Home » Mentro’n gall ac aros yn ddiogel o gwmpas dŵr yr haf hwn
Cymraeg

Mentro’n gall ac aros yn ddiogel o gwmpas dŵr yr haf hwn

MAE CYFOETH NATURIOL CYMRU a grŵp Diogelwch Dŵr Cymru yn gofyn i bobl #MentronGall a chymryd camau ychwanegol i gadw eu hunain a’u teuluoedd yn ddiogel o gwmpas dŵr wrth iddynt fynd allan i’r awyr agored i fwynhau arfordir a chefn gwlad Cymru.

Mae Mentro’n Gall yn ymgyrch aml-asiantaeth sy’n ceisio sicrhau bod pobl yn cael eu hysbysu a’u paratoi cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. Mae’r ymgyrch yn annog pobl i sicrhau fod ganddynt y gêr, yr wybodaeth a’r sgiliau cywir ar gyfer eu gweithgaredd, a gwirio’r beth yw’r sefyllfa yn lleol e.e. o ran y tywydd a’r llanw.

Wrth i wyliau’r ysgol ddechrau ac wrth iddi gynhesu, mae mwy o bobl nag erioed yn heidio i’r traeth neu i afonydd neu lynnoedd mewndirol i nofio.

Mae risg ychwanegol i nofio yn yr awyr agored na fydd pobl sy’n newydd i’r gweithgaredd neu’r lleoliad yn ymwybodol ohonynt. Gall gwrthrychau cudd o dan yr wyneb, effaith dŵr oer ar y corff, a pheryglon dŵr sy’n symud arwain pobl i drafferthion yn gyflym.

Dywedodd Joe Roberts, Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol: Mynediad a Hamdden Awyr Agored, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Wrth i ni groesawu ymwelwyr yn ystod yr haf, hoffem ofyn i bobl gymryd gofal ychwanegol mewn dŵr ac o’i amgylch, i amddiffyn eu hunain ac osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys yn ystod y cyfnod prysur hwn.

online casinos UK

“Mae’n ddealladwy bod pobl yn chwilio am rywle i oeri ar ddiwrnod poeth, ond mae nofio gwyllt yn brofiad gwahanol iawn i nofio dan do. Mae angen i bobl fod yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain ac eraill gan asesu’r risgiau cyn iddyn nhw fynd i mewn i’r dŵr a thalu mwy o sylw i’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas.

“Os ydych chi’n rhiant, gallwch chi helpu trwy siarad â’ch plant am y peryglon o fod mewn dŵr a’r hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud i fentro’n gall.

“Gofynnwn hefyd i bobl barchu eraill a diogelu’r amgylchedd drwy ddilyn y cyngor yn y Cod Cefn Gwlad. Wrth fwynhau’r awyr agored, mae’n bwysig nad yw pobl yn gadael sbwriel, llygru unrhyw afonydd neu ffynhonellau dŵr, tarfu ar fywyd gwyllt nac ychwaith niweidio planhigion. Dylech hefyd sicrhau bod gennych ganiatâd ar gyfer mynd i mewn i ddŵr mewndirol, gan y gall yn aml fod mewn perchnogaeth breifat.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru:

“Gan fod mwy o bobl yn mynd ar wyliau gartref eleni, yn ddealladwy iawn byddant yn mynd allan i fwynhau amgylchedd naturiol Cymru er mwyn profi gallu byd natur i godi ein hysbryd – mae hefyd yn bwysig fod ganddynt y wybodaeth gywir i’w cadw eu hunain a’n cymunedau’n ddiogel. 

“Bu ymgyrch ‘Addo’ Croeso Cymru ar waith ers codi’r cyfyngiadau fis Mawrth er mwyn annog pobl Cymru ac ymwelwyr i barchu cefn gwlad a’r cymunedau rydym yn ymweld â nhw.  Mae hyrwyddo diogelwch wrth inni fentro allan dros yr haf yn rhan o’r ymgyrch hon.”

Meddai Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru ac Arweinydd Diogelwch Dŵr Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) yng Nghymru: 

“Os ydych chi ar eich ffordd i’r arfordir rydym yn eich cynghori i ymweld â thraeth lle ceir achubwyr bywydau os yw’n bosibl a nofio rhwng y baneri coch a melyn.

“Mae dyfroedd arfordirol a mewndirol yn gyfle ardderchog i fwynhau awyr iach a mannau agored, ond gallant fod yn amgylchedd anrhagweladwy, yn enwedig ar ddechrau’r haf pan fydd tymheredd yr aer yn dechrau cynhesu ond pan fydd tymereddau dŵr yn parhau i fod yn oer iawn, gan gynyddu’r risg o sioc dŵr oer.

“Os ydych chi mewn helynt yn y dŵr ‘Arnofiwch i Fyw’ – sef gorweddwch yn ôl, dal eich breichiau a’ch coesau ar led ac arnofio nes bydd effeithiau sioc dŵr oer yn mynd heibio ac y byddwch yn cael cyfle i ddod atoch eich hun. Dylech osgoi nofio ar eich pen eich hun a chadwch blant dan oruchwyliaeth bob amser.”

Dilynwch y camau hyn i’ch helpu i gadw’n ddiogel mewn dŵr ac o’i amgylch:

  • Os yw’n bosibl, dewiswch draeth ag achubwyr bywydau arno a nofiwch rhwng y baneri coch a melyn – ond ni all yr achubwyr bywydau fod ar bob traeth yr haf hwn felly mentrwch yn gall i’ch cadw chi a’ch teulu’n ddiogel.
  • Gwiriwch amseroedd y llanw cyn nofio yn y môr a dyfroedd aberol fel nad ydych chi’n cael eich ynysu gan y llanw.
  • Cadwch o fewn eich terfynau chi – os yw’r dŵr yn edrych yn arw, peidiwch â mynd i mewn iddo.
  • Peidiwch â defnyddio offer wedi’u llenwi ag aer – gallant eich tynnu allan i’r môr, â chithau neu’ch plentyn arnyn nhw.
  • Os yw’n bosibl, gwisgwch gap gwelededd uchel ac ewch â dyfais arnofio gyda chi wrth nofio.
  • Os ydych chi’n mynd i drafferthion yn y dŵr, peidiwch â chynhyrfu, arhoswch yn ddigynnwrf; ceisiwch dynnu sylw rhywun trwy godi’ch llaw a gweiddi am help.
  • Ewch i mewn i’r dŵr yn araf. Os byddwch chi’n cwympo i mewn ar ddamwain, ceisiwch ymladd yn erbyn eich greddf i nofio nes bod sioc y dŵr oer yn mynd heibio; ymlaciwch ac arnofiwch ar eich cefn nes y gallwch reoli eich anadlu.

Os ydych chi’n gweld rhywun sydd mewn trafferth yn y dŵr, mae’n well galw am help yn hytrach na rhoi eich hun mewn perygl. Ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau os ydych chi ar y traeth, neu’r Gwasanaeth Tân ac Achub os ydych chi mewn yn y tir.

Dewch o hyd i sut i gael amser diogel a difyr yn yr awyr agored yn AdventureSmart UK, a dilynwch y cyngor yng Nghod y Glannau a Chod Nofio yn y Gwyllt – rhan o deulu’r Cod Cefn Gwlad.

Author