Home » Gwelliannau amgylcheddol ar y gweill ym maes parcio Carregaman
Cymraeg

Gwelliannau amgylcheddol ar y gweill ym maes parcio Carregaman

MAE gwaith i wella maes parcio Carregaman yng nghanol tref Rhydaman yn dechrau.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn defnyddio cronfa Bioamrywiaeth a Seilwaith Gwyrdd Llywodraeth Cymru fel rhan o’i fenter Trawsnewid Trefi, er mwyn sicrhau bod y maes parcio yn fwy cydnaws â’r amgylchedd ac yn fwy deniadol.

Bydd y gwaith yn dechrau cyn hir a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.

Bydd cyfres o erddi glaw yn ychwanegu lliw at y maes parcio yn ogystal â helpu i atal llifogydd posibl ac yn diogelu’r rhwydwaith carthffosydd.

Defnyddir planhigion a mannau gwyrdd a ddewiswyd yn ofalus i greu cynefin gwell i bryfed peillio a phryfed eraill. 

Mae’r cyngor hefyd yn defnyddio arian o Gronfa Trafnidiaeth Gynaliadwy Leol mewn Ymateb i Covid i brynu cysgodfan beiciau â tho gwyrdd bioamrywiol â lle i hyd at wyth o feiciau, yn unol ag ymdrechion y cyngor i wella cyfleusterau ar gyfer teithio llesol.

online casinos UK

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio: “Rydym yn falch o ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i’n helpu i wella maes parcio Carregaman – fel ei fod yn fwy deniadol a hefyd yn fan bioamrywiol a fydd yn denu pryfed peillio a bywyd gwyllt lleol arall. Dyma waith a fydd hefyd yn helpu i wella’r prif borth i ganol tref Rhydaman.”

Ceisir tarfu cyn lleied â phosibl wrth ymgymryd â’r gwaith

I gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau datblygu a buddsoddi’r Cyngor, ewch i www.sirgar.llyw.cymru

Author