Home » Gallai Cymru fod yn annibynnol?
Cymraeg

Gallai Cymru fod yn annibynnol?

Y Gorymdeithiau Annibyniaeth
YMGASGLON nhw’n gwisgo coch, gwyrdd a gwyn, gyda baneri Glyndŵr ac Y Ddraig Goch yn hedfan uwch eu pennau, gan floeddio Calon Lân, Yma o hyd, yn gymysg â’r anthem. Roedd gorymdeithwyr annibyniaeth Cymru wedi cyrraedd dinas Caerdydd.


Roedd y rali hir-ddisgwyliedig wedi’i chynllunio fisoedd ymlaen llaw, gyda’r trefnwyr yn gobeithio y byddai torf o 500 yn casglu ar ddiwrnod y gorymdeithio ar Fai 11eg, 2019. Cawsant eu siomi ar yr ochr orau pan laniodd 3,000 o bobl yng Nghaerdydd, gan lenwi’r Brifddinas a phacio’r strydoedd.


Ymgasglodd y cefnogwyr ger cerflun John Batchelor, lle roedd llwyfan wedi’i adeiladu ar gyfer siaradwyr y digwyddiad, a oedd yn cynnwys arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, a Ben Gwalchmai, Cadeirydd Llafur Dros Anninbyniaeth.


Dilynwyd y rali yng Nghaerdydd gan rali yng Nghaernarfon a welodd torf o 8,000 i 10,000 o
bobl yn rhuthro i’r dref, a Merthyr Tudful, a ddenodd tua 5,000 o bobl. Oherwydd Covid-19, canslwyd y ralïau yn Wrecsam, Abertawe a Tredegar, a’u haildrefnu ar gyfer haf 2021.


Datblygiadau Radical
Roedd canran y boblogaeth yng Nghymru oedd yn cefnogi annibyniaeth cyn-iseld a 4% mor hwyr â 2014. Mae bellach wedi codi i rhwng 30% – 33% mewn arolygon barn a gynhaliwyd yn ystod y misoedd diwethaf. Gwelodd y grŵp ymgyrchu annibyniaeth, Yes Cymru, naid yn eu niferoedd aelodaeth rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd y llynedd, o 2,000 o aelodau hyd at 17,000 mewn 6 mis yn unig.


Mae dadleuon ynghylch Brexit, pandemig y Covid-19, a chwalu murlun Cofiwch Dryweryn, yn ffactorau a gafodd effaith ar farn pobl ar annibyniaeth Er bod nifer y bobl sy’n cefnogi annibyniaeth Cymru wedi bod yn tyfu, bu cynnydd sydyn hefyd yng nghanran y bobl sydd eisiau dileu datganoli yn llwyr. Mae’r cynnydd hwn wedi dod yn amlycach fyth yn ystod pandemig COVID-19.

online casinos UK


Plaid Cymru yw’r blaid cryfaf o blaid annibyniaeth, tra mai’r Torïaid a Diddymu Cynulliad Cymru yw’’r gwrthwynebwyr mwyaf tuag at y syniad. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur o blaid undeb ac o blaid ffederaliaeth, ond mae eu cefnogwyr, hyd yn oed rhai o’u haelodau Senedd, yn dangos mwy o ddiddordeb tuag at annibyniaeth Cymru.


Wrth i’r ddadl fynd ymlaen, mae arolygon barn yn dangos fod bobl yn tueddu cael eu
polareiddio bob ochr i’r ddadl. Mae sefyllfa debyg yn datblygu gyda’r ddadl annibyniaeth, fel
y digwyddodd gyda’r Alban yn ôl yn 2014. Byddwn yn gweld y tir canol yn cael ei lyncu i’r
dau begwn wrth i amser ddod yn ei flaen.


Cymru Annibynnol
Dyma’r pynciau y mae pobl yn aml yn eu trafod wrth drafod annibyniaeth. Yr rhain yw’r dadleuon craidd sydd fel arfer gan wrthwynebwyr neu wrthwynebwyr annibyniaeth.


Yr Economi
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi dangos bod GDP enwol (nominal)l Cymru ar £ 74.9 biliwn. Byddai hyn yn gwneud Cymru, pe bai’n wlad annibynnol, yn un o’r 25ain o wledydd cyfoethocaf yn Ewrop, rhwng Slofacia, a Luxemburg. Uwchben gwledydd fel Croatia, Gwlad yr Iâ a Lithwania. Mae’r GDP y pen yn £ 23,866 ac mae Cymru yn allforio gwerth £17.7biliwn y flwyddyn o gynhyrchion.


