MAE’R hanesydd o Brifysgol Aberystwyth, Dr David Ceri Jones, yn gyd-awdur ar lyfr newydd sy’n adrodd hanes Cristnogaeth yng Nghymru o’i tharddiad yn y cyfnod Rhufeinig hyd heddiw.
Mae A History of Christianity in Wales yn elwa o arbenigedd pedwar hanesydd blaenllaw sy’n ysgrifennu ar y traddodiad Cristnogol yng Nghymru, ac mae’n seiliedig ar yr ysgolheictod a’r astudiaethau diweddaraf.
Wedi’i hanelu’n benodol ar gyfer cynulleidfa gyffredinol, mae’r gyfrol yn nodi datblygiad cronolegol Cristnogaeth yng Nghymru, gan ddogfennu llanw a thrai ymarfer Cristnogol yng Nghymru dros y canrifoedd.
Meddai Dr David Ceri Jones, Darllenydd mewn Hanes Modern Cynnar ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae lle a rôl Cristnogaeth yn hanes Cymru yn araf lithro o’r ymwybyddiaeth gyhoeddus gyfoes. Ac eto, ble bynnag yr edrychwch chi yng Nghymru fe welwch arwyddion o bresenoldeb Cristnogol a fu unwaith yn hollbresennol – enwau lleoedd Beiblaidd, tirwedd sy’n frith o eglwysi, capeli, croesau a safleoedd sanctaidd, a hyd yn oed y caneuon sy’n cael eu canu gan gefnogwyr rygbi yn stadiwm Principality yng Nghaerdydd.”
Mae’r llyfr yn archwilio’r newidiadau a’r heriau niferus sydd wedi effeithio ar hynt y grefydd Gristnogol yng Nghymru dros y canrifoedd, a’r amrywiol ffyrdd y mae Cristnogion yng Nghymru wedi addasu’n barhaus a darganfod ffyrdd newydd i fynegi eu ffydd.
Mae hanner cyntaf y llyfr yn ymdrin â’r cyfnod cyn y Diwygiad – tarddiad addoli Cristnogol yng Nghymru yn y cyfnod Rhufeinig, cyrchoedd yn erbyn eglwysi Cymru yng nghyfnod y Llychlynwyr, ad-drefnu gweinyddiaeth eglwysig yn sgil y goncwest Normanaidd, a’r dinistr a achoswyd gan y pla yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Mae ail hanner y llyfr yn trafod sut yr ailadeiladwyd ac adnewyddwyd llawer o eglwysi Cymru yn y cyfnod canoloesol diweddarach, effaith y Diwygiad, arwyddocâd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o’r Beibl, adfywiadau efengylaidd a deffroadau crefyddol y ddeunawfed ganrif, a dyfodiad Anghydffurfiaeth.
Yn olaf, mae’n disgrifio effaith y rhyfeloedd byd, ffurfio’r Eglwys yng Nghymru, y lleihad yn nifer mynychwyr yr eglwysi yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, gan gloi gyda phandemig COVID-19 a’r cyfleoedd newydd sydd wedi codi yn ei sgil i alluogi pobl i addoli yn eu cartrefi eu hunain trwy ddefnyddio technoleg fodern.
Dywedodd Dr David Ceri Jones: “Rwy’n gobeithio y bydd y llyfr hwn yn rhoi gwerthfawrogiad newydd i ddarllenwyr o’r ffyrdd y mae Cristnogaeth wedi llunio hanes Cymru ac wedi diffinio hunaniaeth Gymreig dros y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf.”
Ysgrifennwyd A History of Christianity in Wales gan David Ceri Jones, Barry J. Lewis, Madeleine Gray, a D. Densil Morgan; mae’n cynnwys rhagair gan Rowan Williams, cyn Archesgob Cymru a Chaergaint, ac fe’i cyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru.
Related posts
Trending Posts
-
Top ten famous Welsh people by Elfed Jones
-
Wales’ longest station name: How it got its name, and what it means by Doug Evans
-
Tryweryn – The Welsh village flooded to supply an English city with water by Doug Evans
-
Wales denied at the death in heart-breaking defeat by James Hemingray
-
FIM World Supercross Championships set to roar into Cardiff by James Hemingray
-
The Party of Wales has Failed us by Jon Coles
-
Wales name team for first Test match against South Africa by James Hemingray
-
Flights return to Covid-hit Cardiff Airport but Qatar route still stalled by Thomas Sinclair