Home » Galwad am strategaeth stroc cenedlaethol i Gymru
Cymraeg Gwynedd Health North Wales Politics

Galwad am strategaeth stroc cenedlaethol i Gymru

MAE galwadau wedi ei gwneud am Strategaeth Strôc Genedlaethol newydd i Gymru, sy’n blaenoriaethu anghenion cleifion, a sicrhau gofal yn agosach i’w cartref gan ei gwneud hi’n haws i oroeswyr strôc dderbyn addasiadau i’r cartref.

Mae ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd ar gyfer etholiad Senedd Cymru, Mabon ap Gwynfor, wedi rhybuddio y gallai cymunedau gwledig ddioddef yn anghymesurol pe bai Llywodraeth Cymru yn gohirio ymhellach cyhoeddi strategaeth strôc newydd ar gyfer Cymru.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor: ‘Daeth y cynllun strôc blaenorol ar gyfer Cymru, Cynllun Strôc Llywodraeth Cymru, i ben y llynedd ac nid ydynt wedi datblygu cynllun newydd.

‘Mae angen rhoi sylw brys i hyn fel y gall darparwyr gwasanaeth gynllunio ymlaen llaw, ac fel y gall y llywodraeth gydweddu gofynion eu Cynllun Strôc Cenedlaethol â sefydliadau a phrosiectau eraill i sicrhau gwasanaeth gofal di-dor ac integredig.’

‘Mae gennym ni oddeutu 1,400 o oroeswyr strôc yn Nwyfor Meirionnydd, ac maent angen sicrwydd ar sut fydd pethau yn y dyfodol o ran gofal a ffisiotherapi.’

‘Mae taer angen mwy o welyau adfer arnom, fel y gall goroeswyr gael mynediad at ofal yn agosach at adref.

‘Mae cyfle i lenwi’r bwlch hwn gyda’r datblygiad arfaethedig ym Mhenrhos, a gobeithiaf y bydd y bwrdd iechyd yn edrych ar hyn fel opsiwn.

‘Ond mae angen mwy o welyau ar Meirionnydd hefyd, sydd yn aml yn colli allan o ran darpariaeth iechyd, i ganiatáu i oroeswyr adfer yn agosach at adref.

‘Mae angen mynediad at wasanaethau adfer o ansawdd da ar oroeswyr strôc, a dylai fod gan bobl hawl i wasanaethau adfer amserol ac addasiadau i’w cartref heb orfod ymladd drostyn nhw.

‘Mae hyn yn golygu darparu cyllid priodol i’n Cynghorau Sir, sydd wedi dioddef degawd o doriadau andwyol, ac ymdrech i hyfforddi a recriwtio mwy o therapyddion galwedigaethol.’

‘Rwy’n falch fod AS Plaid Cymru Dr Dai Lloyd, sy’n wreiddiol o Ddinas Mawddwy, wedi bod ar flaen y gad o ran galwadau i sicrhau Cynllun Strôc Cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru, a gobeithiaf gael y cyfle i sicrhau bod y llywodraeth yn cyflawni hyn.’

Author