Home » Myfyrwyr milfeddygaeth cyntaf Cymru yn cychwyn ym Mhrifysgol Aberystwyth
Aberystwyth Cymraeg

Myfyrwyr milfeddygaeth cyntaf Cymru yn cychwyn ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth

Bydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru yn agor ei drysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf heddiw (dydd Llun 20 Medi) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r myfyrwyr yn astudio gradd Baglor mewn Gwyddor Filfeddygol (BVSc) sydd yn cael ei darparu ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC).

Bydd y myfyrwyr ar y radd bum mlynedd yn treulio dwy flynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth a thair blynedd i ddilyn yng Nghampws Hawkshead RVC yn Swydd Hertford.

Mae’r rhaglen yn cwmpasu’r ystod llawn o anifeiliaid, o anifeiliaid anwes i anifeiliaid fferm, yn unol â phob rhaglen filfeddygol arall.

Mae’r cwrs hefyd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio agweddau penodol o wyddor filfeddygol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y myfyrwyr yn elwa o’r buddsoddiad o £1 miliwn mewn cyfleusterau dysgu newydd ar gampws Penglais y Brifysgol, sy’n cynnwys cyfleusterau anatomi ac astudio newydd sbon.

online casinos UK

Dywedodd Yr Athro Darrell Abernethy Pennaeth yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae heddiw’n ddiwrnod hynod arwyddocaol a chyffrous yn hanes Prifysgol Aberystwyth a Chymru. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn y llwyddiant hwn – mae ymdrechion a chefnogaeth nifer fawr o bobl a sefydliadau wedi arwain at y diwrnod arwyddocaol hwn.

“Wedi cymaint o waith caled gan staff ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn paratoi ar gyfer dechrau’r cwrs, mae’n deimlad gwych i weld ein myfyrwyr cyntaf yn cyrraedd. Byddan nhw’n elwa’n fawr o sgiliau’r tîm staff newydd a’r buddsoddiad sylweddol yn y cyfleusterau newydd hyn.”

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Mae hwn yn ddiwrnod o ddathlu a gobaith mawr yma yn Aberystwyth. Mae amaeth a’i diwydiannau perthynol yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae cyfrifoldeb arnom ni fel prifysgolion i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod. Mae’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol yn ychwanegu darn hollbwysig i’r jigso, un a fydd yn adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.”

“Bydd ein myfyrwyr yn mwynhau’r gorau o ddau fyd mewn prifysgolion sydd yn cynnig rhagoriaeth academaidd ac enw da am brofiad myfyrwyr, ac rwy’n diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at wireddu’r freuddwyd o ysgol gwyddor filfeddygol yng Nghymru.”

Ychwanegodd Yr Athro Stuart Reid, Prifathro Coleg Milfeddygol Brenhinol:

“Rydyn ni’n falch iawn o weld y fenter gyffrous hon yn dwyn ffrwyth ac yn ymuno â’n cydweithwyr wrth groesawu’r myfyrwyr newydd i Aberystwyth. Rydyn ni’n edrych ymlaen at estyn croeso’r un mor gynnes iddyn nhw pan gyrhaeddan nhw yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol ymhen dwy flynedd ar gyfer ail ran ein gradd filfeddygol newydd a ddarperir ar y cyd.”

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths:

“Mae’n newyddion gwych bod Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn agor ei drysau heddiw.

“Ymwelais â Phrifysgol Aberystwyth yn ddiweddar a gwnaeth y cyfleusterau gwych a fydd ar gael i fyfyrwyr argraff fawr arna i.

“Rwy’n dymuno’r gorau i bawb yn yr Ysgol newydd hon, yn staff ac yn fyfyrwyr, nawr ac ar gyfer y dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at weld y rôl bwysig y bydd yn ei chwarae a fydd o fudd i’n sector amaethyddiaeth a’n proffesiwn milfeddygol.”

Dywedodd Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru:

“Mae hwn yn ddiwrnod gwych i Brifysgol Aberystwyth, i’r proffesiwn milfeddygol, ac i iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.

“Mae’r clwstwr hwn – o addysg filfeddygol, ymchwil a rhagoriaeth – yn gyfle gwych i fyfyrwyr o Gymru a thu hwnt astudio mewn cyfleusterau sydd wedi’u cynllunio i’w helpu i gyrraedd eu potensial llawn ac i ragori.”

Mae’r Ysgol newydd yn adeiladu ar dros 100 mlynedd o addysgu ac ymchwilio ym maes iechyd anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth ac, yn fwy diweddar, y radd BSc Biowyddorau Milfeddygol a gyflwynwyd yn llwyddiannus ym mis Medi 2015.

Yn ogystal â’r cyfleusterau newydd ar gampws Penglais y Brifysgol, bydd y myfyrwyr hefyd yn astudio yn y labordai sy’n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr IBERS ac yn ennill profiad gwerthfawr ar ffermydd llaeth a defaid y Brifysgol, ac yng Nghanolfan Geffylau Lluest.

Author