Home » Blwyddyn Newydd, ffocws newydd ar yrfaoedd bwyd a diod yng Nghymru
Cymraeg

Blwyddyn Newydd, ffocws newydd ar yrfaoedd bwyd a diod yng Nghymru

MAE YMGYRCH i annog pobl i ystyried gyrfa newydd yn niwydiant bwyd a diod llwyddiannus Cymru wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru.

Mae ymgyrch newydd Gweithlu Bwyd Cymru, a gyflwynir gan Sgiliau Bwyd Cymru, yn arddangos y gyrfaoedd cyffrous ac amrywiol yn y diwydiant ac yn tynnu sylw at yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i unrhyw un sy’n bwriadu dechrau gyrfa newydd, i drosglwyddo sgiliau neu uwchsgilio a symud ymlaen.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae hysbysfwrdd swyddi ar-lein newydd yn fyw gyda nifer o swyddi gwag ar gael ar draws y sector.

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Rwy’n falch o’r ffordd y mae ein diwydiant bwyd a diod wedi cynnal eu busnes yn ystod cyfnod anodd a chythryblus.

“Rydym i gyd am weld y sector yn tyfu ymhellach ac mae’r ymgyrch hon yn taflu goleuni ar y rolau a’r cyfleoedd amrywiol, cyffrous a gwerth chweil sy’n hanfodol i’n diwydiant bwyd a diod yma yng Nghymru.

“Gydag effaith y pandemig yn parhau i lywio gwerthusiad pobl o amgylchiadau a llwybrau gyrfa, mae llawer o resymau dros ddewis gyrfa yn y diwydiant hwn sy’n datblygu’n gyflym. Gyda cyflogau sy’n codi ac sy’n gystadleuol yn ogystal â llawer o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a thwf, gall swydd yn y diwydiant bwyd a diod fod yn yrfa am oes.”

online casinos UK

Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn ffynnu ac nid yn unig yn rhoi bwyd ar fwrdd y genedl, ond hefyd yn rhoi Cymru ar y llwyfan byd-eang gyda’i chynnyrch sy’n amlwg yn rhyngwladol. Nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu gwerth y sector i £8.5bn yn ogystal â chynyddu nifer y gweithwyr yn y sector sy’n derbyn Cyflog Byw Cymru i 80%, erbyn 2025.

Wrth geisio creu un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd, bu diddordeb enfawr mewn bwyd a diod o Gymru yn y DU a thu hwnt, gyda gweithgynhyrchwyr a busnesau ledled Cymru yn ymateb yn gyflym i’r galw cynyddol.

Mae nifer o ffyrdd o ymuno â’r diwydiant uchelgeisiol a gwerth chweil hwn; o brentisiaethau a rhaglenni dysgu i rolau gweithredol sy’n wynebu cwsmeriaid yn ogystal â chyfleoedd arwain a rheoli.

Mae bwrdd swyddi newydd Gweithlu Bwyd Cymru yn fyw ac yn llawn cyfleoedd i’r rhai sy’n chwilio am yrfa newydd neu wahanol. Mae gwefan yr ymgyrch hefyd yn cynnig llawer o gymorth, cyngor ac arweiniad i helpu i lywio’r gwahanol gyfleoedd gyrfa a meysydd busnes a allai fod o ddiddordeb i’r rhai sy’n dymuno archwilio ymhellach.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Gan gydnabod gwerth y bobl sy’n cynnal eu busnes a phwysigrwydd meithrin doniau a datblygu sgiliau, mae cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru yn buddsoddi mewn pobl drwy greu cyfleoedd i unigolion ledled Cymru.

“Mae’r sector bwyd wrth wraidd yr economi sylfaenol ac rydym i gyd yn dibynnu ar gyflenwad cyson a dibynadwy o fwyd i archfarchnadoedd ac ar ein platiau. Mae’r diwydiant yn hanfodol i ffyniant economi Cymru yn y dyfodol a bydd yr ymgyrch hon yn bwysig o ran denu newydd-ddyfodiaid a diogelu’r sector yn y dyfodol.”

Dywedodd Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: “Bydd ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru yn cefnogi busnesau wrth iddynt barhau i dyfu drwy arddangos yr ystod amrywiol o rolau sy’n allweddol i lwyddiant ein diwydiant gweithgynhyrchu llewyrchus.

“Bydd yr ymgyrch hefyd yn helpu busnesau i adeiladu ar fomentwm trawsnewid diwydiant bwyd a diod Cymru ar gyfer y dyfodol”

Yn allweddol i lwyddiant ac enw da safle Budweiser Brewing ym Magwyr yng Nghasnewydd, yw ei weithlu medrus ac amrywiol iawn o dros 500 o weithwyr. Mae’r cwmni’n parhau i fuddsoddi i helpu ei weithwyr i ddatblygu sgiliau newydd sy’n chwarae rhan bwysig yn nyfodol y busnes a’i gymuned.

Dywedodd Rheolwr y Bragdy Lloyd Manship: “Rydym yn buddsoddi’n helaeth yn ein cynllun prentisiaeth; i mi, mae hynny’n gwbl hanfodol, yn enwedig ar ôl symud ymlaen fel prentis drwy’r busnes fy hun. Rwyf wedi gweld drosof fy hunan bwysigrwydd buddsoddi mewn pobl.”

Mae ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru i’w gweld yn: https://www.foodskills.cymru/cy/gweithlu-bwyd-cymru/

Author