Home » Alun `Sbardun` Huws o Benrhyn Aberstalwm
Cymraeg

Alun `Sbardun` Huws o Benrhyn Aberstalwm

Alun `Sbardun` Huws
Alun `Sbardun` Huws
Alun `Sbardun` Huws

GYDA MARWOLAETH sydyn Alun `Sbardun` Huws collwyd y cyntaf o’r to hwnnw o gerddorion a roddodd Gymru oll ar dân a pheintio’r byd yn wyrdd chwedl Dafydd Iwan. Fel myfyriwr yng Nghaerdydd daeth ar draws bechgyn eraill o gyffelyb anian o gefndiroedd gwahanol oedd yn ymddiddori yn niwylliant y gitâr. Ffurfi wyd y Tebot piws. Gwnaeth argraff wahanol i eiddo’r triawdau a rannai’r un fi lltir sgwâr ar lwyfannau Nosweithiau Llawen y 1970au cynnar. Profodd yn heriol i gynulleidfaoedd traddodiadol. O ran gwisg, ymarweddiad a deunydd gwelwyd yr elfen amharchus yn brigo i’r wyneb. Yffach beth yw’r ots a beth yw’r iws oedd yr agwedd pan fydde’r pedwar – Ems, Dewi Pws, Stan a Sbardun – hyd yn oed yn poeri ar ei gilydd wrth berfformio.

A doedden nhw ddim o hyd yn boddran presenoli eu hunain yn lle bynnag roedd eu henw i’w weld ar boster. Roedd hynny yn taro tant ymhlith y genhedlaeth hirwalltog a jinsog. Ni welwyd hynny’n amlycach nag yn y sesiyne cyson, llawn dop, a gynhaliwyd yn nhafarn y New Ely yng Nghaerdydd. Welech chi ddim o’r rhain mewn blazers, trywsuse llwyd a theis. Yn wir, roedden nhw o’r farn fod yna bethe amgenach i’w cyfl awni na gwisgo’n drwsiadus. Un o’r pethe hynny oedd hwyluso chwyldro iaith trwy ei defnyddio ymhob agwedd o fywyd. Gwelwyd eu bod o ddifrif wrth i Sbardun gyfrannu at sefydlu’r cylchgrawn pop ‘Sŵn’ a oedd yn barod i’w dweud hi fel yr oedd hi. Ni laesodd ddwylo.

Wrth iddo ddatblygu’n gerddorol ymunodd ac Ac Eraill a sugno’r dylanwade Celtaidd oedd yn amlwg ar y pryd o dan arweiniad y Llydäwr, Alan Stivell. Bu ganddo ran allweddol yn y sioe ‘Nia Ben Aur’ a lwyfanwyd ym mhafi liwn Eisteddfod Caerfyrddin 1974 gan gynnig i ni Dir Na Nog. Bu’n aelod o Mynediad am Ddim gan ddal i gloddio’r wythïen werinol yn ogystal â chaneuon oedd yn dweud rhywbeth. Mewn gyrfa deledu’n ddiweddarach bu’n gyfrifol am gyfres o raglenni nodedig am ganu gwerin. Daliodd ati i gyfansoddi. Concrodd yr afl wydd blin o ddibyniaeth ar y ddiod feddwol. Amlygwyd y bersonoliaeth annwyl drachefn. Byddai ei gyfarchiad yn gynnil a bachog gyda chilwen a direidi yn ei lygaid. Roedd ei ben yn llawn caneuon.

Ei eiddo ei hun ac eiddo eraill. Hoffai Sbardun fynychu cyngherdde gan cantorion-gyfansoddwyr yng nghyffi nie Caerdydd. Rhannai ei edmygedd ohonynt ar ei dudalen facebook. Gwerthfawrogai allu eraill i gyfl eu rhyw wirionedd oesol mewn tair munud o gân. Roedd hynny ynddo’i hun yn brawf ei fod ef ei hun yn cymryd y grefft o gyfansoddi o ddifrif. Medrai gyfl eu darluniau llawn naws fyddai’n tynnu ar dannau’r galon o glywed artistiaid fel Bryn Fon a Linda Healey yn eu canu.

Roedden nhw’n gyfuniad o ddyheu, dihangfa a hiraeth am ddoe na ddaw yn ôl dim ond yn y dychymyg a’r galon. Tebyg mai’r amlycaf o’r rhain oedd ‘Strydoedd Aberstalwm’ (neu ‘Strydoedd Slawerdydd’). Cyfeirio a wna at ei blentyndod ym Mhenrhyndeudraeth, ym Meirionydd, a’r bobol a’i mowldiodd. Mae’r gân yn ddiedifar hiraethus. Try allwedd y galon ym mynwes eraill o’r un genhedlaeth a fagwyd mewn ardaloedd cyffelyb.

Llawenychai fod ei arwr Meic Stevens wedi dewis canu’r gân. Gyda didwylledd a rhyfeddod yr adroddai’r hanes amdano ynte a’i gyfaill Emyr Huws Jones, cyfansoddwr o’r un maintioli, yn penderfynu bodio i Solfach un haf i weld Meic. Bu’n daith helbulus ac ni fu’r arhosiad yn y pentref heb ei gyffro. Ond cawsant aros dros nos ar aelwyd Meic. I Gymro o gerddor ar ei brifi ant roedd hynny’n brofi ad cyffelyb i dreulio noson ar aelwyd Bob Dylan. Cyfl awnwyd pererindod. .

online casinos UK

Adlewyrchwyd ei hoffter o greu naws yn ei ganeuon yn y lluniau a fyddai yn eu postio ar ei dudalen facebook. Roedd ganddo lygad am lun pan gyfeiriai ei gamera tuag at y môr a’r machlud yn ardal Y Barri. A mynych y gwelwyd lluniau o drigolion bore oes ar y dudalen yn brawf nad oedd Penrhyndeudraeth wedi mynd yn angof. Ac wedi’r cyfan dyna lle perfformiodd y Tebot Piws ei gig olaf ym mis Mai 2011 fel petai yna gylch yn cau. Cymwynaswr ac anogwr cerddorion ar eu prifi ant oedd y gŵr y tyfodd ei lysenw yn fwy o enw bedydd iddo na’r un a roddwyd iddo yn Aberstalwm bore oes.

Author