Home » Hanner miliwn o frechlynnau COVID yn cael eu rhoi yng nghanolbarth a gorllewin Cymru
Cymraeg Health

Hanner miliwn o frechlynnau COVID yn cael eu rhoi yng nghanolbarth a gorllewin Cymru

Rhoddwyd y 500,000fed brechlyn COVID-19 y penwythnos hwn, gyda mwy na 72% o oedolion ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro bellach wedi cael eu dos cyntaf.

I nodi’r cyflawniad hwn, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) am gydnabod pawb sy’n rhan o’r ymdrech ryfeddol hon ac yn diolch i’r rhai sydd wedi cael eu brechu.

O weinyddu’r brechlyn cyntaf yn Ysbyty Glangwili ddechrau mis Rhagfyr, llwyddodd y rhaglen ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru i ehangu ar gyflymder diolch i gyfranogiad cydweithwyr gofal sylfaenol mewn meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol ac agor canolfannau brechu torfol ar draws y tair sir.

Mae pob elfen o’r rhaglen wedi cael cefnogaeth ar hyd y ffordd gan wirfoddolwyr, sefydliadau partner ac ystod o staff ‘y tu ôl i’r llenni’ gan gynnwys TG, Canolfan Reoli’r bwrdd iechyd, timau fferylliaeth, iechyd y cyhoedd, staff diogelwch a llawer mwy.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n rhywbeth a ddywedwyd o’r blaen, ond ni ellir gorbwysleisio yr her o ymgymryd â rhaglen brechu torfol o’r raddfa hon.

“Mae ein diolch yn fawr i’r llu o sefydliadau, timau ac unigolion sydd wedi gweithio’n ddiflino dros yr wyth mis diwethaf i wneud hyn yn bosibl.

online casinos UK

“Cyrhaeddwyd y garreg filltir hon ar adeg pan rydym yn anffodus yn gweld cynnydd mewn achosion COVID ar draws ein rhanbarth, ond diolch i’r brechlyn rydym yn obeithiol na fydd ein hysbytai yn profi’r un galw ag a welwyd yn y don gyntaf a’r ail.

“Byddwn yn parhau i weithio i wneud mwy a chynyddu nifer y bobl y tu hwnt i 75%, a darparu ail ddosau i bawb sydd angen un, ond mae angen help pawb arnom i wneud hyn.

“Mae pob dos a roddir, a phob person a ddiogelir yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae’r brechlynnau’n ddiogel ac yn effeithiol. Mae eich ail ddos o’r brechlyn yn bwysig ar gyfer amddiffyniad hirach yn erbyn COVID-19 ac yn erbyn yr amrywiad Delta. “

Mae ‘gadael neb ar ôl’ yn egwyddor allweddol i raglen frechu Cymru. Er bod y nifer sy’n derbyn y brechlyn COVID-19 yng Nghymru wedi bod yn uchel iawn, mae grwpiau o’r boblogaeth yn dal i fod, er eu bod wedi derbyn mwy nag un cynnig, yn parhau heb eu brechu.

Bydd y GIG bob amser yn barod ar eich cyfer pe na baech wedi derbyn eich cynnig cyntaf o frechiad COVID-19 am ba bynnag reswm ond wedi newid eich meddwl, nid yw byth yn rhy hwyr i drefnu apwyntiad.

Os hoffech archebu’ch dos cyntaf, cysylltwch â’r bwrdd iechyd yn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol i drefnu apwyntiad:

Author