BOB blwyddyn, am ddeg diwrnod a deg noson, mae dinas fach Lydaweg Lorient yn dod yn fyw gyda sŵn a lliw gŵyl arbennig.


Festival Interceltique de Lorient yw gŵyl Geltaidd fwya’r byd, lle mae dros 800,000 o bobl yn heidio i ddathlu’r hyn sy’n uno rhai o genhedloedd hynaf y byd – y traddodiad Celtaidd a hynny trwy ddawns, chwedl a chân.


Mae’r Ŵyl yn cyfuno pob math o gerddoriaeth o’r gwledydd Celtaidd, o pop modern i’r gwerin, roc, jazz.


Mewn rhaglen arbennig fydd i’w gweld ar Nos Sul 4 Medi, cawn gamu i mewn i’r ŵyl arbennig yma, a phrofi rhai o’r perfformiadau cerddorol, yn ogystal â rhai o’r gweithgareddau diwylliannol eraill y mae’r ŵyl yn cynnig.


Y delynores Cerys Hafana, Azenor Kallag y Llydawes sydd wedi dysgu Cymraeg, a’r canwr Gwilym Bowen Rhys fydd yn cyflwyno.

Mae Gwilym, sy’n byw ym Methesda, ac yn wyneb cyfarwydd ar y sin canu gwerin yng Nghymru wedi cael y profiad o ganu yn yr ŵyl: “Nes i ganu 6 gwaith eleni – bron bob dydd. 2015 oedd y tro cyntaf i mi fynd i’r ŵyl; ges i wahoddiad i ganu yna’r adeg hynny, ac es i eto yn 2018.


“Bob blwyddyn mae un o’r gwledydd yn cael mwy o sylw, a blwyddyn Cymru oedd hi yn 2018.
“Mae ‘na falchder a chyfrifoldeb o gynrychioli dy wlad. Mae pobl yn dod i bafiliwn Cymru yn chwilfrydig i weld beth sydd gennym i’w gynnig, ac rwyt ti angen cyflwyno popeth drwy gyfrwng Ffrengig a dipyn o Lydaweg.


“Mae’r cynulleidfaoedd newydd yn hollol wych.
“Maen nhw yna i ddarganfod grwpiau newydd ac i brynu CDs ac i gefnogi’r grwpiau yma, felly mae’r ymateb fel arfer yn hollol wych.”


Ymysg y gwledydd Celtaidd – Cymru, Cernyw, Llydaw, Iwerddon, yr Alban ac Ynys Manaw – mae Galicia ac Asturias, sy’n genhedloedd yng ngogledd Sbaen hefyd yn cael cynrychiolaeth yn y digwyddiad.


Ac er bod nhw ddim yn siarad ieithoedd Celtaidd, mae yna gysylltiad hanesyddol, diwylliannol.


Meddai Gwilym: “Mae o’n gyfle grêt i ddod a lot o’r cenhedloedd gydag ieithoedd lleiafrifol at ei gilydd i ddysgu oddi wrth ein gilydd ac i ysbrydoli’n gilydd mewn ffordd.


“A ti’n mynd adre’n llawn tân yn dy fol i gyfrannu ac i gario ‘mlaen i gyd-greu pethau newydd. Ond hefyd, mae’n llwyfan blynyddol a chyson i Gymru”.

Yn y rhaglen, cawn berfformiadau gan Nogood Boyo, Alffa, TeKeMat (band techno o Ffrainc), Cerys Hafana a Léa (cyd-brosiect rhwng Cymru a Llydaw), Shamoniks a Krismenn (cyd-brosiect rhwng Cymru a Llydaw) a The Rowan Tree (o Gernyw) i enwi rhai.


“Mae ‘na rywbeth i bawb o bob oed yna” meddai Gwilym. “Yn wahanol i’r Eisteddfod, dydi o ddim mewn maes cyfyngedig; mae o’n debycach i sut oedd Eisteddfod Caerdydd.


“Lot o ddawnsio ar y stryd, gorymdeithio, ac wedyn mae bob gwlad efo ardal, neu bafiliwn ei hunain efo’u bandiau’n chwarae. Felly ti’n medru mynd o babell i babell.


“Mae’r awyrgylch yn fywiog iawn; mae’r dref yn dod yn fyw drwy’r wythnos, ac mae ‘na fariau yn y dref yn cynnal stwff eu hunain.


“Yn y rhaglen gawn ni weld perfformiadau gan grwpiau o Gymru ond hefyd grwpiau o wledydd eraill, cawn dipyn o flas o’r dref tu allan i’r ŵyl, cyfweliadau – ac anturiaethau!
“Eleni, tro Estwrias, cenedl yng ngogledd Sbaen; un o’r pethau maen nhw’n enwog am ydi seidr, ac maen nhw’n tollti’r seidr o uchder mawr.


“Felly gewch chi weld fi’n trio ‘ngorau i wneud hynny.”