Home » Bydd cyllid newydd gan bennaeth yr heddlu yn helpu i fynd i’r afael â chynnydd pryderus mewn dioddefwyr cam-drin domestig
Cymraeg

Bydd cyllid newydd gan bennaeth yr heddlu yn helpu i fynd i’r afael â chynnydd pryderus mewn dioddefwyr cam-drin domestig

MAE gwasanaeth cam-drin domestig wedi sicrhau cyllid ychwanegol i fynd i’r afael â chynnydd “pryderus” yn nifer y dioddefwyr – gan gynnwys nifer cynyddol o fechgyn a dynion ifanc sy’n cael eu heffeithio.

Yn ôl Gorwel, sy’n rhan o gymdeithas dai, Grŵp Cynefin, bu cynnydd o 35 y cant yn nifer y bobl sy’n cael eu cyfeirio atynt o Wynedd a Môn yn ystod y pandemig.

Maent bellach wedi derbyn £150,000 yn ychwanegol gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, sydd newydd ei ethol ac sy’n ymgyrchydd angerddol yn erbyn cam-drin domestig.

Mae’r arian ychwanegol a dderbynnir gan Gorwel yn rhan o becyn gwerth £1.3 miliwn sy’n cael ei rannu rhwng nifer o sefydliadau sy’n gweithio gyda dioddefwyr cam-driniaeth yng Ngogledd Cymru.

Ymhlith y derbynwyr eraill mae’r Ganolfan Gymorth Treisio a Cham-drin Rhywiol (RASASC), Stepping Stones Gogledd Cymru, Uned Gymorth Cam-drin Domestig y Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Gogledd Cymru.

Bydd Gorwel yn defnyddio’r arian i benodi tri Chynghorydd Cam-drin Domestig Annibynnol (CCDA) newydd i weithio yn eu tîm cam-drin domestig risg uchel.

online casinos UK

Yn ogystal â dwy aelod o staff benywaidd, maent hefyd am benodi aelod gwrywaidd cyntaf eu tîm CCDA yn ogystal â swyddog plant a phobl ifanc gwyrywaidd, yn ddelfrydol siaradwyr Cymraeg, a all fod yn fodel rôl cadarnhaol i blant a phobl ifanc sy’n cael eu cefnogi gan Gorwel.

Bydd y triawd yn cydweithio â sawl asiantaeth, gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru, i gefnogi dioddefwyr cam-drin.

Dywedodd Osian Elis, rheolwr cynorthwyol Gorwel: “Prin iawn yw’r gweithwyr cymorth cam-drin domestig gwrywaidd, sef dim ond chwech o’n gweithlu o 70 o bobl.

“Mae prinder difrifol o weithwyr gwrywaidd ar draws gwasanaethau cymorth cam-drin domestig yn gyffredinol a gobeithiwn y bydd y swydd wrywaidd newydd yn darparu model rôl cadarnhaol i’r bechgyn a’r dynion ifanc y mae’n eu cefnogi.

“Gyda nifer y bechgyn a dynion ifanc gaiff eu heffeithio yn cynyddu, mae angen i ni allu darparu modelau rôl gwrywaidd cadarnhaol i helpu i leihau effaith profiadau plentyndod sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig.

“Mae’r plant a’r bobl ifanc rydyn ni’n eu cefnogi yn cael eu heffeithio oherwydd iddynt fod yn dyst i gam-drin domestig, bod yn ddioddefwr eu hunain, neu hyd yn oed yn ymwneud â cham-driniaeth plentyn i riant ymysg pobl ifanc yn eu harddegau.”

Gellir darparu hyfforddiant arbenigol ar gyfer y swyddi, a bydd y rhai a benodir yn derbyn goruchwyliaeth glinigol reolaidd ac yn elwa o gynllun lles staff Grŵp Cynefin.

Mae Osian yn gobeithio y bydd yr hyfforddiant a’r gefnogaeth yn denu diddordeb gan ymgeiswyr na fyddent o bosib yn gweithio yn y sector ar hyn o bryd.

