Home » Cefnogwch gynhyrchwyr o Gymru ar ddydd gŵyl dewi gyda ‘Cwtsh’ Caru Cymru
Cymraeg

Cefnogwch gynhyrchwyr o Gymru ar ddydd gŵyl dewi gyda ‘Cwtsh’ Caru Cymru

MAE SIOPWYR yn cael eu hannog i fanteisio ar fwyd a diod o Gymru y Dydd Gŵyl Dewi hwn drwy gefnogi busnesau lleol.
 
Dros y penwythnos yn arwain at 1 Mawrth – ac ar y diwrnod ei hun – bydd bron i 100 o gynhyrchwyr a masnachwyr ledled Cymru yn cymryd rhan mewn hwb digidol i ddenu cwsmeriaid a dwyn y gymuned ynghyd drwy’r cyfnodau anodd hyn.

Fel rhan o’r ymgyrch #CaruCymruCaruBlas, bydd cynhyrchwyr a masnachwyr yn anfon ‘cwtsh’ rhithiol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
 
Lansiwyd ymgyrch #CaruCymruCaruBlas Llywodraeth Cymru haf diwethaf er mwyn diolch i’r rheiny sy’n gweithio’n ddi-baid i fwydo’r genedl yn ystod pandemig y coronafeirws.
 
Denodd #CaruCymruCaruBlas ddychymyg y cyhoedd a hawliodd gefnogaeth gan enwogion. Cafodd groeso gan fusnesau ar draws sectorau bwyd a diod Cymru a rannodd eu straeon ar gyfryngau cymdeithasol.
 
Gan ddefnyddio adnoddau, megis map cynhyrchwyr Cymru gan Cywain (cywain.cymru), caiff siopwyr eu cyfeirio at gynhyrchwyr a channoedd o gynhyrchion bwyd a diod yng Nghymru gydag un clic.
 
Mae gweithgaredd ar-lein #CaruCymruCaruBlas Dydd Gŵyl Dewi yn ymwneud â chreu ffilm fer wedi’i hanimeiddio – gan gynnwys ‘cwtsh’ #CaruCymruCaruBlas. Mae’r ffilm wedi’i haddasu i bob busnes a fydd yn ei rhannu ar draws eu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gyda chefnogaeth ymgyrch hysbysebu digidol.
 
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Wrth i ni barhau i glywed nifer o enghreifftiau gwych o unigolion a busnesau wedi mynd i’r afael â’r heriau mae Covid-19 wedi eu peri, hoffem ddweud diolch yn fawr i’r holl weithwyr allweddol yn ein diwydiant bwyd a diod. 

Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi’r Dydd Gŵyl Dewi hwn, wrth i ni barhau i gefnogi busnesau bwyd a diod Cymru. Cynorthwywch ni i wneud ymgyrch #CaruCymruCaruBlas yn llwyddiant ysgubol a rhannu balchder, angerdd a gwytnwch diwydiant bwyd a diod Cymru. Gan ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi!”

Author