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar yng Ngholeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant lle bu’n rhaid iddi ymchwilio i ganfod gwerslyfrau Cymraeg a chyfieithu rhai eraill o’r Saesneg.

Yna, aeth Lleucu ymlaen i ddysgu mwy a datblygu sgiliau ymarferol trwy wneud Prentisiaeth mewn Gofal Plant a Phrentisiaeth Uwch mewn Arweinyddiaeth mewn Gofal, Dysgu a Datblygu Plant mewn chwe mis gyda’r darparwr dysgu seiliedig ar waith ACT.

Gan fod Lleucu mor frwd dros hyrwyddo prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog, penodwyd hi’n Llysgennad Prentisiaid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Mae Lleucu yn falch o gael arwain cylch cyntaf y Mudiad Meithrin i fod yn gylch eco, diblastig. Gwnaed yr holl adnoddau dysgu o bren, metal, bambŵ neu garreg.

“Roeddwn i’n gwybod yn ifanc iawm mod i eisiau gweithio gyda phlant,” meddai. “Rwy wrth fy modd yn eu cwmni ac yn eu gweld yn datblygu ac yn symud ymlaen tra byddan nhw yn ein gofal ni ac wedyn.”

Ar ôl gwneud ei gradd, cafodd Lleucu brofiad yn gweithio mewn meithrinfa ac fel cynorthwyydd addysgu mewn ysgol cyn cael ei swydd bresennol yng Nghylch Meithrin Eco Tywi ym mis Tachwedd 2019.

Tra oedd y cylch ar gau am bum mis yn ystod cyfnod cloi cyntaf Covid-19, bu Lleucu’n canolbwyntio ar ei Phrentisiaeth Uwch. Mae’r cylch wedi ailagor erbyn hyn ac mae Lleucu’n awyddus i ddenu rhagor o blant.

Mae hefyd yn ymroi i barhau â’i datblygiad proffesiynol gan ddweud bod rhywbeth newydd i’w ddysgu trwy’r amser er budd iddi hi a phlant y Cylch.

Mae Lleucu’n credu’n gryf mewn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a gwnaeth gyfweliad â’r cyfryngau yn ystod Wythnos Brentisiaethau yn ddiweddar. Mae’n falch o gael bod yn Llysgennad Prentisiaid.

“Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi llwyddo pe bawn i heb gael fy addysg a gwneud fy mhrentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai. “Mae’n bwysig iawn i bobl eraill gael gwybod am y cyfleoedd hyn.

“Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac rwy’n gwneud popeth yn Gymraeg yn y gwaith. Mae’r Brentisiaeth Uwch wedi fy helpu i ganolbwyntio ar arweinyddiaeth, polisïau a gwahanol elfennau sy’n fy helpu yn y gwaith.

“Rwy’n credu bod prentisiaethau’n bwysig. Wrth wneud gradd, rydych yn dysgu am y cefndir a’r theori ond gyda phrentisiaeth rydych yn dysgu’r sgiliau ymarferol ac yn dysgu gwybodaeth yng nghyd-destun y gwaith.”

Dywedodd Nia Gealy, asesydd gofal plant a gwaith chwarae gydag ACT: “Mae Lleucu yn ymroi yn llwyr ac yn canolbwyntio ar ei nod. Mae’n credu bod gweithio gyda phlant yn bwysig iawn. Dewisodd amser da i wneud y Brentisiaeth Uwch achos fe agorodd y Cylch Meithrin tua’r un pryd.

Lleucu Edwards sy’n Llysgennad Prentisiaid.

“Dydw i ddim yn credu bod pawb yn sylweddoli pa mor bwysig yw’r cyfle i wneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg os mai Cymraeg yw eich mamiaith. Mae’n iawn i bobl gael y cyfleoedd hyn i weithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan: “Mae’n wych bod prentisiaid yn cael y cyfle i ddilyn eu rhaglen hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’n bwysig bod gwasanaethau fel hyn yn cael eu cynnig yn ddwyieithog oherwydd mae’n cryfhau’r defnydd a wneir o’r iaith o ddydd i ddydd ac yn sicrhau bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgìl werthfawr ym myd gwaith.

“Rydym wedi darparu cyllid i gefnogi Cynllun Llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae’n ardderchog gweld pobl yn elwa o’r cynllun. Rwy’n dymuno’n dda i’r prentisiaid sy’n dilyn rhaglenni hyfforddi ac yn gobeithio y cân nhw yrfaoedd hir a llwyddiannus.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,” meddai.

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaid yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).