Home » Awyr iach a gofod agored i ysbrydoli dysgu yn yr hydref
Cymraeg

Awyr iach a gofod agored i ysbrydoli dysgu yn yr hydref

PondDip4webGan groesi eu bysedd am haf bach Mihangel, mae staff Darganfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ôl wrth eu gwaith yr hydref hwn er mwyn helpu athrawon wneud y gorau o’r awyr iach yn eu gwersi.

Beth bynnag eich diddordeb – taith gerdded drwy’r coed, ymchwilio i’ch ochr greadigol yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, neu fynd yn ôl mewn amser yng Nghastell Henllys neu Gastell Caeriw, mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol rywbeth arloesol i blant ysgol o bob oed

“Yr hydref yw’r cyfnod delfrydol i blant fod yn yr awyr iach,” esboniodd Parcmon Darganfod y Parc Cenedlaethol Craig Stringer. “Mae popeth yn newid wrth i fyd natur baratoi’n lliwgar at dymor tawelach, ond mwy heriol, y gaeaf, ac mae’n darparu cynhaeaf ffrwythlon i fywyd gwyllt.
“Mae’n gyfnod gwych i blant ddod i ddarganfod, adeiladu, cwestiynu a chael hwyl.”

Yn dilyn hyfforddiant llwyddiannus mewn swydd i athrawon yn ddiweddar ceir dwy sesiwn newydd, Mathemateg Mwdlyd a Geiriau Gwyrdd, sydd bellach ar gael i grwpiau ysgol.

Mae’r sesiynau ysbrydoledig newydd wedi’u cynllunio i alluogi athrawon i fynd â gwersi rhifedd a llythrennedd i’r awyr agored, ac wedi’u datblygu o’r canllawiau pwnc newydd sydd wedi’u cyhoeddi i ysgolion.

Mae sesiynau’r Awdurdod ar gael mewn coedwigoedd, ar y traeth neu yn yr afon, yn ogystal ag yng Nghastell a Melin Caeriw a Bryngaer Oes yr Haearn Castell Henllys, sy’n cael eu rheoli gan Awdurdod y Parc.

Yma mae plant yn defnyddio Mathemateg neu Gymraeg a Saesneg i roi ystyr i fywyd yn Oes yr Haearn neu yng nghyfnod y Tuduriaid a deall pam fod cymaint o’r diwrnod yn cael ei dreulio yn gwneud dim mwy na goroesi.

Mae Mathemateg, Cymraeg a Saesneg yn gydrannau craidd yn y cwricwlwm cenedlaethol a nod y sesiynau hyn yw dangos i athrawon a disgyblion bod modd iddyn nhw gael eu cyflwyno mewn amryw o leoliadau, ond bod cyflwyno yn yr awyr agored hefyd yn cynnig rhywbeth newydd.

Ychwanegodd Craig: “Nid dysgu sgiliau’n unig yw diben y sesiynau hyn, ond hefyd eu defnyddio mewn lleoliad lleol sy’n hwyl ac yn ysbrydoli.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd dysgu dwyieithog gyda staff Darganfod Awdurdod y Parc yn yr amgylchedd allanol ar draws cwricwla llythrennedd, rhifedd, gwyddoniaeth a daearyddiaeth, cysylltwch â’r tîm: [email protected] neu 01646 624856.

online casinos UK

Author