Home » Prosiectau adferiad gwyrdd yn cael hwb ariannol
Cymraeg

Prosiectau adferiad gwyrdd yn cael hwb ariannol

MAE prosiectau sydd â’r nod o roi hwb cychwynnol i adferiad amgylcheddol ac sy’n cael eu hyrwyddo gan grŵp gorchwyl a gorffen dan arweiniad Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Syr David Henshaw, wedi cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae CNC, Llywodraeth Cymru a chyrff ariannu eraill wedi bod yn gweithio’n galed i gefnogi sefydliadau amgylcheddol a gwirfoddol drwy gydol pandemig y coronafeirws. Ac wrth i’r DU nesáu at flwyddyn ers y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf, mae cyllid pellach o £5.4miliwn wedi’i gyflwyno ar gyfer awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol i alluogi gwaith i ddechrau ar brosiectau er mwyn adfer ac adnewyddu fel rhan o adferiad gwyrdd Cymru ar ôl Covid-19.

Sefydlwyd y grŵp gorchwyl a gorffen adferiad gwyrdd o dan gyfarwyddyd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ym mis Gorffennaf 2020. Aeth y grŵp ati’n syth i alw am weithredu a syniadau mawr o bob rhan o Gymru a oedd yn cefnogi uchelgeisiau’r genedl ar gyfer economi gylchol ac a oedd yn ceisio mynd i’r afael â’r argyfyngau yn yr hinsawdd a natur.

Derbyniwyd cynigion gan drawstoriad o gymdeithas gan gynnwys grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, elusennau, cyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat a grwpiau amgylcheddol ledled Cymru.

Roedd y rhai a ddewiswyd i’w datblygu fel rhan o’r cylch cyntaf hwn yn gallu dangos y gall newid ddigwydd yn gyflym ac y gallent fod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth i brosiectau eraill eu hefelychu yn y dyfodol. Maent yn cynnwys:

  • Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – cyflwyno cyfleusterau Gwefru Cerbydau Trydan ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro. Bydd yr arian yn adeiladu ar raglen fawr sydd eisoes ar y gweill.
  • Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Cefnogi’r gronfa datblygu cynaliadwy sydd wedi’i hailbwrpasu i ganolbwyntio ar brosiectau cymunedol sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys gosod paneli solar a phrosiectau i leihau allyriadau carbon.
  • Menter Môn a Chyngor Sir Ynys Môn. Creu Asgwrn Cefn Gwyrdd newydd i Ynys Môn. Byddai’r prosiect yn cefnogi datblygu llwybr di-draffig o gopa Mynydd Parys i ganol Ynys Llanddwyn.
  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Parc poced a gwarchodfa natur Wernffrwd. Nod y prosiect hwn yw creu Parc Natur Poced newydd ar tua 10 erw o hen safle tirlenwi y tu allan i Langollen yng nghanol Dyffryn Dyfrdwy.
  • AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Ariannu gwelliannau i lwybrau mynediad a datblygu llwybrau newydd ar Warchodfeydd Natur Lleol Moel Findeg a Hen Ardd i leihau effaith y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ar y safle.
  • AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Cyllid ar gyfer gwelliannau o ran mynediad i Barc Gwledig Loggerheads gyda’r nod o leihau effaith niferoedd cynyddol ymwelwyr ar dirwedd ac ecoleg yr ardal.
  • AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Gwella mynediad i Graig Fawr ar gyfer cymunedau lleol ac ymwelwyr drwy fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag arwynebau meysydd parcio a gosod suddfannau i reoli problemau dŵr wyneb.
  • AHNE Ynys Môn. Cyllid i gefnogi gwell mynediad a chyfleusterau i ymwelwyr gan gynnwys gosod gwe-gamerâu mewn safleoedd poblogaidd a fydd yn darparu gwybodaeth amser real am nifer yr ymwelwyr. Bydd cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio i wella mynediad i finiau ailgylchu a chyfleusterau toiled.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) hefyd wedi derbyn cyllid i’w ddosbarthu i awdurdodau lleol ar gyfer prosiectau sy’n cyflawni blaenoriaethau’r adferiad gwyrdd, gan gynnwys cymorth i Bartneriaethau Natur Lleol a grwpiau cymunedol.

online casinos UK

Dywedodd Syr David Henshaw, Cadeirydd y grŵp gorchwyl a gorffen:

“Drwy gydol y flwyddyn hynod heriol hon, mae natur wedi chwarae rhan ganolog wrth helpu i hybu iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol y genedl.

“Mae dull y Bartneriaeth Adferiad Gwyrdd yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd camau cydweithredol yn cael eu cymryd. Mae gennym ymrwymiad ar y cyd i yrru’r adferiad gwyrdd ledled Cymru, gan helpu i osod y sylfeini ar gyfer twf economaidd cynaliadwy a theg a darparu manteision real ac uniongyrchol ar lawr gwlad i bobl a natur fel ei gilydd.” 

“Mae’n dda gweld gwaith yr Awdurdodau Lleol a chyrff cyhoeddus eraill, fel y Parciau Cenedlaethol ac AHNEau yn bwrw ymlaen â gwaith yr agenda hon, ac edrychaf ymlaen at weld gwelliannau ymarferol ar lawr gwlad dros y misoedd nesaf.”

Ers cyflwyno’r casgliad o syniadau i’r Gweinidog i’w ystyried ddiwedd y llynedd, mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi parhau i weithio gyda’i gilydd, gan ffurfio Partneriaeth Cyflawni Adferiad Gwyrdd. Drwy gronni ei arweinyddiaeth gyfunol, mae’r grŵp wedi rhoi cymorth uniongyrchol i’r rhai sydd wedi cyflwyno cynigion fel rhan o’r broses hon, i’w galluogi i yrru’r broses weithredu yn ei blaen.

Author