Home » Prentisiaethau’n llenwi bylchau sgiliau yng ngweithlu cwmni gêrs
Cymraeg Mid Wales Powys

Prentisiaethau’n llenwi bylchau sgiliau yng ngweithlu cwmni gêrs

Apprenticeship Awards Cymru Finalists, Compact Orbital Gears, Rhayader. Picture by Phil Blagg Photography. PB006-2021

BU DATBLYGU gweithlu hyblyg â sgiliau amrywiol yn help i sicrhau bod Compact Orbital Gears yn enw blaenllaw yn y diwydiant gêrs arbenigol ers dros hanner canrif.

Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 43 yn Rhaeadr Gwy, yn dylunio, yn cynhyrchu ac yn datblygu gêrs pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid yn y byd awyrofod, moduron ac ynni glân.

Y gallu hwn i gynnig cynnyrch wedi’i gynllunio’n arbennig yw’r allwedd i lwyddiant y cwmni. Sefydlwyd Compact Orbital Gears yn yr 1960au ac mae’n ymfalchïo yn ei weithlu medrus, ei ysbryd  teuluol a’i hanes maith o gyflogi prentisiaid o’r Canolbarth.

Yn awr, mae’r cwmni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

online casinos UK

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae gan Compact Orbital Gears dri phrentis a phump o weithwyr ifanc eraill yn gweithio tuag at gymwysterau Addysg Bellach ar hyn o bryd. Myrick Training a Grŵp Colegau NPTC, Campws y Drenewydd sy’n darparu’r cymwysterau yn cynnwys Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (Lefel 2), Diploma Estynedig mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg Fecanyddol Lefel 3, HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Fecanyddol a BTEC mewn Busnes a Gweinyddu.

Mae’r penderfyniad i ganolbwyntio ar  ddatblygu ei gronfa ei hunan o beirianwyr medrus yn talu’r ffordd i Compact Orbital Gears mewn cyfnod o brinder ledled Prydain. Mae’r Rhaglen Brentisiaethau’n cynnig hyfforddiant technegol, gyda chyfarwyddyd arbenigol gan weithwyr profiadol yn y cwmni sy’n rhannu eu sgiliau a’u gwybodaeth gyda’r prentisiaid.

Gan fod Compact Orbital Gears yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu, mae’r staff yn tueddu i aros yn hir a nod hirdymor y cwmni yw cyflwyno peiriannau cyfrifiadurol, modern, a fydd yn ddelfrydol ar gyfer helpu prentisiaid i ddatblygu.

Ym marn y cwmni, mae twf organig yn allweddol i’w lwyddiant, ac mae’n cynnig lleoliadau gwaith i raddedigion ac i ddarpar beirianwyr o ysgolion yr ardal.

Dywedodd Tricia Evans, rheolwr cyllid Compact Orbital Gears: “Ymunodd y rhan fwyaf  o’n gweithwyr â’r cwmni fel prentisiaid ac mae un newydd ddathlu 50 mlynedd o wasanaeth gyda ni.

“Er mwyn i’r cwmni barhau i lwyddo i’r dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn datblygu ac yn annog gweithwyr newydd, gan eu bod yn dod â gwybodaeth newydd a syniadau ffres i’r cwmni.”

Dywedodd Nick Jones, rheolwr hyfforddiant a pheirianneg gyda Myrick Training: “Mae Compact Orbital Gears yn dda iawn am ragweld bylchau sgiliau yn ei weithlu ac mae’n awyddus iawn i gefnogi a meithrin doniau yn y cwmni ei hunan.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon. 

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

Capsiynau lluniau:

Rheolwr cynhyrchu Compact Orbital Gears, Rob Price gyda’r prentisiaid Ruben Clements, Rowan Morgan, Ollie Leadbetter a Luke Jones, sydd wedi cwblhau ei brentisiaeth.

Rheolwr cynhyrchu Compact Orbital Gears, Rob Price gyda Rowan Morgan, un o brentisiaid y cwmni.

Author