Home » Cefnogaeth gan yr UE ar gyfer prosiect yn gwthio cyhoeddwr i’r oes ddigidol
Cymraeg

Cefnogaeth gan yr UE ar gyfer prosiect yn gwthio cyhoeddwr i’r oes ddigidol

MAE Golwg wedi lansio ap ffôn newydd ar gyfer plant bach gyda chymorth prosiect arloesol sy’n helpu Cymru i ddatblygu technolegau newydd ar gyfer ffonau symudol.

Mae CEMAS, y Ganolfan Ragoriaeth mewn Gwasanaethau Cymwysiadau Symudol ym Mhrifysgol De Cymru, wedi cynnig arbenigedd gwerthfawr iawn wrth ddatblygu’r ap, sy’n cynnwys anturiaethau Rwdlan, un o’r cymeriadau yn y comic i blant gan Golwg, ‘Wcw a’i Ffrindiau’.

Dywedodd Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg 360, gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg:

“Fyddai dim modd i ni ddatblygu Ap Wcw: Rwdlan heb gymorth CEMAS ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r tîm.

“Fel cwmni sydd wedi byw drwy werthu cyhoeddiadau print ers chwarter canrif, mae’n allweddol ein bod ni’n symud tuag at brosiectau digidol i sicrhau’n dyfodol hirdymor.”

Mae Golwg eisoes wedi gweithio gyda CEMAS wrth baratoi ap ar gyfer ei gylchgrawn newyddion a materion cyfredol wythnosol o’r un enw.
Dywedodd Owain:

“Mae CEMAS wedi bod o gymorth mawr i ni wrth i ni ddatblygu dau ap gwahanol iawn ar gyfer dyfeisiau iOS.

“Daethom ni i gysylltiad â’r tîm am y tro cyntaf wrth gynllunio ap ar gyfer ein cylchgrawn newyddion a materion cyfredol wythnosol – roedden ni eisoes mewn cysylltiad â nifer o gwmnïau oedd yn awyddus i ddatblygu’r prosiect i ni, ac fe gawsom ni gyngor ac arweiniad da gan CEMAS wrth gomisiynu rhywun i wneud y gwaith.

“Rydyn ni nawr wedi gweithio mewn partneriaeth gyda CEMAS i ddatblygu’n ap cyffrous newydd ar gyfer plant bach.

“Roedd CEMAS yn deall ein cysyniad ac yn awyddus i gyfrannu o’r cychwyn. Rwy’n credu, gyda’n gilydd, ein bod ni wedi creu ap llyfr straeon a lliwio unigryw a fydd yn boblogaidd iawn gyda phlant.”

online casinos UK

Mae CEMAS, sy’n gweithio ar gampws y Brifysgol yn Nhrefforest, mae CEMAS yn cael cefnogaeth o bron £3m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt:

“Rwy’n falch o glywed, drwy fuddsoddi arian yr Undeb Ewropeaidd yn llwyddiannus, ein bod ni’n helpu busnesau i fod yn fwy cystadleuol drwy gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Hyd yn hyn, mae prosiectau’r Undeb Ewropeaidd wedi helpu mwy na 142,000 o unigolion i ennill cymwysterau a thua 50,300 i gael gwaith. Hefyd, mae bron 19,800 o swyddi (crynswth) a bron 6,000 o fentrau wedi cael eu creu.”

Ers ei sefydlu yn 2011, mae CEMAS wedi helpu mwy na 50 o fentrau bach a chanolig yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, gyda rhagor ar y gweill, ac wedi creu 18 o aps.

Author