Ffigur a ddefnyddir yn aml gan y rhai sy’n cefnogi ac yn erbyn annibyniaeth yw’r diffyg sydd gan Gymru o £ 13.6 biliwn y flwyddyn. Mae pobl sy’n cefnogi’r Undeb yn defnyddio’r ffigur hwn i brofi na all Cymru gynnal ei hun, ac angen cymorth San Steffan i gadw’r wlad i fynd. Mae cefnogwyr o blaid annibyniaeth yn defnyddio’r ffigur hwn i ddangos sut mae bod yn yr Undeb yn effeithio ar Gymru yn ariannol, a bod angen annibyniaeth ar y wlad, er mwyn newid y strwythurau economaidd ac ariannol yng Nghymru. Cwestiwn a ofynnir yn aml am yr economi yw a fydd Cymru yn rhan o’r UE yn y dyfodol, neu’n penderfynu bod yn rhan o’r AEE, a sut y byddai hynny’n effeithio ar ei rhagolygon economaidd.


Mae economegwyr ar y ddau ochr yn gwrthdaro ar y pwnc yn aml, ond mae’n amlwg bod angen cynnal ymchwil bellach i ragweld dyfodol economi Cymru fel gwlad annibynnol.

Y System Gyfreithiol
Er bod gan Gymru bwerau deddfwriaethol, nid oes ganddi awdurdodaeth gyfreithiol, yn whanaol i’r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Cymru yn rhan o awdurdodaeth Cymru a Lloegr, sydd wedi bodoli ers deddf uno 1536-42. Er mwyn sicrhau annibyniaeth byddai angen awdurdodaeth gyfreithiol ei hun, ond nid oes angen annibyniaeth i greu’r awdurdodaeth ychwaith. Argymhellodd y comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2019, y dylid datganoli’r awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru, yn ogystal â phwerau plismona a chyfiawnder. Gallai Cymru gyflawni hyn wrth fod yn rhan o’r DU neu fel rhan o’r broses annibyniaeth.


Effaith Gymdeithasol a Diwylliannol
Mae gan Gymru ddiwylliant bywiog a chyfoethog ar ei phen ei hun, ac mae ganddi hefyd gysylltiadau â’r diwylliant yn y DU, yn enwedig o ran digwyddiadau hanesyddol. Edrychir ar gwestiwn hunaniaeth yn aml, ac mae’n bwnc llosg mewn dadleuon. Mae cefnogwyr o blaid annibyniaeth yn trafod materion fel y Gymraeg, ac yn credu y byddai’r iaith yn gwneud yn well mewn Cymru annibynnol, tra bod cefnogwyr o blaid yr undeb yn credu bod yr iaith a’r diwylliant yn rhan o’r hyn sy’n gwneud bod yn Brydeinig yn unigryw, a bod y DU yn deulu o genhedloedd yn cydweithio.


A allai Cymru ei Gwneud Hi?
Mae llawer o gwestiynnau angen ateb. Mae’r strwythur economaidd a chyfreithiol y bydd Cymru yn ei fabwysiadu, y cytundebau y bydd yn eu llofnodi, a hyd yn oed yr amserlen a’r dull y bydd Cymru yn eu cymryd i sicrhau annibyniaeth yn dal i gael eu trafod. Ond gyda’r data ar gael, gallwn lunio’r senarios beth a ddaw os bydd Cymru’n annibynnol, neu’n penderfynu aros yn yr Undeb. Gallai Cymru gael dyfodol yn y naill neu’r llall ohonynt, ond pa ddyfodol bynnag fydd hynny, bydd y ddadl yn sicr o gael ei thrafod dros y blynyddoedd. Ym mis Mai eleni, mae gennym etholiad i ddewis y blaid yr ydym am redeg y Senedd, a bydd hyn yn rhoi arwydd clir inni o uchelgais y wlad am y 5 mlynedd nesaf, a bydd yn ei gwneud yn amlwg a fydd Cymru yn cymryd y llwybr tuag at annibyniaeth, neu aros yn yr Undeb am y tro.

Ffotograff: Ifan Morgan Jones

Author