Home » Bil Amaethyddiaeth (Cymru) hanner ffordd yna meddai UAC
Cymraeg

Bil Amaethyddiaeth (Cymru) hanner ffordd yna meddai UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi gwneud sylwadau ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru) gan ddweud bod y darn cynhwysfawr o ddeddfwriaeth hanner ffordd yna i ddarparu sylfaen sefydlog i ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru.

Cafodd drafft cyntaf y Bil ynghyd â’i ddogfennaeth ategol eu gosod gerbron y Senedd ar 26ain o Fedi, gan Weinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, cyn dadl yn y Senedd ar 27ain o Fedi.

Yn siarad ar ôl ei gyhoeddi, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:

“Mae’r Bil Amaethyddiaeth gyntaf erioed i Gymru wedi’i osod gerbron y Senedd, gan roi’r cyfle i ni ddatblygu polisïau ffermio a allai fod o fudd gwirioneddol i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd y Bil yn nodi’r ddeddfwriaeth gynhwysfawr ac yn sbarduno’r newid mwyaf i amaethyddiaeth yng Nghymru ers i’r DU ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

“Ers refferendwm Brexit, rydym wedi sefyll ein tir ac wedi dadlau o blaid ehangu egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy i gynnwys cynaliadwyedd economaidd ein ffermydd teuluol, cynhyrchu cynaliadwy o fwyd olrheiniadwy diogel, diwylliant Cymru a’n hiaith sy’n rhoi ystyriaeth lawn i nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac amcanion Cymreig eraill.

“Rydym felly’n falch o weld bod y Bil yn nodi pedwar amcan Rheoli Tir Cynaliadwy sy’n cynnwys cynhyrchu bwyd cynaliadwy a chynaliadwyedd yr iaith Gymraeg, a bydd gofyn i bob un ohonynt gyfrannu at y nodau llesiant.”

Ynghlwm wrth y rhain bydd yna ofyniad bod gweinidogion Cymru yn paratoi ac yn cyhoeddi adroddiadau bob pum mlynedd yn nodi’r cynnydd a wnaed ers i’r amcanion ddod i rym, ac yn ystyried amcanion o’r fath wrth gyflwyno mecanweithiau neu reoliadau cymorth newydd.

“Fodd bynnag, rydym ond wedi cyrraedd hanner ffordd gyda’r Bil hwn gan fod llawer o’r pryderon a godwyd gennym yn ein hymateb i Bapur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth y llynedd yn parhau. 

“Er nad yw’r rhestr o ddibenion y gellir darparu cymorth ar eu cyfer yn holl gynhwysfawr ac y gellir ei ddiwygio, ei ddileu ac ychwanegu ato, mae’n destun pryder nad yw llesiant economaidd busnesau fferm na’r Gymraeg wedi’u cynnwys yn benodol.

“Rhaid i ni sicrhau bod tâl ac amodau byw priodol i ffermwyr a gweithwyr mewn amaethyddiaeth ac elw digonol ar fuddsoddiad cyfalaf yn y diwydiant yn cael eu cynnwys fel amcanion diffiniedig o’r Bil. Heb egwyddorion sylfaenol o’r fath, bydd amcanion eraill y Bil yn cael eu tanseilio neu eu negyddu’n llwyr,” meddai.

Mae yna ddarpariaethau hefyd i gynyddu mynediad cyhoeddus i gefn gwlad, diffyg ystyriaeth i newydd-ddyfodiaid ifanc, a hepgor rheolau sy’n ymwneud â Safonau Gofynnol Cenedlaethol a Sancsiynau Sifil, a credir y cânt eu gweithredu maes o law.

Bydd y Bil nawr yn symud ymlaen drwy Gam un o’r broses seneddol tan ddechrau 2023 a fydd yn cynnwys archwiliad gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, ac yna’r Cyfnod Diwygio yn y Gwanwyn cyn pleidleisio arno yng Nghyfarfod Llawn y Senedd yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.

“Rhaid i ni nawr werthuso’r 500 tudalen o ddeddfwriaeth, y Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol fel y gallwn ddod o hyd i’r manylion yn y print mân a pharhau i weithio gydag Aelodau’r Senedd a phwyllgorau perthnasol i sicrhau bod y Bil yn cyflawni ar gyfer sector ffermio cynaliadwy ffyniannus yma yng Nghymru,” meddai.