Home » Gwaith Ymchwil yn Edrych ar Beth sy’n Bywisg i Bobl Bro Ffestiniog
Cymraeg

Gwaith Ymchwil yn Edrych ar Beth sy’n Bywisg i Bobl Bro Ffestiniog

MAE gwaith ymchwil yn cael ei gynnal yn ardal bro Ffestiniog dros yr wythnosau nesaf er mwyn deall beth yw barn bobl y fro am eu cymuned, a sut mae nhw eisiau gweld y gymuned yn datblygu i’r dyfodol.

Mae’r holiadur yn gobeithio gweld beth sydd o bwys i bobl yng nghymuned bro Ffestiniog, gan gwestiynnu bobl ar beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn eu cymunedau nhw.

Mae’r ymchwil yn cael ei gydlynu gan yr Athro Karel Williams a’r Athro Julie Froud, o Ysgol Fusnes Prifysgol Mancenion. Maent yn arweinwyr ym maes astudiaeth o’r economi sylfaenol ac wedi bod yn allweddol wrth ddylanwadu ar academyddion, llunwyr polisi a’r Llywodraeth yng Nghymru. Aelodau eraill o’r tîm cydweithredol yw Dr. Lowri Cunnington, Prifysgol Aberystwyth, ymchwilwyr Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Tref Ffestiniog, Arloesi Gwynedd Wledig, gweithwyr datblygu Cwmni Bro Ffestiniog ac, yn bwysicaf oll, pobl Bro Ffestiniog. Mae eich cyfranogiad yn allweddol i’r ymchwil cymunedol hon.

Mae Selwyn Williams, cadeirydd Cwmni bro, wedi bod yn annog y gwaith ymchwil, gan  ddweud ‘Mae cael ateb cymaint o bobol y fro â phosib yn wirioneddol werthfawr am sawl rheswm. Un o’r rhesymau yw y bydd yr ymatebion yn help i greu cynlluniau i ddatblygu a gwella yr ardal yn unol â gweledigaeth a dymuniadau’r gymuned.’

Bydd yr atebion yn helpu i siapio blaenoriaethau datblygiad cymunedol Bro Ffestiniog. Bydd atebion unigolion yn gyfrinachol, a byddant yn cael eu casglu ynghyd i gyhoeddi adroddiad ar beth sydd o bwys i drigolion Bro Ffestiniog a’r ffordd ymlaen i ddatblygu’r ardal.

Nid astudiaeth wedi ei gyfyngu i fro Ffestiniog yn unig yw hon, ond mae astudiaethau wedi cymryd lle eisoes yn yr Eidal. Roedd yr astudiaeth Eidalaidd yn cynnwys 3 lle (a) Lecce / tref fawr + canolfan daleithiol (b) Corigliano / tref farchnad ac ol-ddiwydianol (c) Casaroni / pentref

online casinos UK

Mae’r holiadur wedi ei dargedu at bobl sy’n byw mewn ardal gyda cod post LL41, megis yn Nhref Blaenau Ffestiniog, Tanygrisiau, Manod, Glanypwll, Maentwrog, Trawsfynydd, Bronaber, Gellilydan neu Llan Ffestiniog.

Targed y gwaith ymchwil ydi cael 1,000 o bobl i ateb y holiadur.

Dyma linc i’r gwaith ymchwil isod: https://www.surveymonkey.co.uk/r/DQM2T7D?fbclid=IwAR0L37u-nqRjfBfng64OOM-t8-MJ6muhY8KREe-OmtDjqEw3qfLdNarB6y8

Author