Yn ei chyfarfod Bwrdd cyntaf fel cadeirydd newydd Hybu Cig Cymru (HCC), mae Catherine Smith wedi nodi blaenoriaethau’r bwrdd ardoll ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.
Yn y cyfarfod – a gynhaliwyd yn rhithiol oherwydd cyfyngiadau COVID – croesawyd dau aelod newydd, sef Jack Evershed ac Emlyn Roberts. Cafwyd ddadansoddiad o ofynion y defnyddwyr wrth i Brydain ddod allan o’r cyfnod clo, a chadarnhawyd blaenoriaethau’r sefydliad ar gyfer y flwyddyn i ddod. Hwn oedd cyfarfod cyntaf y Bwrdd ers diwygio’r Ardoll Cig Coch ym mis Ebrill er mwyn rhoi gwell chwarae teg i Gymru.
Mae diwygio’r ardoll, a gyflawnwyd yn sgil y Bil Amaeth yn San Steffan a thrafodaethau rhwng y tair llywodraeth, yn golygu y caiff yr ardoll i gynhyrchwyr ar anifeiliaid sy’n cael eu magu yng Nghymru ond sy’n cael eu lladd dros y ffin ei throsglwyddo i HCC ac na fydd Cymru’n ei cholli.
Dywedodd Catherine Smith: “Roedd diwygio’r Ardoll yn hir ddisgwyliedig, a bydd yn rhoi mwy o dryloywder a thegwch i ffermwyr yma yng Nghymru.
“Mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer y flwyddyn sy’n dod, pan fyddwn yn adeiladu ar y gwaith cadarnhaol iawn a wnaed gan HCC wrth ymateb yn effeithiol i heriau COVID a Brexit.
“Yn ganolog i’n cynlluniau, mae datblygu’r ymgysylltiad llwyddiannus â’r defnyddwyr a’r gwaith o adeiladu brand sydd wedi gweld cynnydd yng ngwerthiant cig coch dros y flwyddyn ddiwethaf, a Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cael eu gwerthu gan fwy o fân-werthwyr mawr.
“Rydym hefyd yn bwriadu gweithio’n agos â llywodraethau a’r cyrff sy’n bartneriaid i ni yn Lloegr a’r Alban i sicrhau mynediad i farchnadoedd newydd ar gyfer ein cynhyrchion ac i ddatblygu masnach.
“Yn ogystal, bydd HCC yn rhoi blaenoriaeth uchel iawn i hyrwyddo’r modd rydym yn arwain y byd o ran cynhyrchu cig oen a chig eidion yma yng Nghymru, gan adeiladu ar ein gweledigaeth, ‘Y Ffordd Gymreig’. Ar ben hyn, byddwn yn gwneud gwaith hanfodol, ochr yn ochr â phartneriaid mewn rhannau eraill o Brydain, i amddiffyn a gwella enw da ein diwydiant. Bydd yna gerrig milltir allweddol eleni – fel uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow. Mae’n hanfodol bod y cyhoedd yn deall nad yw pob dull o ffermio ledled y byd yr un fath, a bod gennym gyfraniad cadarnhaol i’w wneud tuag at gynaliadwyedd a diogelwch bwyd yn fyd-eang.”
Add Comment