Home » Amser ar ôl i roi barn ar gynnig iaith Ysgol Dyffryn Trannon
Cymraeg Mid Wales Powys

Amser ar ôl i roi barn ar gynnig iaith Ysgol Dyffryn Trannon

DCIM\100MEDIA\DJI_0006.JPG

MAE llai na thair wythnos ar ôl i bobl roi eu barn ar gynigion i newid categori iaith ysgol gynradd yng ngogledd Powys.

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig newid darpariaeth iaith Ysgol Dyffryn Trannon yn Nhrefeglwys fel ei bod yn dod yn ysgol Gymraeg yn y pen draw gan sicrhau y bydd disgyblion yr ysgol yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Ar hyn o bryd mae’n ysgol ddwy ffrwd sy’n cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg i ddisgyblion 4 – 11 oed.

Mae’r cyngor yn gofyn am farn y cyhoedd ar y cynnig. Bydd y cyhoedd yn gallu rhoi eu barn tan ddydd Iau, 15 Ebrill 2021.

Os bydd yn mynd yn ei flaen, byddai’r newid arfaethedig yn cael ei gyflwyno cam wrth gam, blwyddyn i flwyddyn, gan ddechrau gyda dosbarth Derbyn yr ysgol ym mis Medi 2022.

Ni fyddai’r newid hwn yn effeithio ar y disgyblion sydd yn yr ysgol yn barod – byddai’r disgyblion sy’n derbyn addysg cyfrwng Saesneg yn yr ysgol yn gallu parhau i wneud hynny tan iddynt adael yr ysgol.

Dywedodd Dr Caroline Turner, Prif Weithredwr, Cyngor Sir Powys: “Mae nifer y disgyblion cyfrwng Saesneg yn Ysgol Dyffryn Trannon wedi gostwng dros y blynyddoedd diweddaf ac mae hyn yn dipyn o her i’r ysgol o ran sicrhau darpariaeth briodol ar gyfer y dysgwyr hyn.

“Un o nodau’r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yw gwella mynediad at addysg Gymraeg ar draws pob cyfnod allweddol. Mae gennym hefyd amcan yn y strategaeth i symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith.

“Er mwyn gwireddu’r nodau a’r amcanion hyn, rydym eisiau symud Ysgol Dyffryn Trannon ar hyd y continwwm iaith. Byddai hyn yn sicrhau bod disgyblion yr ysgol yn cael cyfle i ddod yn hollol ddwyieithog ac yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, felly’n cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig bod cymuned ysgol Ysgol Dyffryn Trannon a’r rhai sy’n byw yn yr ardal ehangach yn cael dweud eu dweud ar y cynigion hyn. Hoffwn eu hannog i anfon eu barn fel y gellir ei ystyried.”

I ymateb i’r ymgynghoriad, ewch i https://cy.powys.gov.uk/trawsnewidaddysg a dilynwch y dolenni i roi eich barn ar-lein.

Neu, gallwch ymateb i ni yn ysgrifenedig trwy anfon e-bost i [email protected] neu drwy’r post i’r Tim Trawsnewid Addysg, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG

Author