Home » Wythnos gofalwyr yn cydnabod gwaith hanfodol gofalwyr ac yn amlygu’r cymorth sydd ar gael
Cymraeg

Wythnos gofalwyr yn cydnabod gwaith hanfodol gofalwyr ac yn amlygu’r cymorth sydd ar gael

Bydd sefydliadau ledled Sir Benfro yn dathlu Wythnos Gofalwyr a gynhelir rhwng 7 a
13 Mehefin.


Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth am ofalu, ac
amlygu’r heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu, a chydnabod y cyfraniad y
maen nhw’n ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled y Deyrnas Unedig (DU).
Mae hefyd yn helpu pobl nad ydyn nhw’n gweld eu hunain fel pobl â chyfrifoldebau
gofalu i ystyried eu hunain fel gofalwyr a chael mynediad i gymorth.

Bydd gofalu yn cyffwrdd bywydau pob un ohonom ar ryw adeg gan y bydd tri o bob
pum person yn dod yn ofalwyr, ac yn Sir Benfro mae gan dros 12% o’r boblogaeth
gyfrifoldebau gofalu.


Mae’r rôl y mae gofalwyr yn ei chwarae yn ein cymdeithas yn amhrisiadwy ac ni
ddylid ei thanamcangyfrif.
Cydnabyddir hefyd, er bod llawer o bobl yn teimlo bod gofalu yn rhoi boddhad ac yn


rhywbeth y byddent yn ei wneud yn ddi-gwestiwn, yn aml mae effaith gofalu yn gallu
effeithio ar agweddau ar fywyd fel iechyd a lles, addysg a chyflogaeth, a
pherthnasoedd.


I gydnabod cyfraniad a gwerth gofalwyr, mae Wythnos Gofalwyr yn cael ei dathlu yn
Sir Benfro gan ystod o sefydliadau.

online casinos UK

Mae Hafal Croesffyrdd, Gweithredu dros Blant, Cymdeithas Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn
cynnal ystod o weithgareddau am ddim ledled y sir ar gyfer gofalwyr, fel a ganlyn:


• Mae Sir Benfro yn Dysgu yn gwahodd gofalwyr i gymryd rhan mewn cyrsiau
blasu ar-lein ar bynciau fel ioga, amrywiaeth o sesiynau crefft, ieithoedd a
llawer mwy


• Cynhelir teithiau cerdded lles ledled y sir gan Gysylltwyr Cymunedol a Hafal
Croesffyrdd


• Mae Cyflogadwyedd Sir Benfro yn cynnig coffi/te a chacen am ddim i ofalwyr
yn eu caffis

• Mae Hamdden Sir Benfro yn ail-lansio’r cynllun Pasbort Gofalwyr i Hamdden,
sy’n rhoi chwe mis o aelodaeth i ofalwyr


• Mae Cysylltu Sir Benfro yn lansio cynnig newydd ‘Cyfleoedd Dysgu i Ofalwyr’
https://connectpembrokeshire.org.uk/carers-learning-opportunities
Mae manylion yr holl weithgareddau i’w cael yn
https://connectpembrokeshire.org.uk/making-caring-visible-and-valued neu gallwch
chi ffonio Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Gofalwyr Sir Benfro ar 01437
611002.


Dywedodd y Cynghorydd Mike James, Hyrwyddwr Gofalwyr yng Nghyngor Sir
Penfro: “Mae Wythnos Gofalwyr yn amser perffaith i gydnabod a dathlu ymdrechion
gwych gofalwyr o ddydd i ddydd.


“Mae pawb ohonom wedi dod trwy un o’r blynyddoedd anoddaf yn ein bywydau, ac

mae’r galw ar ofalwyr wedi bod yn fwy nag erioed o’r blaen.
“Yn ôl ei natur, mae gofalu yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig ac mae Wythnos
Gofalwyr yn gyfle i roi gwybod i ofalwyr ein bod yn ddiolchgar am bopeth a wnânt, a
rhoi gwybod iddyn nhw hefyd bod cymorth ar gael.


“Edrychwch ar y digwyddiadau a’r wybodaeth sydd ar gael fel rhan o Wythnos
Gofalwyr. Mae cymorth ar gael os ydych chi ei angen.”

Os ydych chi’n ystyried eich hun yn ofalwr, neu’n adnabod rhywun felly, mae
cymorth ar gael:


• Y Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc, a ddarperir gan Weithredu Dros Blant – 01437
761 330


• Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Gofalwyr Sir Benfro, a ddarperir gan
Hafal Croesffyrdd – 01437 611002 / [email protected]


Yn ogystal, cynhelir gweithgareddau ledled Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ar gyfer
gofalwyr sy’n byw ger ffiniau sirol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy gysylltu
â:


• Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Sir Gâr – Ffôn: 0300 0200 002 – E-bost:
[email protected] neu ewch i wefan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd
Gorllewin Cymru: www.ctcww.org.uk


• Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Ceredigion – Ffôn: 01970 633564 – E-
bost: [email protected] neu ewch i wefan

www.ceredigion.gov.uk/gofalwyr  

Am ymholiadau gan y wasg, anfonwch neges

Author