Home » Cate Le Bon yn curadu o Gymru i California
Cymraeg

Cate Le Bon yn curadu o Gymru i California

Cate Le Bon fydd yn dewis a dethol artistiaid blaenllaw yn y bennod nesaf o Curadur.

Mewn rhaglen arbennig awr o hyd bydd y cerddor o Orllewin Cymru sydd nawr yn byw yng Nhgaliffornia, yn galw ar llond llaw o artistiaid talentog sydd wedi dylanwadu arni i sgwrsio a perfformio traciau. 

Bydd cyfle cyntaf i wylio ar S4C yn gyntaf, ar nos Iau (31 Mawrth) am 10.00, cyn i’r rhaglen fod ar gael ar S4C Clic ac iPlayer.

“Dwi’n dod o Benboyr, ger Llandysul,” meddai Cate. “Fi di bod yn byw on a off yn America ers tua 10 mlynedd. Nesi symud i Los Angeles yn 2012, gwario peth amser yn San Fransisco a bellach wedi symud i’r anialwch ger Joshua Tree yn California. 

“Mae byw a bod mor bell o Gymru wedi rhoi persbectif hollol newydd ar fy Nghymreictod. Mae wedi gwneud i fi sylweddoli pa mor bwysig yw e i fi fel unigolyn.”

“Ar gychwyn y pandemig, nes i ffeindio fy hun yng Ngwlad yr Iâ yn cynhyrchu record John Grant. Nesi symyd yn ôl i Gymru am flwyddyn a tra yno, mi wnes i recordio record newydd fy hun sydd newydd ddod allan, â chwrdd â rhai o fy hoff artistiaid”.

online casinos UK

Yn ogystal â bod yn ganwr-gyfansoddwr uchel ei pharch, mae Cate yn cynhyrchu cerddoriaeth i eraill, felly mae ganddi naws am adnabod sain afaelgar. 

Wrth egluro sut y daeth ar draws y band cyntaf o’i dewis, Pys Melyn, dywedodd:

“Tra’n perfformio yn Neuadd Ogwen yn 2019, daeth Pys Melyn i gefn llwyfan. Oedd na rhywbeth am eu egni nhw, y ffordd o nhw gyda’i gilydd oedd mor annwyl a brydferth i fi, a nes i cwympo mewn cariad gyda nhw.”

Ar Curadur bydd Pys Melyn yn perfformio eu trac, Helynt, yn ogystal â pherfformiad ecsgliwsif o Dim Gwreiddyn gyda DRINKS, sef band Cate â’r cerddor adnabyddus o America, Tim Presley. 

Mae Tim wedi bod yn rhan o fandiau nodedig fel The Fall a White Fence. 

Ymhlith yr artistiad eraill sy’n serennu mae: Accu, Samur Khouja, Devendra Banhart, Courtney Barnett a Stella Mozgawa.

Bydd perfformiad byw o’r sengl, Moderation, oddi ar albwm newydd Cate, Pompeii. Recordiwyd y perfformiad yn Pappy and Harriet’s, lleoliad eiconig yn nhref Pioneertown ger cartref Cate yn California – gig olaf ei thaith o America.

Bydd hefyd cyfle i glustfeinio ar sgwrs agored rhwng Cate â hen ffrind, y cynhyrchydd â peiriannydd sain o Gaerdydd, Kris Jenkins.

Bydd y ddau yn bwrw golwg ar brofiadau cyntaf erioed Cate yn y stiwdio ac yn datgelu sut y daeth ei record gyntaf, Me Oh My, i fodolaeth – proses a gymrodd dros flwyddyn a llawer o arbrofi.

“Mi aetho ni’n llawer rhy bell,” meddai’r ddau wrth chwerthin.

Ers hynny, mae Cate Le Bon wedi rhyddhau 6 albwm a sawl EP a dau albwm fel rhan o DRINKS.

Am berfformiadau arbennig o ganeuon gwreiddiol sy’n dathlu cyfraniadau a dylanwadau cerddorol gan artistiaid ar draws cyfandiroedd America, Awstralia ac Ewrop, gwyliwch Curadur ar S4C am 10.00 nos Iau.

Mae’r dair gyfres gyfan o Curadur nawr ar gael i’w gwylio ar S4C Clic.

Author