Home » HCC i Adeiladu ar Frandiau Cymreig Cryf a Chynaliadwy
Cymraeg Farming

HCC i Adeiladu ar Frandiau Cymreig Cryf a Chynaliadwy

Catherine Smith, Chair at Hybu Cig Cymru, Cefn Coch Farm, Llanarth, Monmouthshire.

RHODDWYD addewid o ymdrech ddyddiol i gyflawni dros ffermwyr a phroseswyr Cymru a hyrwyddo brandiau cig coch cryf y wlad gan Catherine Smith, wrth iddi gymryd rôl Cadeirydd Hybu Cig Cymru (HCC) ar Ebrill 1.

Bu Catherine, sy’n cymryd yr awenau gan Kevin Roberts, yn gwasanaethu ar fwrdd ardoll cig coch Cymru ers 2017. Wrth baratoi ar gyfer yr her, bydd hi’n elwa o’i chefndir ffermio yn Sir Fynwy ac ugain mlynedd o brofiad fel arbenigwraig busnes bwyd yn cynghori cwmnïau ledled y gadwyn gyflenwi cig coch.

Pwysleisiodd Catherine wrth ymgymryd â’i rôl for sectorau cig oen, cig eidion a phorc Cymru mewn sefyllfa gref, er bod y misoedd diwethaf wedi dod â heriau ar ffurf Covid a Brexit. Gallai’r diwydiant ddarparu’r hyn y mae’r cwsmer modern ei eisiau – bwyd o ansawdd uchel, y gellir ei olrhain o’r fferm i’r fforc, gyda rhinweddau di-fai o ran cynaliadwyedd a lles.

Meddai Catherine Smith, “Rwy’n falch o gymryd yr awenau fel cadeirydd HCC ar yr adeg hanfodol hon ar gyfer y diwydiant bwyd a ffermio, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Gwyn Howells a’i dîm i gyflawni dros ein rhanddeiliaid.”

“Rwy’n gweld pob rhan o’n diwydiant yn ddyddiol – gartref ar ein fferm gymysg ddefaid ac âr, ac wrth weithio gyda busnesau bwyd i’w helpu i fod yn fwy cystadleuol, yn fwy effeithlon ac yn denu a chadw cwsmeriaid,” meddai Catherine. “Mae HCC yn gorff sy’n cael ei arwain gan y diwydiant ac yn cwmpasu’r gadwyn gyflenwi gyfan, ac mae cydweithredu agos rhwng yr holl ddolenni yn y gadwyn yn hanfodol.”

“Rydyn ni’n wlad fach, ond gallwn ni fod yn effeithiol iawn trwy weithredu mewn dull unedig,” ychwanegodd. “Mae HCC wedi bod yn ystwyth wrth arwain ein hymateb fel diwydiant i’r heriau y mae Covid a Brexit wedi’u cyflwyno – gan helpu i gynyddu gwerthiant mewn siopau ym Mhrydain yn ogystal â chadw marchnadoedd allforio er gwaethaf ansicrwydd y pedair blynedd diwethaf.”

Esboniodd Catherine, “Mae gennym gyfle nawr i fwrw ymlaen, gyda’n dogfen Gweledigaeth 2025 fel canllaw; i helpu’r sector gwasanaeth bwyd i ailadeiladu ar ôl Covid, wrth ehangu i farchnadoedd newydd ac addawol, a chyflawni’n Rhaglen Ddatblygu Cig Coch.”

“Mae gan Gymru’r potensial i arwain y byd ym maes cynhyrchu cig oen ac eidion yn gynaliadwy,” meddai. “Dangosodd adroddiad HCC ‘Y Ffordd Gymreig’ ein bod eisoes yn cynhyrchu bwyd yn llawer mwy cynaliadwy na llawer o wledydd eraill. Gallwn barhau i wella, ac arwain y byd yn y maes hwn. Dyma mae ein cwsmeriaid yn mynnu ac rydyn ni mewn sefyllfa wych i ateb yr her hon.”

Author