Home » UAC Sir Fôn yn paratoi brecwast fferm blasus ac yn codi swm sylweddol ar gyfer Sefydliad y DPJ
Cymraeg

UAC Sir Fôn yn paratoi brecwast fferm blasus ac yn codi swm sylweddol ar gyfer Sefydliad y DPJ

MI FU llond lle o bobol yn mwynhau platiad da o frecwast fferm ar Ynys Môn fore dydd Llun dwethaf ar ôl cyfnod clo hir ac unig.

Wrth sôn am y digwyddiad blynyddol, meddai Alaw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol Ynys Môn: “Roedd hi wir yn bleser cael pawb at ei gilydd unwaith eto ac ar ôl cyfnod mor hir-roedd llawer o waith dal i fyny! Mae’n amlwg bod cyfnod hynod heriol ac ansicr o flaen y diwydiant ac roedd yn braf gallu sgwrsio a rhannu pryderon.”

Alaw Jones

Yn bresennol hefyd roedd Elen Williams o Sefydliad y DPJ sef Elusen y Llywydd ac mi fuodd hi’n sgwrsio a rhannu gwybodaeth gyda’n haelodau. Fe godwyd swm o £520 yn ystod y bore ac mi roedd yr elusen yn ddiolchgar dros ben am y rhodd ac am haelioni pawb a gyfrannodd.

Mi roedd pawb wedi wir mwynhau cwrdd â’i gilydd unwaith eto, gyda rhai aelodau wedi aros drwy’r bore er mwyn manteisio ar y cyfle i sgwrsio a chymdeithasu wrth fwynhau llond plât o gynnyrch lleol, blasus. O dan sylw yn benodol roedd sgyrsiau am bryderon costau cynhyrchu, costau byw, dyfodol y taliad sengl a beth fydd y cynllun newydd, NVZs a chytundebau masnach.

Rhun ap Iorwerth MS, Gwynedd Watkin, Guto Bebb a Tom Jones Brecwast Gaerwen

Siawns hefyd i’n haelodau gwrdd â LLywydd FUWIS Tom Jones, Guto Bebb ein Rheolwr Gyfarwyddwr a Gwynedd Watkin Swyddog Gweithredol Sirol Cernarfon i gnoi cîl a mynegu barn mewn awyrgylch hamddenol dros baned.

Yn mwynhau cynnyrch lleol i’w gartref ar Ynys Môn, ac wedi treulio cryn amser yn siarad gyda’n aelodau, mi fu Rhun ap Iorwerth draw ac mi roedd yn canmol y wledd yn dweud: “Ge’s i frecwast penigamp bore’ma a chyfle i ddal fyny efo aelodau UAC Ynys Môn.”

online casinos UK
Brecwast Gaerwen

Roedd pawb a fu draw yn gytûn-mi roedd y bwyd yn fendigedig ac am hynny estynnwyd diolch i staff y caffi a’r cyflenwyr sef Mrs Rhian Roberts a’r staff yn Caffi‘r Mart Gaerwen, Cigoedd Dolmeinir Meats, J Raymond Jones Caergybi, E.T Jones Sons and Daughter Lamia Bodedern, Glandŵr Butchers Benllech, Hooton’s Homegrown Brynsiencyn, Mercado Butchers a Deli Beaumaris, Llechwedd Meats Llangefni, Becws Mȏn Gaerwen, Llaeth y Llan, Hufenfa De Arfon, Ŵyau S.N Lisk, Cwt Llefrith Fferm y Llan, Waitrose, Morrisons, Tesco a’r Co-op.

Author