Home » Hongian ‘dail’ Waldo ymhobman
Cymraeg

Hongian ‘dail’ Waldo ymhobman

YN ôl Cymdeithas Waldo roedd eu hymgyrch ‘hongian cerdd fel deilen’ yn llwyddiant ysgubol.

Roedd y Gymdeithas, a sefydlwyd i gofio am un o feirdd Sir Benfro Waldo Williams, wedi annog ei edmygwyr i ddewis ei hoff linellau o farddoniaeth i’w gosod ar label a’u hongian ar goed.

Teitl unig gyfrol o farddoniaeth Waldo oedd ‘Dail Pren’ ac ystyrir y cerddi’r un mor berthnasol heddiw â phan gawson nhw eu cyhoeddi gyntaf yn 1956.

Roedd e ei hun yn gweld pob cerdd fel deilen aeddfed yn addurno coeden iachus yn ei llawn dwf.

Yn ôl Hefin Wyn, llefarydd ar ran y Gymdeithas, roedden nhw’n hynod o bles o weld ymateb nifer o ysgolion oedd yn gysylltiedig â’r bardd. “Roedd plant Ysgol Llanychllwydog yng Nghwm Gwaun, lle bu Waldo’n athro am gyfnod byr, wedi mynd i drafferth i addurno coed mewn gallt gerllaw.

“Yr un modd gosododd disgyblion Ysgol Casmael, lle bu’n brifathro dros dro yn ystod yr Ail Ryfel Byd, labeli lliwgar gyda’u hoff linellau o’i gerddi i blant, ar goed o amgylch yr adeilad. Fe wnaethon nhw fideo hefyd yn cofnodi eu gweithgaredd,” meddai.

online casinos UK

Cafwyd prawf hefyd o ‘ddail’ wedi’u hongian yn Nhyddewi ac Abergwaun a hyd yn oed Llydaw yn cofio marwolaeth Waldo 50 mlynedd nôl ar Fai’r 20.

Author