MAE Castell Aberteifi wedi cyhoeddi bod ganddo breswylydd parhaol newydd.
Mewn datganiad i’r wasg ar dudalen cyfryngau cymdeithasol y Castell, datgelodd yr ymddiriedolwyr fod olion coeden eiconig wedi eu troi mewn cerflun o’r Arglwydd Rhys.
Dywedodd y datganiad: Yn yr wythnosau diwethaf, gwnaethom orfod ffarwelio i un o’n trigolion hŷn; ein Derwen Twrci oedd tua 220 mlwydd oed. Ers iddo gwympo ym mis Chwefror, mae cymeriad newydd wedi dod i’r amlwg yn araf o’r hyn a oedd yn weddill o’r hen dderwen.
I nodi lleoliad y goeden eiconig hon, comisiynwyd cerfio cerflun newydd , wedi’i wneud o’r stwmp a oedd dal i sefyll. Ar ôl ystyried yn ofalus, cytunwyd mai cerfio’r Arglwydd Rhys fyddai fwyaf addas, gyda’i ffigwr mawr trawiadol yn arolygu’r Castell anhygoel y dechreuodd ei adeiladu yn 1171, gan ddod y Cymro cyntaf i adeiladu Castell o garreg.
Dyluniwyd a cerfluniwyd y cerfio gan yr artist o Gaerfyrddin Simon Hedger (yn y llun gyda’r cerfio isod) i wneud y defnydd gorau o’r pren sy’n weddill.
Roedd yr hyn a allai fod yn gyraeddadwy yn aneglur i ddechrau gan fod pren Derwen Twrci yn adnabyddus am fod yn anodd iawn i weithio gydag, oherwydd mae yna lawer llai o bren caled yn y goeden, o’i gymharu â choeden Derwen frodorol.
Er bod y Castell ar gau, bydd cyfranogwyr yn Helfa Wyau Pasg y penwythnos hwn yn cael cyfle i weld cerflun yr Arglwydd Rhys
Roedd Simon yn synnu’n hapus at faint o ddeunydd da ac roedd yno iddo weithio gydag o’r hen goeden.
Mae’r cerflun yn dangos yr Arglwydd Rhys yn dal cleddyf a gwaywffon, yn edrych allan i ble credir y byddai ei Neuadd Fawr wedi sefyll unwaith; y Neuadd Fawr a oedd yn gartref i’r hyn sy’n cael ei ystyried yn eang ac Eisteddfod gyntaf Cymru.
Add Comment