Home » Carlamu uchelgais ffeibr llawn Cymru wrth i’r darparwr Ogi gynyddu’r gwaith o’i gyflwyno ar draws de Cymru
Business Cymraeg

Carlamu uchelgais ffeibr llawn Cymru wrth i’r darparwr Ogi gynyddu’r gwaith o’i gyflwyno ar draws de Cymru

MAE Ogi – ddarparwr band eang o Gymru – wedi cynyddu ei ymgyrch i ddod â chysylltedd Gigabit-alluog i gymunedau ledled Cymru. Mae 38 o drefi a phentrefi de Cymru bellach am elwa diolch i gam diweddaraf y cwmni, sy’n buddsoddi £200m ar draws y rhanbarth ar hyn o bryd.

Yn ymestyn y cynllun i ,  a  – bydd Ogi yn dechrau gwaith mewn rhai o’r ardaloedd hyn yn yr wythnosau nesaf. Mae cyhoeddiad heddiw yn dod â gwasanaethau tra chyflym Ogi i gyfanswm o saith Awdurdod Lleol, gan nodi newid gêr yn y cyrhaeddiad posib y cwmni.

Lansiodd Ogi ychydig dros flwyddyn yn ôl, gyda chynllun masnachol gwerth £200 miliwn i ddod â chysylltedd ffeibr llawn i gymunedau sydd wedi ei chael hi’n anodd cysylltu yn y gorffennol. Mae’r garreg filltir ddiweddaraf hon yn nhwf Ogi yn gweld y cwmni’n cyflymu ei raglen uchelgeisiol – darpariaeth fydd ar gael i 80,000 o gartrefi a busnesai yn y pen draw.

Nid yw’r cwmni’n dangos unrhyw arwydd o arafu; mae niferoedd staff wedi cynyddu o 20 i bron i 140 dros y 18 mis diwethaf; ac maent wedi  yng Nghasnewydd, Tongwynlais, Caerdydd a San Clêr, er mwyn cefnogi mwy o staff i fyw a gweithio’n lleol.

Daw ymdrechion Ogi i wella mynediad band eang wrth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd, a Seilwaith y Senedd alw ar Lywodraeth Cymru i . Yn wir, mae cyhoeddiad heddiw yn rhoi Ogi ar lwybr i ddod â ffeibr i draean o Sir Benfro wedi i’r gwaith cael ei chwpla.

Tu hwnt i ardaloedd gwledig, mae’r cynllun diweddaraf yn gweld Ogi yn ymestyn ei ôl troed i ardaloedd ôl-ddiwydiannol megis Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Rhondda Cynon Taf. A chyda gwaith y cwmni’n chwistrellu tua £6m i lefydd fel Hwlffordd, yn ogystal ag amcangyfrif o effaith economaidd gwerth hyd at bum gwaith y buddsoddiad cychwynnol, bydd newyddion heddiw yn groeso mawr i economïau lleol ar draws y rhanbarth.

online casinos UK

Wrth gyhoeddi’r ardaloedd newydd, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Ogi, Ben Allwright: “Mae Ogi yn arwain chwyldro digidol Cymru drwy ddod â seilwaith ffeibr llawn i ardaloedd sydd wir ei angen.

“Mae’r cymunedau eiconig hyn yn byrlymu gydag arloesedd a chreadigrwydd – ac maen nhw’n haeddu’r cysylltedd gorau i’w helpu i wireddu eu potensial. Fel ryn ni’n gweld mewn llefydd fel Sir Benfro, dim ond Ogi all darparu hyn. Mae ein rhwydweithiau’n galluogi busnesau i dyfu, ble bynnag y maent wedi’u lleoli; helpu pobl i weithio’n agosach at ble maen nhw’n byw; a theuluoedd i brofi’r adloniant cartref gorau posib.”

Wrth gefnogi’r cyhoeddiad diweddaraf, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS: “Does dim modd tanbrisio effaith band eang cyflym a fforddiadwy i gartrefi a busnesau ar draws Cymru.

“Mae Ogi yn helpu i gyrraedd y safon honno ar draws de Cymru, gan gefnogi Cymru yn ei hymgyrch i fod yn genedl ddigidol.”

Dim ond 1 o bob 3 adeilad yng Nghymru sydd â mynediad at gysylltedd ffeibr-optig llawn ar hyn o bryd, gyda Phrydain yn llusgo y tu ôl yn gyffredinol i gymharu â gweddill Ewrop, lle gall darpariaeth fod mor uchel â 90%. Bydd cynllun diweddaraf Ogi yn helpu cau rhaniad digidol y DU mewn ardaloedd sy’n aml yn cael eu labelu fel rhai ‘wedi’u gadael ar ôl’.

Mae gwaith arolygu eisoes ar y gweill mewn llawer o’r ardaloedd hyn, gyda gweithgaredd yn dechrau ar lefel stryd dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Bydd cartrefi a busnesau yn llawer o’r cymunedau hyn yn gallu manteisio ar wasanaeth tra chyflym Ogi o fis Medi [2022] ymlaen.

Author