Home » Mae prosiect allgymorth Hywel Dda yn cael effaith “sylweddol a chadarnhaol” ar gymunedau lleiafrifoedd ethnig
Cymraeg Education Health

Mae prosiect allgymorth Hywel Dda yn cael effaith “sylweddol a chadarnhaol” ar gymunedau lleiafrifoedd ethnig

MAE prosiect allgymorth arloesol a gyflwynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael “effaith gadarnhaol sylweddol” ar gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Wedi’i lansio ym mis Mawrth 2021, mae’r prosiect allgymorth wedi gweld tîm o weithwyr cymunedol yn estyn allan i bobl o leiafrifoedd ethnig sy’n byw yn yr ardal i helpu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd y maent yn eu profi. I ddechrau, ei nod oedd mynd i’r afael â’r effaith anghymesur y mae COVID-19 wedi’i chael ar gymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Gwnaethpwyd y prosiect yn bosibl oherwydd grant o £75,000 a ddyfarnwyd gan NHS Charities Together i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Fe’i sefydlwyd mewn ymateb i argymhellion mewn adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a brofir gan gymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Dywedodd Helen Sullivan, Pennaeth Partneriaethau, Amrywiaeth a Chynhwysiant y bwrdd iechyd, fod y prosiect wedi helpu i chwalu’r rhwystrau rhwng cymunedau lleiafrifoedd ethnig a gofal iechyd.

“Yn y flwyddyn gyntaf hon, mae’r tîm allgymorth wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar gymunedau ac unigolion,” meddai Helen.

“Mae’r tîm wedi cefnogi pobl i gael mynediad at ystod o wasanaethau iechyd a derbyn negeseuon iechyd allweddol yn eu hiaith eu hunain.

online casinos UK

“Mae’r tîm hefyd wedi cefnogi pobl i gael eu brechiadau COVID-19 – gwasanaeth hanfodol pwysig o ystyried yr effaith anghymesur y mae COVID-19 wedi’i chael ar y rhai o gymunedau lleiafrifoedd ethnig.”

Mae’r gwaith allgymorth wedi cael croeso cynnes gan gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn yr ardal. Er enghraifft, estynnodd Rhwydwaith Aml-ddiwylliannol Llanelli “ddiolch enfawr i dîm allgymorth Bwrdd Iechyd Hywel Dda am yr holl gefnogaeth anhygoel a roddwyd i’n haelodau o gymunedau amrywiol; mae’r tîm hwn yn gweithio’n galed, mor falch ein bod yn gallu gweithio mewn partneriaeth er budd ein haelodau cymunedol”.

  • Cynnydd yn nifer y cymunedau lleiafrifoedd ethnig sy’n cael y brechlyn COVID-19
  • Mwy o fynediad at wasanaethau gofal iechyd a chymorth cyfathrebu (gan gynnwys gwasanaethau cyfieithu ar y pryd)
  • Teithiau cerdded lles i fenywod o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a oedd yn annog cefnogaeth cyfoedion ac yn brwydro yn erbyn unigrwydd ac arwahanrwydd
  • Cysylltiadau gwell â chymunedau Teithwyr
  • Gwell gwelededd o ddarparwyr gwasanaeth yn y gymuned.

Dywedodd Jo McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yr hyn sydd wedi bod yn gadarnhaol iawn am y prosiect allgymorth yw ein bod wedi gallu dysgu cymaint am y ffordd orau o ddarparu gofal iechyd i’n cymunedau amrywiol.

“Estynnodd y tîm allan ac ymgysylltu â grwpiau i gael gwybod am yr heriau a’r rhwystrau y maent yn eu profi wrth gael mynediad at ofal iechyd, ac i sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r problemau.”

Ychwanegodd Helen Sullivan: “Bydd y tîm yn parhau i adeiladu ar y cysylltiadau presennol ag asiantaethau a phartneriaid eraill, ac yn gweithio i estyn allan i hyd yn oed mwy o gymunedau, grwpiau ac unigolion.”

I gael rhagor o fanylion am y prosiect anfonwch e-bost at: [email protected]

Author