Home » Llysgennad Prentisiaethau yn angerddol dros y Gymraeg
Cymraeg

Llysgennad Prentisiaethau yn angerddol dros y Gymraeg

Mae Ifan Wyn Phillips yn perthyn i deulu o drydanwyr yn Sir Benfro ac yn awr mae yntau’n brentis trydanwr yn y busnes a sefydlwyd gan ei dad-cu.

Mae Ifan, 20 oed, yn byw yng Nghrymych ac yn gweithio i gwmni contractwyr trydan D. E. Phillips sy’n gwneud gwaith ar dai, ffermydd a busnesau.

Mae’n gwneud Prentisiaeth Sylfaen mewn Gosodiadau Trydanol a gynigir yn ddwyieithog gan Goleg Sir Benfro ac mae’n gobeithio symud ymlaen i wneud Prentisiaeth ym mis Medi. 

Dewisodd Ifan wneud prentisiaeth er mwyn ymuno â busnes y teulu gan nad oedd gradd brifysgol yn apelio ato. “Mae’n well gen i weithio â fy nwylo ac mae’r brentisiaeth yn gyfle i weithio, dysgu ac ennill cyflog,” meddai.

Ar ôl ennill pedair Lefel A trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol y Preseli, mae’n bwysig i Ifan ei fod yn gallu gwneud y brentisiaeth yn ddwyieithog.

Mae’n awyddus iawn i hyrwyddo prentisiaethau dwyieithog ac arweiniodd hynny at ei benodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

online casinos UK

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru. Yn ogystal, mae Ifan yn llysgennad y Gymraeg gyda Choleg Sir Benfro.

“Gan mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf, mae’n haws o lawer i fi wneud fy mhrentisiaeth yn ddwyieithog,” meddai Ifan. “Mae pawb sy’n gweithio yn y busnes a’r rhan fwyaf o bobl yr ardal yn siarad Cymraeg.

“Mae bod yn brentis ac yn llysgennad y Gymraeg yn gyfle gwych i mi hyrwyddo dysgu trwy gyfrwng yr iaith. Os gwnaf i’r gwaith yn dda, gobeithio y gallaf ysbrydoli cenhedlaeth newydd i ddysgu’r iaith ac i gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Hoffwn i pe bai cynifer o bobl ag sy’n bosibl yn dysgu’r iaith ac yn ei defnyddio yn y gwaith ac yn y brifysgol. Mae’r iaith wedi bod gyda ni ers y bumed ganrif ac mae’n bwysig iawn ei bod yn parhau.”

Mae Coleg Sir Benfro’n gwneud eu gorau i helpu Ifan ac eraill i barhau â’u haddysg yn y Gymraeg.

Ymunodd Roger Phillips, tiwtor Gosodiadau Trydanol, â rhaglen Llywodraeth Cymru,  Cymraeg Gwaith, gyda’r nod o roi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr wneud eu gwaith yn y Gymraeg yn y gweithdy lle mae’n gweithio yn y coleg.

Rhoddodd y rhaglen yr hyder iddo siarad mwy o Gymraeg a phenderfynu ar ddogfennau Saesneg ar gyfer gwaith ymarferol ac asesiadau y gellid eu cyfieithu gyda help Janice Morgan, swyddog datblygu’r iaith Gymraeg yn y coleg.

“Gyda’n gilydd, rŷn ni wedi rhoi mwy o gyfle i Ifan a dysgwyr eraill sy’n siarad Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu prentisiaeth,” meddai Janice.

“Mae tuag 11% o’n myfyrwyr yn siarad Cymraeg ond mae’r ganran yn cynyddu ac mae’r coleg yn gweld bod angen rhoi cyfleoedd iddynt ddefnyddio’r iaith wrth ddysgu.”

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan: “Mae’n wych bod prentisiaid yn cael y cyfle i ddilyn eu rhaglen hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg. 

“Mae’n bwysig bod gwasanaethau fel hyn yn cael eu cynnig yn ddwyieithog oherwydd mae’n cryfhau’r defnydd a wneir o’r iaith o ddydd i ddydd ac yn sicrhau bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgìl werthfawr ym myd gwaith.

“Rydym wedi darparu cyllid i gefnogi Cynllun Llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae’n ardderchog gweld pobl yn elwa o’r cynllun. Rwy’n dymuno’n dda i’r prentisiaid sy’n dilyn rhaglenni hyfforddi ac yn gobeithio y cân nhw yrfaoedd hir a llwyddiannus.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,” meddai.

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Author