Home » Bioamrywiaeth yn mynd law yn llaw â chynhyrchu bwyd
Cymraeg

Bioamrywiaeth yn mynd law yn llaw â chynhyrchu bwyd

FFERMWYR Cymru sydd yn y sefyllfa orau i ddynodi cynefinoedd pwysig a nodweddion hanesyddol ar ffermydd a fydd yn rhan o gynlluniau i gefnogi’r amgylchedd yn y dyfodol, yn ôl arbenigwr amaeth-amgylcheddol.

Roedd Dr Glenda Thomas, cyfarwyddwr Farming and Wildlife Advisory Group (FWAG) Cymru, oedd yn siaradwraig mewn gweminar Cyswllt Ffermio ar gynyddu bioamrywiaeth ar ffermydd Cymru, o’r farn bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn dda iawn am ddynodi cynefin ac mae ganddynt wybodaeth dda am leoliad blodau a chreaduriaid.

“Mae gan ffermwyr gyfoeth o wybodaeth am eu ffermydd eu hunain, rwy’n meddwl mai nhw yw’r bobl orau i ddynodi cynefinoedd ar eu fferm, a nodweddion hanesyddol hefyd, yn sicr,” dywedodd.

Mae ffermwyr o’r un farn gan i bleidlais a gynhaliwyd yn ystod y weminar a hwyluswyd gan Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth Cyswllt Ffermio, ddangos bod y mwyafrif llethol yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i ffermwyr greu eu cynlluniau bioamrywiaeth amgylcheddol fferm eu hunain.

Credai llawer o’r ffermwyr a ymatebodd i’r bleidlais eu bod mewn sefyllfa i gynyddu gwerth o ran bioamrywiaeth ar eu ffermydd a chredai pawb ond dau a ymatebodd bod gwerth bioamrywiaeth da a safonau amgylcheddol uchel ar ffermydd yn mynd law yn llaw â chynhyrchu bwyd.

Disgrifiodd y mwyafrif lefel y gwaith yr oeddent yn ei wneud ar hyn o bryd i gefnogi bioamrywiaeth ar eu ffermydd fel ‘cymedrol’, gan awgrymu mai cyllid yw’r prif rwystr sy’n eu hatal rhag gwneud mwy.

Bydd Cyswllt Ffermio ar y cyd â FWAG Cymru yn cynnal archwiliadau amgylcheddol ar dri o’i safleoedd arddangos y gwanwyn hwn, gan adlewyrchu pob sector amaethyddol.

Defnyddir arolygon gyda phwyslais ecolegol i ddynodi rhywogaethau o blanhigion a chreaduriaid.

Dywedodd Dr Thomas bod Cymru yn hanesyddol wedi bod â chynlluniau amgylcheddol oedd yn enghreifftiau da, gan gyfeirio at Tir Gofal a Tir Cymen fel enghreifftiau rhagorol o’r rhain, ac roedd gan Tir Cynnal â’i bwyslais ar reoli maetholion rôl werthfawr wrth reoli tail a slyri yn dda, yn arbennig ar ffermydd llaeth a bîff.

“Byddai parhau a datblygu Tir Cynnal, mae’n debyg, wedi osgoi’r angen am y rheoliadau Parthau Peryglon Nitradau sydd ar ein gwarthaf,” dywedodd.

“O ran adnabod cynefinoedd a phwysigrwydd rheoli cynefinoedd, rwy’n meddwl ein bod ni ymhell ar y blaen yn nyddiau Tir Gofal a Thir Cymen,” dywedodd.

“Roedd mwy o bwyslais ar adnabod cynefinoedd a rhywogaethau yn ofalus a mapio’r fferm yn drwyadl ac roedd pwyslais mawr hefyd ar nodweddion hanesyddol.

“Rwy’n meddwl ein bod wedi colli’n ffordd i raddau ar hynny yn Glastir oherwydd rwy’n teimlo ein bod wedi rhoi gormod o bwyslais ar waith papur yn hytrach na’r hyn sy’n mynd ymlaen yn ymarferol ar ffermydd i reoli a gwella cynefinoedd.”

Mae Dr Thomas yn gobeithio y bydd nodweddion hanesyddol yn chwarae rôl bwysicach mewn cynlluniau yn y dyfodol.

“Mae ganddynt werth pwysig o ran treftadaeth a gallant fod yn gynefinoedd ynddynt eu hunain,” dywedodd.

“Mae’r coed hynafol gwych sydd gennym ar ffermydd yn haeddu cael eu cofnodi fel nodweddion hanesyddol a nodweddion sydd, efallai, ddim yn cael y sylw y dylent, fel llwybrau defaid trwy waliau cerrig, camfeydd carreg, pyst giatiau carreg ac eraill.”

O ran rheoli cynefinoedd, dywedodd Dr Thomas ei bod yn eithriadol o bwysig gwerthfawrogi’r rôl sydd gan stoc yn hyn o beth.

“Mae defaid yn cael enw drwg ond maen nhw’n ardderchog i reoli rhai cynefinoedd,” awgrymodd.

“Gwerthfawrogir gwartheg yn fawr o ran rheoli cynefin gyda’u dull pori yn werthfawr wrth reoli llystyfiant garwach gan adael i blanhigion mwy bregus ffynnu.”

Gall cynefinoedd gael eu rheoli trwy ddulliau peirianyddol a chemegol hefyd ond mae hyn yn codi cyfyng gyngor, dywedodd.

“Mae’n ddifyr ystyried hyn oherwydd mae pwyslais ar ôl troed carbon ffermio a’i leihau felly bydd yn ddiddorol gweld sut y mae rheolaeth cynefinoedd yn datblygu mewn cynlluniau yn y dyfodol yng ngoleuni hynny.”

Rhaid peidio â diystyru sgiliau rheoli cnydau a hwsmonaeth ffermwyr, ychwanegodd Dr Thomas.

“Maent yn cael eu dibrisio yn ddifrifol ac os collwn ni’r rheini ni fyddwn yn eu cael yn ôl dros nos.”

Cred, yn y dyfodol, y bydd llawer o reoli cynefinoedd ar raddfa tirwedd, gyda ffermwyr yn gweithio gyda’i gilydd fel grŵp, fel sydd wedi digwydd gyda Chynllun Tir Comin Glastir, Cronfa Natur a’r Cynllun Rheolaeth Gynaliadwy.

Tags