MAE ffermwr o Ogledd Cymru wedi siarad am sut mae ei gymuned wedi newid i bentref sy’n llawn ail gartrefi ac am ei bryderon am y dyfodol.

Ar un adeg roedd Cyril Lewis yn ffermio cymaint â naw tyddyn, ac roedd pob un ohonynt arfer bod yn eiddo i’r Comisiwn Coedwigaeth, ond bellach wedi eu gwerthu. Mae’n cofio sut roedd Cwm Penmachno yn gymuned lewyrchus o ffermwyr a chwarelwyr llechi yn rhannau uchaf Dyffryn Conwy.

Blynyddoedd lawer yn ôl, roedd y pentref yn brysur gyda phobl leol yn agor siopau preifat i gyflenwi’r 100 o chwarelwyr a oedd yn gweithio yn y chwarel a’r felin wlân gerllaw. Roedd yn gymuned o ffermwyr hunangynhaliol a fyddai’n cyfnewid bwyd a llafur, ac roedd gan y pentref ysgol o’r safon uchaf hefyd.

Wrth gofio ei ddyddiau ysgol dywedodd: “Roedd tua 40 o blant yn yr ysgol yn Cwm. Roedd 11 ohonom yn trio’r 11+ yr un adeg a llwyddodd 10 ohonom i fynd i’r ysgol ramadeg. Roedd hynny’n beth prin iawn i ddigwydd. Roedd yna fenter gydweithredol hefyd a ffurfiwyd gan y gymuned ac roedd pum siop dan berchnogaeth breifat yn ogystal â ffermwyr yn cyflenwi pobl yn uniongyrchol â chynnyrch fel llaeth a llysiau.”

Nawr, mae Cwm Penmachno yn wahanol iawn ac mae Cyril yn cofio dechrau’r dirywiad.

“Mi ddigwyddodd pan gaeodd y chwarel ym 1962. Roeddem yn gwybod bod y costau’n codi a bod y ceudyllau yn mynd yn ddyfnach ac yn ddyfnach, ond roedd yn dal i fod yn sioc enfawr pan gaeodd. Collodd dynion eu gwaith ac o ganlyniad bu iddynt golli eu hincwm.

“Doedd dim gobaith gwerthu’r tai oherwydd bod cymaint ar werth, a beth bynnag, pwy oedd eisiau symud yma pan fod dim swyddi i’w cael. O fewn blwyddyn roedd bron i hanner y tai yn Cwm yn wag. Roedd pobl yn pacio ac yn symud allan – roedd y tai yn wag am flynyddoedd ac yna’n dod yn dai gwyliau. Caeodd siopau ac mi aeth y lle’n fwy ynysig…nid yw pobl ifanc eisiau aros yma. Mae’n sefyllfa druenus.”

Heb yn wybod i Cyril roedd yna fygythiad arall i ffordd o fyw’r gymuned ar y gorwel ac yn tyfu – yn llythrennol – yn y cwm.

“Pan ddechreuodd y goedwigaeth yma, rhoddwyd gobaith i ni, gan fynnu y byddai coedwigaeth yn cynnig mwy o waith nag amaethyddiaeth. Yn anffodus, nid dyna’r achos. Ar ôl i chi blannu’r coed, yn y DU mae’n cymryd tua deugain i hanner can mlynedd iddynt dyfu’n ddigon mawr i gael eu cynaeafu. Felly does bron dim gwaith ar y tir dros y cyfnod hwnnw o gwbl.

“Y dyddiau yma os oes angen gwneud unrhyw waith mawr yn y coedwigoedd mae contractwyr o bell yn cael eu cyflogi i wneud y gwaith. Rwy’n cofio 60 o bobl yn gweithio yn y Goedwigaeth ym Mhenmachno. Nid oes yr un yma erbyn heddiw a dim ond dau weithiwr coedwigaeth sy’n gwneud gwaith cynnal a chadw ar draws Dyffryn Conwy gyfan.”

Mae’n teimlo bod dyfodol ffermio yn y cwm yn ddu iawn oni bai bod newidiadau polisi mawr yn cael eu gweithredu yn y dyfodol: “Ni fuaswn eisiau bod yn ffermwr ifanc heddiw, yn edrych ar ddyfodol ffermio mwy fel ffermwr cadwraeth na ffermio i gynhyrchu bwyd.

“Un o’r problemau mwyaf yw bod yna ddatgysylltiad rhwng pobl ein trefi ac amaethyddiaeth. Pan welwn brinder bwyd, nid ydynt yn ei gysylltu â sut mae ffermio wedi ei orfodi i newid. Mae twristiaeth yr un fath. Mae pobl yn dod i Gymru oherwydd harddwch y lle. Nid yw’r harddwch hwnnw wedi dod i’r amlwg mewn pump, deg, neu hyd yn oed hanner can mlynedd. Mae wedi dod i’r hyn yr ydyw erbyn heddiw yn sgil cannoedd o flynyddoedd o sut y cafodd ei reoli.

“Fy mhryder mwyaf yw os bydd mwy o goed yn cael eu plannu yn y cwm, bydd yn gnoc arall, yn debyg i’r un a gawsom ym 1962. Rhaid i ni osgoi hynny ar bob cyfrif er mwyn y gymuned. Os cynigir plannu coed yn y cwm yn y dyfodol, mae’n hanfodol bod yr awdurdodau yn  ymgynghori â’r bobl leol cyn gwneud hynny.”