Home » Abertawe’n wynebu Napoli
Cymraeg

Abertawe’n wynebu Napoli

napoliBYDD Abertawe’n wynebu Napoli yn rownd y 32 olaf yng Nghynghrair Ewropa, gydag enillwyr y gêm honno’n wynebu Porto neu Eintracht Frankfurt yn rownd yr 16 olaf.

Doedd Abertawe ddim ymysg y detholiadau pan gafodd yr enwau eu dewis, oedd yn golygu eu bod yn debygol o wynebu un o dimau anoddaf y gystadleuaeth.

A dyna’n union gawson nhw, gyda’r gwrthwynebwyr o ynys Sisili yn yr Eidal yn disgyn i lawr o Gynghrair y Pencampwyr ar ôl dod yn drydydd yn eu grŵp er iddyn nhw drechu Arsenal 2-0 yn y gêm olaf a gorffen gyda 12 pwynt.

Rheolwr presennol Napoli, Rafael Benitez, oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth hon y llynedd gyda Chelsea pan drechon nhw Benfica 2-1 yn y ffeinal.

Bydd Abertawe’n wynebu’r Eidalwyr adref yn Stadiwm y Liberty ar 20 Chwefror, cyn teithio i’r Stadio San Paolo wythnos yn ddiweddarach ar 27 Chwefror.

Os llwyddwn nhw i ennill dros y ddwy gêm hynny, fe fydd y gemau yn erbyn Porto neu Frankfurt yn cael eu chwarae ar 13 a 20 o Fawrth. Cafodd Tottenham eu dewis i chwarae Dnipro Dnipropetrovsk o’r Wcrain, sy’n cael euhyfforddi gan gyn-hyfforddwr Spurs Juande Ramos, gyda’r enillydd yn wynebu PAOK Salonika neu Benfica.

online casinos UK

Bydd ffeinal Cynghrair Ewropa yn cael ei chwarae yn Stadiwm Juventus, Turin, ar 14 Mai 2014, gyda Juventus hefyd yn y gystadleuaeth bellach ar ôl iddyn nhw ddisgyn i lawr o Gynghrair y Pencampwyr.

Her i’r Saeson yng Nghynghrair y Pencampwyr

Cafodd Man City ac Arsenal gemau anodd yn rownd 16 Cynghrair y Pencampwyr, ar ôl i’r ddau ohonynt ddod yn ail yn eu grwpiau.

Bydd Man City yn herio Barcelona, enillwyr y gwpan yn 2009 a 2011, tra bod Arsenal yn wynebu Bayern Munich, yr enillwyr llynedd a ddaeth i frig grŵp Man City y flwyddyn hon.

Mae gan Man United gêm gymharol haws, yn erbyn Olympiakos o Roeg, tra bod Chelsea yn wynebu Galatasaray o Dwrci, sydd yn cynnwys cyn-ymosodwr y Gleision Didier Drogba.

Trip i’r Almaen fydd gan Gareth Bale a Real Madrid wrth iddyn nhw herio Schalke.

Mae cymalau cyntaf y gemau hynny i’w chwarae ar 18, 19, 25 neu 26 o Chwefror, gyda’r ail gymal ar 11, 12, 18 neu 19 Mawrth.

Author