Home » Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd 2020-21 yn gyntaf ac ail!
Cymraeg Denbighshire Gwynedd

Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd 2020-21 yn gyntaf ac ail!

Ioan Wynne Rees

18 MIS ers cyflwyno’r cyfansoddiadau, cyhoeddwyd heno (nos Fawrth, 19 Hydref 2021) mai Ioan Wynne Rees o Gyffylliog, Rhuthun yw enillydd Medal Gyfansoddi Eisteddfod yr Urdd 2020-21 – a chyfansoddiad arall ganddo ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth.

Wyneb cyfarwydd i lwyfan Eisteddfod yr Urdd ddaeth yn drydedd yn y gystadleuaeth, sef Gwydion Powel Rhys. Yn wreiddiol o Rachub, Dyffryn Ogwen, mae Gwydion bellach yn ei flwyddyn gyntaf yn astudio Cyfansoddi yng Ngholeg Cerdd Frenhinol Llundain.

Trwy gydol yr wythnos hon, mae Eisteddfod yr Urdd yn gwobrwyo’r holl waith Cyfansoddi a Chreu buddugol ddaeth i law yn ôl yng ngwanwyn 2020, cyn gorfod gohirio’r Eisteddfod yn Ninbych oherwydd Covid-19.

Yn wreiddiol o bentref Cyffylliog, Rhuthun, mae Ioan bellach yn byw ym Mangor ac yn gweithio fel tiwtor gyda Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, ar ôl cwblhau Gradd M.A. mewn Cerddoriaeth, oedd yn canolbwyntio ar ganu roc Cymraeg. ‘Caneuon Clodfawr: Pum Cân o Glwyd i Denor’ yw enw’r gwaith buddugol, sef gosodiad o eiriau I.D. Hooson, Gwilym R. Jones ac R. Williams Parry.

Gwydion Powel Rhys

“Nes i greu cylch o ganeuon oedd yn seiliedig ar eiriau am Ddyffryn Clwyd gan awduron neu feirdd o Ddyffryn Clwyd, ac oedd yn clodfori’r ardal – dyna le mae’r teitl ‘Caneuon Clodfawr’ yn dod, sef o’r dywediad ‘Dyffryn Clodfawr Clwyd’,” eglura Ioan.

“Nes i gyflwyno’r casgliad i fy ffrind a’r tenor Dafydd Wyn Jones achos ro’n i’n meddwl am ei lais wrth eu cyfansoddi. Mae ennill y gystadleuaeth gyda chaneuon am Ddyffryn Clwyd, ar gyfer yr Eisteddfod oedd “i fod” yn Sir Ddinbych, yn golygu lot i mi.

“Fy mhrif ysbrydoliaeth wrth gyfansoddi yw cerddoriaeth Cymraeg – mae’n bwysig ein bod ni’n gwerthfawrogi faint o fwynder cerddorol sydd yma yn ein gwlad ac rwy’n ddiolchgar am fudiadau fel yr Urdd sy’n gwthio hyn ym mhellach.”

Mae Ioan yn derbyn Medal arbennig wedi’i chreu gan gwmni gemwaith Rhiannon, Tregaron, am y gwaith buddugol. Cerdd symffonig i fand pres ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth ganddo. Wrth feirniadu’r cyfansoddiadau, meddai Mared Emlyn fod alawon Ioan wedi’u cyfansoddi yn “ystyrlon”, ac yn “werth eu clywed”:

“Dyma gylch o ganeuon sy’n werth eu clywed. Mae’r alawon wedi eu cyfansoddi yn ystyrlon ac yn gweddu i ystyr a naws y geiriau. Mae’r casgliad hefyd yn gweithio fel cyfanwaith ac felly yn sicr yn gylch o ganeuon. Mae’r llais yn cael ei arddangos yn dda ond beth sy’n aros yn y cof yw nad yw’r cyfansoddwr wedi anghofio pwysigrwydd y piano, a’r berthynas rhyngddo â’r llais. Dyma gyfeiliant diddorol, addas, nad yw’n undonog nac yn ddiddychymyg ac mae’r llais a’r cyfeiliant yn cydweithio’n gelfydd iawn.”

Gellir dod o hyd i ganlyniadau cystadlaethau cyfansoddi Eisteddfod yr Urdd 2020 drwy ymweld â gwefan urdd.cymru/eisteddfod

online casinos UK

Author