Home » Cefnogi 750 o entrepreneuriaid i ddechrau busnes yn ystod argyfwng y coronafeirws
Business Cymraeg

Cefnogi 750 o entrepreneuriaid i ddechrau busnes yn ystod argyfwng y coronafeirws

MAE KEN SKATES, Gweinidog yr Economi wedi datgelu bod gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi cefnogi 750 o entrepreneuriaid i ddechrau busnes neu i ddod yn hunangyflogedig yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Mae Covid-19 wedi effeithio ar yr economi a’r farchnad lafur ar raddfa na welwyd ei thebyg o’r blaen, gan fygwth i wrthdroi’r camau a gymerwyd dros y ddegawd ddiwethaf i leihau diweithdra ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru. Mae wedi golygu bod llawer o unigolion yn wynebu hyd yn oed mwy o rwystrau i ddechrau busnes neu gael mynediad i’r farchnad lafur nag o’r blaen.

Ond, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl o ganlyniad i argyfwng iechyd y cyhoedd ac mae hynny’n cynnwys cefnogi pobl i ddechrau menter busnes newydd ac achub ar y cyfleoedd economaidd a’r newidiadau i ffordd o fyw a ysgogwyd gan y pandemig.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos ers dechrau’r pandemig, mae Busnes Cymru wedi cefnogi entrepreneuriaid Cymru i sefydlu busnesau mewn amrywiaeth o sectorau, o gynhyrchu a manwerthu rhoddion personol, i adeiladu, creadigol a gwasanaethau bwyd a diod. Mae hefyd yn dangos bod llawer o entrepreneuriaid yn canolbwyntio ar ddatblygu presenoldeb digidol eu busnes a bod nifer y busnesau sy’n seiliedig yn y gymuned wedi cynyddu.

Ochr yn ochr â phecyn cymorth digyffelyb i fusnesau, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfleoedd i ailhyfforddi ac uwchsgilio mewn ardaloedd newydd a rhai sydd â photensial i dyfu diolch i fuddsoddiad o bron i £40 miliwn. Mae’r cyllid hwn wedi sicrhau y gall unrhyw un dros 16 oed yng Nghymru gael cyngor a chymorth i ddod o hyd i waith, mynd ar drywydd hunangyflogaeth neu ddod o hyd i le mewn addysg neu hyfforddiant. Mae hefyd wedi targedu unigolion ym Marchnad Lafur Cymru sydd fwyaf tebygol o’i chael yn anodd.

Un elfen bwysig o becyn cymorth Llywodraeth Cymru yw’r Gronfa Rhwystrau gwerth £1.2m sydd wedi’i chynllunio i helpu pobl anabl, Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, menywod a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant, i gael cymorth wedi’i dargedu i’w helpu i ddechrau eu busnes eu hunain.

Un o’r rhai sydd wedi elwa yw Suzanne Burgess, gofalwr llawn amser o Geredigion, sydd wedi dechrau ei busnes harddwch naturiol ei hun, Green Heart Aromatics.

Dywedodd: “Gan fy mod yn ofalwr llawn amser i’m plentyn anabl, roedd yn rhaid i mi ddod o hyd i ffordd o wneud arian o gartref yn ystod y pandemig.

“Dechreuais gwrs ar-lein mewn cynnyrch cosmetig naturiol a pherffeithio fformiwla unigryw ar gyfer bar siampŵ organig, fegan wedi’i wneud gydag olew naturiol, menyn a chynhwysion atgyfnerthol yr oeddwn am eu cyflwyno i’r farchnad.

“Oni bai am y Grant Rhwystrau byddai fy niddordeb yn dal i fod yn hobi, ond rwy’n awr yn gweld fy hun fel entrepreneur a pherchennog busnes bach. Mae hyn wedi rhoi gobaith i mi a llawer iawn o hunanwerth gan fod bywyd fel gofalwr yn unig ac yn anodd.

online casinos UK

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi: “Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cymryd camau pwysig i ddiogelu swyddi a darparu cyfleoedd newydd i unigolion gan gynnwys drwy hunangyflogaeth. Mae wedi bod yn un o’r cyfnodau mwyaf heriol y mae unrhyw un ohonom wedi’i brofi erioed.

“Mae’r pandemig wedi trawsnewid sut rydym i gyd yn byw ac yn gwario ein harian ac rwy’n falch iawn bod cynifer o bobl wedi gallu cael mynediad i’n pecynnau cymorth nid yn unig i oroesi yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn, ond i gymryd y cam dewr o ddechrau menter newydd.

“Byddwn yn dod allan o’r pandemig hwn ac mae’r Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi a lansiais yr wythnos hon yn nodi ein gweledigaeth o ran sut y byddwn yn gwneud hynny. Y nod yw y bydd economi ôl-bandemig Cymru yn sbarduno ffyniant yn gyfartal ac yn helpu pawb i wireddu eu potensial. Mae harneisio diwylliant entrepreneuraidd bywiog i greu mwy o fusnesau newydd yn rhan allweddol o hyn.”

Author