Yn gogydd cymwysiedig a fu’n gweithio fel rheolwr bwyty ac yna yn y cyfryngau, cychwynnodd Osian ei yrfa mewn gwasanaethau cefnogi 20 mlynedd yn ôl, wedi gwirfoddoli a gweithio gyda phobl ddigartref. Mae’n un o’r ychydig ddynion sy’n gweithio ym maes cam-drin domestig.

“Pan rydyn ni’n recriwtio, mae mwyafrif yr ymgeiswyr yn ferched, felly mae gwir angen i ni godi ymwybyddiaeth o’r angen am ddynion ar gyfer rhai o’r rolau hyn,” meddai.

“Nid yw’n hawdd dod o hyd i weithwyr cymorth gwrywaidd, ac yn enwedig gweithwyr cymorth gwrywaidd sy’n siarad Cymraeg. Ond dwi’n annog i unrhyw un fyddai’n falch o gael mwy o wybodaeth, yn gymwysiedig ai peidio, beth bynnag fo lefel eu Cymraeg, i gysylltu â ni.

“Mae’n yrfa gwerth chweil sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau a dyfodol plant a phobl. Byddwch hefyd yn cael yr holl fuddion o weithio i Grŵp Cynefin a’r gefnogaeth staff.”

Yn y 12 mis hyd at ddiwedd Ebrill 2021, cefnogwyd 342 o blant a phobl ifanc, cynnydd o 253 yn 2019/20. Roedd hyn yn cynnwys cynnydd yn nifer y gwrywod yr effeithiwyd arnynt, o 119 i 141.

Bu tîm cam-drin domestig risg uchel y sefydliad, CCDA, hefyd yn gweithio gyda mwy o unigolion, gyda 525 yn cael cefnogaeth, cynnydd o 495. O’r cyfanswm hwnnw, roedd 47 yn ddynion o’i chymharu â 40 y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Fel Llysgennad Rhuban Gwyn, mae mynd i’r afael â cham-drin domestig yn flaenoriaeth allweddol i mi, felly dwi’n falch iawn fy mod wedi gallu sicrhau’r cyllid ychwanegol sylweddol hwn i gefnogi gwaith hynod bwysig sefydliadau fel Gorwel.

“Mae’r ffaith ein bod ni wedi bod dan glo am gyhyd dros y flwyddyn ddiwethaf wedi gwaethygu’r broblem gyda phobl yn cael eu cadw yn eu cartrefi.

“Fel mae Gorwel yn sôn, mae wedi arwain at gynnydd pryderus mewn achosion felly mae angen gallu recriwtio mwy o staff rheng flaen i weithio gyda dioddefwyr sydd mewn perygl.

“Maent wedi nodi’r angen i benodi aelod gwrywaidd o staff a all fod yn fodel rôl cadarnhaol i fechgyn a dynion ifanc y mae trawma cam-drin domestig yn effeithio arnynt.”

Dywedodd Shan Lloyd Williams, prif weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae gwaith Gorwel yn hynod bwysig i Grŵp Cynefin. Mae’r ffigyrau sy’n dangos y cynnydd mewn cam-drin domestig yn peri gofid, ond rydym yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau dioddefwyr.

“Mae ein staff wedi bod, ac yn parhau i fod yn hynod gydwybodol ac ymroddedig yn ystod y pandemig, gan fynd y filltir ychwanegol i helpu i wneud dioddefwyr yn ddiogel.

“Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid ychwanegol hwn gan y comisiynydd – bydd tair swydd llawn amser ac un swydd rhan-amser yn ein galluogi i gyrraedd mwy o bobl sydd angen gwasanaethau Gorwel, a bydd cael staff gwrywaidd sy’n ymroddedig i helpu plant a phobl ifanc yn ased gwerthfawr a phwysig o fewn y tîm.”

Author