Home » Brechu rhag COVID-19 – Cyhoeddiad y JCVI am raglen pigiadau atgyfnerthu yn yr hydref
Cymraeg Health

Brechu rhag COVID-19 – Cyhoeddiad y JCVI am raglen pigiadau atgyfnerthu yn yr hydref

Yn dilyn wythnosau o drafod ac ystyried tystiolaeth, mae'r JCVI wedi darparu ei gyngor terfynol, sy'n argymell ymgyrch atgyfnerthu'r hydref ar gyfer rhai grwpiau

HEDDIW, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi ei gyngor terfynol ar y cam nesaf yn y rhaglen Frechu rhag COVID-19 – sef ymgyrch pigiadau atgyfnerthu yn yr hydref. Mae hyn yn rhoi’r eglurder angenrheidiol inni fwrw ymlaen â’r cam nesaf. Hoffwn ddiolch i’r JCVI am ei gyngor. Rwyf wedi derbyn y cyngor hwnnw, felly bydd Cymru yn dechrau rhoi’r rhaglen Pigiadau Atgyfnerthu ar waith wythnos nesaf.

Rai wythnosau yn ôl, gofynnwyd i’r JCVI a ddylid lansio ymgyrch i roi dos atgyfnerthu o frechlyn COVID-19 i bobl, yn sgil tystiolaeth a oedd yn dod i’r amlwg fod imiwnedd yn lleihau dros amser. Ar ôl trafod ac ystyried y dystiolaeth dros yr wythnosau diwethaf, mae’r JCVI wedi darparu ei gyngor terfynol, gan argymell yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu yn yr hydref ar gyfer grwpiau penodol. Y nod yw lleihau mynychder COVID-19 ymhellach a sicrhau’r amddiffyniad gorau posibl i’r rhai sydd yn y perygl mwyaf o gael haint difrifol, a hynny cyn misoedd y gaeaf.

Yn ei gyngor terfynol, mae’r JCVI yn argymell y dylai unigolion a oedd yn gymwys ac a gafodd eu brechu yng Ngham 1 o’r rhaglen Frechu rhag COVID-19 (grwpiau blaenoriaeth 1-9) gael cynnig trydydd dos atgyfnerthu o frechlyn COVID-19. Bydd angen i o leiaf 6 mis fod wedi bod ers yr ail ddos. Argymhellir brechlyn mRNA (Pfizer-BioNTech neu Moderna) ni waeth pa frechlyn a roddwyd yn y prif ddos.

Mae’r grŵp blaenoriaeth yn rhestru:

• Pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl ar gyfer oedolion hŷn

• Pob oedolyn 50 oed a throsodd

online casinos UK

• Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng-flaen

• Pawb rhwng 16 a 49 oed sydd â chyflyrau iechyd isorweddol sy’n golygu bod

mwy o berygl y byddant yn cael COVID-19 difrifol (fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd), a gofalwyr sy’n oedolion

• Oedolion ar aelwydydd sy’n gysylltiadau i unigolion sydd â llai o imiwnedd

Gan mai dim ond ddiwedd yr haf y cafodd y rhan fwyaf o oedolion ifanc eu hail frechlyn COVID-19, caiff y manteision o roi pigiad atgyfnerthu i’r grŵp hwn eu hystyried yn ddiweddarach gan y JCVI, pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.

Mae’n bosibl y bydd cyfleoedd i roi’r brechlyn COVID-19 a’r brechlyn ffliw gyda’i gilydd, ond dim ond pan fydd yr amser a’r logisteg yn caniatáu hynny.

Rydym wedi bod yn cynllunio gyda byrddau iechyd dros fisoedd yr haf i gael rhaglen pigiadau atgyfnerthu yn yr hydref. Rwy’n hyderus bod ein GIG yn barod i ddarparu’r rhaglen hon, a byddwn yn dechrau yr wythnos nesaf drwy gynnig pigiad atgyfnerthu i bobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal a staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng-flaen.

Mae’n bwysig bod y rheini sy’n gymwys yn unol â chyngor y JCVI yn cael dos atgyfnerthu’r brechlyn COVID-19 pan cânt eu galw i gael apwyntiad, gan fod posibilrwydd bod imiwnedd eu dosau blaenorol yn lleihau dros amser.

Y brechlyn yw’r ffordd orau o hyd i atal salwch difrifol ac atal COVID-19 rhag lledaenu, a chaiff pob oedolyn cymwys ei annog i gael y ddau ddos, a’r dos atgyfnerthu pan ofynnir iddynt, os ydynt yn gymwys.

Author