YMA yn sir Benfro rydyn ni’n gyfarwydd â’r gwynt a’r glaw yn ysgubo i mewn yn aml o’r môr Iwerddon.  Mae hyn yn amodau’r tywydd ein bod yn profi o ddiwrnod ein geni;  maen nhw’n rhan o’n hunaniaeth a felly dyn ni ddim yn poeni llawer amdanyn nhw.

Yn America y rhoir enwau i’w corwyntoedd, ayb.  Ac, yn anochel, roedd ar y DU a’r gweddill Ewrop angen cymellol i gopi America.  O ganlyniad, er nad ydyn ni’n profi corwyntoedd, dechreuodd Swyddfa Dywydd roi enwau i’r cofnodau glaw a gwynt cryf ac ein bod yn cael ein mynnu cyfeirio atyn nhw fel ‘drycinoedd’.  Wel .. dyma air sy’n swnio tipyn bach yn theatraidd ond, wedi dweud hynny, does ‘na ddim dwywaith nad ein tywydd beth roedd e’n arfer bod. 

Darllenais i yn diweddar bod yn ystod 2021 dioddefodd y DU 14 ‘drycin’, gyda llawer ohonyn nhw’n achosi difrod difrifol megis llifogydd, toeau’n cael eu rhwygo oddi wrth adeiladau, ac heoloedd a rheilffyrdd yn cael eu rhwystro gan coed wedi’u syrthio.  Ac, yn enbyd, mae bywydau wedi’u colli.

Mae tirlun y DU yn cael ei newid gan y drycinoedd hyn.  Amcangyfrifir bod yn ystod 2021 y collon ni ryw 8 miliwn o goed, gan gynnwys llawer o goed brodorol mawreddog ac aeddfed.  Gallwn ni eu hailosod, wrth gwrs, gan goed ifainc newydd o’r un rywogaeth frodorol, ond bydd y coed newydd yn cymryd degawdau neu hirach cyn iddyn nhw lenwi bylchau.

Mae’n wir bod pan fydd coeden fawr yn syrthio y gall yr heulwen gyffwrdd â’r tir yr arferai bod mewn cysgod, a bydd hyn yn annog blodau gwyllt i ffynnu.  Ond trist iawn yw coll miliynau o goed yn ystod dim ond blwyddyn, felly gadwch i ni blannu coeden collddail rhywle, fel ein rhodd i genhedlaethau’r dyfodol.